Blog | Tai

Deng niwrnod a gipiodd y byd

Mae'r Swyddog Tai dan arweiniad y gymuned Allan Shepherd yn disgrifio ei brofiad o fyw trwy bandemig Covid-19

By Catherine Evans · April 22, 2020

See this page in: English

‘The past is a foreign country’ [‘Mae’r gorffennol yn wlad estron’], ysgrifennodd L P Hartley yn llinell gyntaf ei nofel The Go-between, wrth ddisgrifio digwyddiad a brofodd yr adroddwr oedrannus yn ystod ei blentyndod. Nawr, dim ond deng niwrnod yn ôl yw’r gorffennol. Gallwn gymhwyso ail ran llinell agoriadol Hartley i’r ddynoliaeth (heb falchder): ‘they do things differently there’ [‘maen nhw’n gwneud pethau’n wahanol yno’]. Rwy’n gweithio fel Galluogwr Tai Cymunedol i Ganolfan Cydweithredol Cymru, a deng niwrnod yn ôl cymerais y diwrnod cyntaf o gyfnod gwyliau blynyddol wedi’i drefnu ymlaen llaw. Erbyn i mi ddod yn ôl (at y ddesg yn f’ystafell wely), roedd y byd dynol wedi newid am byth.

Fy ngwaith yw helpu cymunedau i greu cartrefi newydd

Nid wyf yn gallu cyfarfod â’r cymunedau hyn mwyach. Nid yn yr un ystafell, o leiaf. Nid wyf bellach yn gallu rhoi anerchiad, cynnal gweithdy, cyflwyno canfyddiadau mewn cynhadledd, oni bai fy mod i’n gwneud hynny drwy sgrin neu dros y ffôn. Rwy’n teimlo fel Teithiwr Amser HG Wells, ar goll mewn dyfodol a ddarganfyddais drwy hap a damwain. Fel yntau, nid oes gen i syniad a oes unrhyw ffordd yn ôl.

O fewn dyddiau, mae’n rhaid i mi ddysgu sut i roi gweminarau rhagorol, creu amgylcheddau dysgu sy’n creu cydberthynas dda trwy gyfryngau yr wyf ond yn gyfarwydd â nhw wrth fynd heibio. Ni fydda’ i mwyach yn teithio i ganolfannau cymunedol bach ym mhellteroedd pellaf Powys, nac yn baeddu fy nhraed ar safleoedd adeiladu. Mae fy nghar, a oedd yn offeryn hanfodol i’r swydd ddeng niwrnod yn ôl, wedi newid ei bwrpas fel cerbyd ymateb cymunedol ar gyfer dosbarthu bwyd a phresgripsiynau. Nid oes dim arall iddo wneud.

Mae ysgytwad anferthol wedi chwalu ein dealltwriaeth o beth yw normalrwydd

Caf rywfaint o gysur o wybod fod y normal newydd, sydd wedi’i fabwysiadu mor sydyn gan niferoedd aruthrol o bobl ledled y byd, yn mynd i fod yn well i’r byd an-ddynol ym mron pob achos. Mae byd natur yn mwynhau egwyl o weithgarwch gorffwyll pobl brysur, a phan ddown ni allan o hyn, rwy’n gobeithio y gallwn ddweud “reit, fe ddysgon ni rywbeth da o hyn, a gadewch i ni weithredu ar hynny”.

Bron yn sicr, bydd rhannau o’r normalrwydd newydd yn well i’r rhan fwyaf o bobl hefyd. Bydd llai o lygredd, llai o amser yn cael ei dreulio i ffwrdd oddi wrth deulu, cymunedau cryfach, mwy o bwyslais ar werthoedd sy’n cryfhau cymdeithas. Fe wnaeth Boris Johnson roi taw o’r diwedd ar haeriad Margaret Thatcher nad oes y fath beth â chymdeithas yn bodoli, ond heb unrhyw fath o ymddiheuriad er hynny.

Ond am nawr, mae llawer o bobl yn dioddef, yn byw mewn ansicrwydd mawr, yn colli’u bywydau, ac os nad eu bywydau, colli popeth y maent wedi’i adeiladu gyda gofal, cariad a chreadigrwydd. Mae llawer o bobl yn hawlio budd-daliadau am y tro cyntaf, ac mae perchnogion busnes yn gorfod gofyn i’r wladwriaeth am arian y byddai bron yn sicr yn well ganddynt ei gynhyrchu drwy eu llafur caled a’u hathrylith eu hunain. Mae yna ddegau o filoedd o weithwyr rheng flaen y GIG sy’n gorfod poeni nad yw’r Cyfarpar Diogelu Personol angenrheidiol ganddynt i’w cadw’n ddiogel. Mae nifer ohonynt, fel y gwyddom, eisoes wedi marw. Y tu allan i’r fyddin, pwy arall sydd yn barod i fynd i’w gwaith gan wybod na fyddant, efallai, yn dod nôl?

Fe wnaeth y newyddiadurwr, John Reed, ddisgrifio Chwyldro Rwsia, sef digwyddiad a newidiodd hanes y byd a bywydau biliynau o bobl, fel Ten Days’ That Shook the World

Mae’r wythnos a hanner diwethaf wedi bod yn ddeng niwrnod sydd wedi cipio’r byd. Y byd rydym ni’n ei adnabod, o leiaf. Mae llawer o bethau a oedd yn llawn cysur ac yn gyfarwydd i ni wedi diflannu dros nos, am y tro o leiaf. Sgyrsiau dros baned a chacen, peint ar ôl gwaith, canu mewn stadiymau pêl-droed, coffi gan rywun sy’n gwybod sut i wneud coffi iawn, gwasanaethau eglwys, gweddïau dydd Gwener, pasio pêl rygbi. Llawer o’r pethau y mae ein hunaniaeth ynghlwm â nhw. Mae’r gorffennol yn wlad estron. Ni allwn ni ddefnyddio ein Pasbortau Glas newydd hyd yn oed! Dyna beth yw eironi!

Gwyddom nawr sut deimlad ydyw i fod dan arestiad tŷ yn rhannol. Rhoi ein rhyddidau sylfaenol ac anwylaf ar seibiant, neu yn Saesneg ‘furloughed’, i ddefnyddio un o’r hen eiriau newydd yr ydym i gyd yn gorfod eu mabwysiadu yn ein sgwrs bob dydd. Ac eto, mae’r ffyrdd yn dawelach wrth i mi fynd ar fy nheithiau beic dyddiol. Rwy’n rhydd i beidio â theithio. Rwy’n gallu cynadledda o esmwythder fy nghartref fy hun. A dyna ddigri bod geifr yn cerdded ar hyd strydoedd Llandudno. Ni fu golwg well ar fy ngardd erioed. Mae fy nyweddi a minnau wrth ein bodd â’r amser newydd hwn rydym yn ei dreulio gyda’n gilydd.

Ond wedyn, un o’r rhai lwcus ydw i

Nid wyf ar y rheng flaen. Nid wyf yn weithiwr ysbyty nac yn ofalwr. Nid wyf yn weithiwr ar seibiant, ni adawyd i mi fynd, nid wyf wedi colli fy swydd, nid wyf wedi fy nhroi allan, nac wedi mynd yn fethdalwr. Nid yw fy nhriniaeth canser wedi’i chanslo i wneud lle i’r pandemig, ac nid yw fy nghlinig MS wedi cau am fod lle yno i chwe gwely Covid. Yr wythnos hon, collodd fy nghydletywr Eidalaidd ei fam-gu. Nid wyf yn gwybod eto sut deimlad ydyw i beidio â gallu teithio i fod gyda fy nheulu pan fydd colled o’r fath yn digwydd. Mae fy mharti pen-blwydd yn 50 yn mynd i fod yn achlysur personol, ond peth dibwys yw hynny. Yn ddibwys fel yr ‘hill of beans’ i ddyfynnu o un o’r ffilmiau y byddaf yn ei gwylio mae’n siŵr ar un o’m nosweithiau lawer gartref. Nid heddiw efallai, nid yfory efallai. Ond cyn bo hir, ac nid am weddill fy mywyd (plîs). Here’s looking at you kid!

 

Mae fy swydd yn ddiogel. Rwy’n gweithio i sefydliad sy’n gyfrifol am gryfhau ffabrig cymdeithas i wrthsefyll amseroedd ansicr. I rymuso pobl â gwybodaeth, sgiliau ac uchelgais. Mae fy angen i, ac rwy’n cael parhau i weithio, yn y byd newydd. Yn bennaf am fy mod i’n gallu eistedd y tu ôl i ddesg. Rwy’n gorfod addasu, ond mae hynny’n ddigon di-boen. Cymerais ran yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol yr wythnos hon, a gynhaliwyd mewn pedwar ugain o gartrefi ledled Cymru gan ddefnyddio offeryn cyfathrebu ar-lein o’r enw Microsoft Teams. Meddyliais fod hynny’n well i rywun mewnblyg fel fi. Os oeddwn i am ddweud rhywbeth, dim ond siarad â phedwar wyneb oedd angen i mi wneud, yn hytrach na phedwar ugain.

 

Mae yna rai pethau nad ydw i’n gallu dychmygu eu gwneud drwy sgrin, ond efallai mai’r triciau a’r cynghorion y mae angen i mi eu dysgu yw’r rhain. Cyn i mi fynd i ffwrdd, fe wnaethom gynnal cwrs undydd ar Arweinyddiaeth yn fy nhref enedigol, Machynlleth, yn y Canolbarth. Byddai deuddeg ohonom yn dod at ein gilydd yn ein clwb bowlio lleol ac yn archwilio sut beth yw arweinyddiaeth. Yn un o’r ymarferiadau, roedd pob un ohonom yn dewis dau unigolyn yn yr ystafell. Yna, roedd rhaid i ni gyd symud o amgylch yr ystafell gan wneud yn siŵr ein bod yn cadw rhwng y ddau unigolyn yr oeddem wedi’u dewis. Wrth gwrs, pan oedd un yn symud, roedd rhaid i bawb arall symud. Ond yn y diwedd, aeth yr ystafell yn llonydd ac roeddem ni, fel grŵp, wedi canfod y cydbwysedd a oedd yn galluogi pob un ohonom i gyflawni ein huchelgais.

 

Diben yr ymarferiad oedd dangos bod popeth a wnawn ni, ni waeth a ydym yn ystyried hynny’n bwysig neu beidio, yn cael effaith ar bawb arall. Mae ein symudiadau, ein penderfyniadau, ein dewisiadau i weithredu neu beidio â gweithredu yn cael effaith uniongyrchol, ac effaith bwerus heb yn wybod i ni yn aml, ar bobl eraill. Mae’n siŵr mai dyma yw holl gynsail un arall o’m hoff ffilmiau, It’s A Wonderful Life. “You really did have a wonderful life, George”, meddai Clarence yr angel prentis wrth i George ganfod ei wir werth i’r bobl o’i amgylch.

 

Roedd yr ymarferiad yn dangos bod elfen arwain ym mhob un ohonom am ein bod i gyd wedi’n cydgysylltu. Mae gan bob un ohonom y potensial i’n lleisiau gael eu clywed. Y cyfan sydd ei angen arnom weithiau yw anogaeth, meithrin hyder a’r amodau cywir i’n priodweddau arwain llawn ddod i’r amlwg. Wrth gwrs, yn ôl yn y wlad estron honno, nid oeddwn i’n gwybod y byddwn i’n gweld hyn yn uniongyrchol fel adwaith i’r argyfwng erchyll hwn. Deng niwrnod yn ddiweddarach, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bellach fod yr hyn ddysgom ni ar y diwrnod hwnnw’n gywir. Bod elfen arwain nid yn unig yn y bobl sydd wedi dod yn enwog am hynny, ond mae i’w chael ym mhob un ohonom.

 

Diolch i weithredoedd arwain sifil hanfodol niferus ar draws holl rannau ein cymuned, mae ein trefi a’r holl bentrefi o amgylch mewn lle cadarn i wrthsefyll beth bynnag a ddaw. Mae meddylfryd nid yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wedi dod i’r amlwg, a gweithredwyd ar hynny. Mae Machynlleth wedi’i rannu’n barthau lliw gyda thimau yn gweithio ym mhob parth yn darparu help lle mae ei angen. Mae pob cartref ym mhob parth wedi derbyn taflen ddwyieithog gyda gwybodaeth bwysig i’w helpu i oroesi’r cyfyngiadau ar symud, gan gynnwys manylion dosbarthu o siopau lleol, a llinellau cymorth i’w ffonio (os oes angen codi presgripsiwn neu nwyddau siopa, neu glywed llais cyfeillgar hyd yn oed). Mae grŵp wrthi’n gwneud masgiau a dillad sgrwbs i’n hysbytai lleol, mae un arall wrthi’n gwneud feisorau plastig. Mae trydydd grŵp yn cydlynu ymdrechion tyfu bwyd lleol. Mae un arall fyth yn trefnu dyddiadur llawn o weithdai lles ar-lein. Mae’r rhestr yn tyfu bob dydd. A’r cyfan yn cael ei gydlynu o bell drwy WhattsApp, Facebook, Zoom a gwefan – machynllethsupport.net

Rwyf innau mewn grŵp rhentwyr, yn gweithio i ddarparu gwybodaeth, a chymorth lle bo modd, i bobl a allai fod yn pryderu ynglŷn â cholli eu cartrefi

Rydym wedi bod yn gwirio bod y llywodraeth yn gwneud popeth y gall wneud i rentwyr, ac yn gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwybod am ein pryderon. Mae taflen wybodaeth sylfaenol wedi’i llunio, ynghyd â thudalen we. Ceir arweiniad ar sut i ofyn i landlordiaid am wyliau o ran talu rhent, ac yn y senario gwaethaf, sut i ymladd yn erbyn cael eich troi allan.

Fel aelod o gydweithrediaeth dai, mae gen i lefel o sicrwydd yn fy neiliadaeth nad oes gan lawer o rentwyr. Nid yw landlord yn mynd i newid y cloeon tra ’mod i allan gan mai ni fel aelodau’r gydweithrediaeth yw’r landlordiaid hefyd. Rwy’n teimlo wedi fy ngwarchod. Mae 11 ohonom ni yn aelodau o’r gydweithrediaeth (wedi’u lledaenu dros ddau dŷ), a heb unrhyw angen am drafodaeth, cynigiom helpu ein gilydd yn gyflym a dod yn rhan o’r ymateb cymunedol. Beth oedd angen i ni ei drafod? “Rydym ni’n 11 o bobl abl. Rydym yn ddiogel. Rydym yn cefnogi ein gilydd. Gallwn gefnogi ein tref.” Rydym yma am ein bod wedi cael cymorth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru (ymhell cyn i fi weithio i’r sefydliad). Nawr, gallwn ni helpu pobl eraill. Dyma sut mae gwead ffabrig cymdeithas yn cryfhau.

Fel pob cilfach dawel arall yng Nghymru, torrwyd ar ddistawrwydd y strydoedd gwag nos Iau gan guro dwylo, bloeddiadau, ŵpiau a sŵn taro padelli. Siŵr bod rhaid i ni wneud rywfaint o sŵn pan fo galw amdano. Ond nid yw’n ddigon gwneud sŵn. Mae gennym ddewis nawr i edrych ar yr wythnos a hanner diwethaf fel deng niwrnod a gipiodd y byd i ymyl y dibyn, neu ddeng niwrnod a aeth â’r byd i le gwell. Un rhyddid sydd gennym o hyd yw’r rhyddid i ddewis beth sy’n digwydd nesaf.

Pan fydd brwydr y rheng flaen wedi’i hennill, mae gwaith arall i’w wneud

Y gwaith sydd yno bob amser i’w wneud, ac am ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol yma, gwaith sydd wedi’i ymgorffori mewn cyfraith yng Nghymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. I greu cymdeithas ffyniannus, gydnerth a thecach. Bydd llawer o bobl yn teimlo canlyniadau economaidd a chymdeithasol ein hadwaith i’r argyfwng hwn am flynyddoedd lawer i ddod. Pan fyddwn wedi gorffen rhwbio’r croen diheintiedig fflawiog oddi ar gefnau’n dwylo, bydd angen i ni eu trochi eto. Rwy’n gobeithio, y tro hwn, y byddwn ni gyd ynddi gyda’n gilydd. Pob lwc i chi gyd, a chadwch yn ddiogel.