Partneriaethau Rhwng Dinasyddion a Darparwyr Ar Gyfer Gwasanaethau Gofal a Chymorth

Rhan bwysig o’r gwasanaeth Cydweithredu i Ofalu yw helpu i ddatblygu partneriaethau ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth.

16 Mar, 17

Rhan bwysig o’r gwasanaeth Cydweithredu i Ofalu yw helpu i ddatblygu partneriaethau ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth. Un ffordd yr ydym wedi bod yn gwneud hyn yw trwy gefnogi nifer o sefydliadau yn y trydydd sector i ffurfio partneriaethau, er mwyn gwneud cynigion ar y cyd am gontractau’r Awdurdod Lleol. Er bod hyn yn rhan allweddol o gyflawni Cymru well a mwy cydweithredol, nid yw ond yn crafu’r wyneb o ran yr hyn y gall partneriaethau ei olygu i’r sector.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, grwpiau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, a’r trydydd sector wrth ddarparu gofal, cymorth a gwasanaethau ataliol. Yn fwy na hynny, mae’r canllawiau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu gwasanaethau sy’n cynnwys dinasyddion wrth gydgynhyrchu gwasanaethau, a hynny ar lefel unigol, sefydliadol a strategol. Mae nifer o’r sefydliadau yr ydym yn cydweithio â nhw bellach yn awyddus i fwrw ymlaen â chynlluniau arloesol i gyflawni hyn trwy weithio mewn partneriaeth gydweithredol â dinasyddion.[1]

Felly, sut beth yw partneriaeth gydweithredol? Wel, os dychmygwn bartneriaeth draddodiadol rhwng sefydliadau, bydd nifer o sefydliadau darparu yn dod ynghyd i rannu gwybodaeth ac adnoddau, er mwyn darparu gwasanaeth. Gan ddefnyddio’r un model sylfaenol hwn, yn hytrach na dim ond sefydliadau darparu yn dod ynghyd i ffurfio’r bartneriaeth, gadewch i ni ddychmygu ei bod ‘nawr yn gallu cynnwys grŵp o ddinasyddion fel ‘sefydliad’ partner yn ei hanfod ei hun. Er enghraifft, gallai tenantiaid sy’n rhan o gynllun tai, sy’n cael gofal cartref gan asiantaeth allanol, ffurfio eu pwyllgor eu hunain er mwyn gweithio mewn partneriaeth â’r darparwr tai neu’r asiantaeth ofal i gynllunio’r gwaith o gydgysylltu gwasanaethau.

Gall Cydweithredu i Ofalu gefnogi’r dinasyddion i ffurfio eu pwyllgor, ac yna, yn ei dro, helpu i sefydlu model partneriaeth sy’n rhoi statws cyfartal iddynt hwy a’r darparwyr wrth wneud penderfyniadau strategol. Trwy gydweithredu yn y ffordd hon, mae gan ddinasyddion bellach lais cyfartal wrth bennu’r canlyniadau, a phenderfynu sut y dylai gwasanaethau gael eu cynllunio a’u darparu. Enghraifft bosibl arall fyddai lle bo awdurdod lleol yn ceisio annog ffordd o ddatblygu gwasanaethau newydd sy’n cael ei harwain gan y gymuned. Gallai hyn gynnwys datblygu partneriaeth rhyngddynt eu hunain, grŵp dinasyddion lleol, ac un neu fwy o fentrau cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal.

Mae’r ffordd hon o ymdrin â phartneriaethau rhwng darparwyr a dinasyddion yn cynnig potensial gwirioneddol i helpu i wireddu gweledigaeth y Ddeddf. Nid yw’n gofyn i ddinasyddion ymgymryd â gweithgareddau gweithredol, nac yn gosod baich rhy fawr arnynt o ran eu hamser. Fodd bynnag, mae’n rhoi cyfle iddynt gydweithredu â’i gilydd dros faterion pwysig sy’n ymwneud â’u hiechyd a’u lles. Yn hytrach na bod yn bobl yr ymgynghorir â nhw ac y ‘gwrandewir arnynt’, mae’n sicrhau bod gan ddinasyddion bellach gyfran o’r rheolaeth dros faterion llywodraethu a phenderfyniadau.

Bydd Cydweithredu i Ofalu yn parhau i weithio gyda grwpiau a sefydliadau i wireddu gweledigaeth y Ddeddf, ac i ddatblygu atebion cydweithredol sy’n sicrhau gwell canlyniadau o ran lles i ddinasyddion Cymru.

[1]Cyfeiriad mewnol: Cyngor Ynys Môn a Cartrefi Conwy