5 prif neges o’n Gŵyl Tai Dan Arweiniad y Gymuned 2020

Roedd 2020 yn flwyddyn anodd. Collodd bobl anwyliaid, collodd busnesau bopeth, mae cymunedau’n brwydro i oroesi. Er gwaethaf yr holl drawma, mae un peth yn glir, rydym ni’n wydn, yn ddyfeisgar, ac yn gallu gwneud i newid ddigwydd dros nos.

Gweler y dudalen hon yn: English

Mae ymrymuso a galluogi cymunedau yn nodwedd allweddol y rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi. Rydym yn gweithio gyda grwpiau lleol, mudiadau cymunedol a rhanddeiliaid tai allweddol i ddatblygu ymagweddau dan arweiniad y gymuned at dai. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o brosiectau. O grwpiau bach sy’n datblygu unedau byw effaith isel a ffrindiau’n prynu eiddo i’w rannu, i fudiadau cymunedol yn ymgymryd ag asedau mawr a chymdeithasau tai’n datblygu mewn partneriaeth â’r gymuned. Nid yw’n ymwneud â ni’n darparu’r tai hyn dan arweiniad y gymuned, ond bod pobl leol yn cael rôl flaenllaw a pharhaus yn creu cartrefi sy’n fforddiadwy iddynt ac yn addas i’w hanghenion.  

Mwy na thai

Mae gan y grwpiau a’r mudiadau rydym ni’n gweithio gyda nhw gynigion i ddarparu 290 o dai fforddiadwy ledled Cymru. Bydd sawl ffurf ar y rhain: cydweithrediaeth tai, cyd-drigo, hunanadeiladu, ymddiriedolaethau tir cymunedol, a llawer mwy. Yn ddiweddar, mae mwy a mwy o grwpiau’n dod atom ni, nid yn unig gydag awydd i ddarparu mwy o dai, ond hefyd i wella’r mannau lle maen nhw’n byw a meithrin gwydnwch cymunedol. Maen nhw eisiau datblygu hybiau cymunedol, cynnig lle i fentrau newydd, adfer adeiladau sy’n ddiangen mwyach neu drawsnewid y stryd fawr yn llwyr. Mae tai dan arweiniad y gymuned gymaint yn fwy na dim ond tai.

Sawl gwaith rydym ni wedi clywed bod y stryd fawr yn farw, neu fod angen adfywio ystâd, neu fod mwy o wasanaethau a chyfleusterau mewn cymunedau gwledig yn cau?? Gormod, mae’n siŵr, eto’r un dulliau sy’n cael eu defnyddio yn aml. Fel y dywed yr hen ddywediad, ni fydd gwneud yr un peth drosodd a throsodd yn newid y canlyniadau. Mae’n hen bryd cael dull gwahanol. Gadewch i ni weithio gyda phobl leol i greu eu cymunedau cynaliadwy a gwydn eu hunain. Mae ein grwpiau tai dan arweiniad y gymuned, ynghyd ag eraill, rwy’n siŵr, yn barod ac yn fodlon gweithredu i ddod â bywyd yn ôl i’w cymuned.

Ym mis Medi 2020, cynhaliom ein Gŵyl gyntaf ar Dai dan Arweiniad y Gymuned. Roedd hon yn ŵyl dridiau i drafod popeth am dai dan arweiniad y gymuned, gyda phwyslais penodol ar ei rôl yn adfywio cymunedau a mannau gwag. Roeddem am ddangos grym mudiadau dan arweiniad y gymuned sy’n cymryd rheolaeth ar asedau, yn trawsnewid eu stryd fawr, yn creu cartrefi ac yn dod â bywyd yn ôl i’w cymunedau gwledig.

Yn ystod yr ŵyl rithwir dridiau, ymunodd amrywiaeth o siaradwyr o bob cwr o’r DU â ni, bob un ohonynt yn hyrwyddo dulliau dan arweiniad y gymuned. O fröydd gwella cymunedol yn yr Alban a mudiadau cymunedol yn Hastings, i drosglwyddiadau asedau yn y Cymoedd a siopa’n lleol yng Ngheredigion. Roedd un peth yn glir, mae newid yn digwydd, a phobl leol sy’n arwain y ffordd.

 Y pum prif neges o CLHFest20

O’r gwaelod i fyny sydd orau

Mae adfywio cymunedol traddodiadol wedi ymwneud â gwelliannau ffisegol, dan arweiniad y ‘gweithwyr proffesiynol’ gyda bach iawn o gyfraniad gan y gymuned. Ond mae pobl wedi’u cysylltu â lleoedd. Dylai trigolion gael cyfle i fynegi sut yr hoffent weld eu cymuned yn cael ei hail-ddychmygu. Clywom gan Heart of Hastings Community Land Trust. Maent wedi defnyddio technegau trefnu cymunedol i weithio gyda phobl leol i gyflwyno nifer o brosiectau yn Hastings, gan gynnwys tai fforddiadwy, mannau creadigol a lle i bobl weithio. Cyfrifoldeb y gymuned yw meddwl am yr atebion i broblemau yn eu hardal a threfnu’u hunain i wireddu’r atebion hyn.

Mae creadigrwydd yn allweddol

Peidiwch byth â gwneud yn fach o bŵer y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Roedd prosiect Midsteeple Quarter, sef prosiect adfywio ar raddfa fawr, dan arweiniad y gymuned yn Dumfries, wedi’i ddechrau gan grŵp o artistiaid a wnaeth gymryd siop drosodd yng nghanol y dref. Defnyddiont y gofod hwn i annog pobl leol i ddod i siarad am ddyfodol y dref mewn ffordd greadigol. Yn raddol, penderfynwyd ar gonsensws a lluniwyd gweledigaeth. Bellach, maen nhw wrthi’n cymryd stryd fawr gyfan drosodd a’i thrawsnewid yn dai fforddiadwy, yn unedau busnes ac adwerthu, yn fan gweithio cyffredin ac yn fan cymunedol.

Cydweithredu, cydweithio a chyfathrebu

Rwy’n siŵr bod pob un ohonom wedi clywed am Ardaloedd Gwella Busnes ‘(BID’), ac er bod rhai enghreifftiau gwych iawn o Ardaloedd Gwella Busnes llwyddiannus yng Nghymru, nid yw eraill wedi dal y dychymyg cystal, ond a oes rhaid i’r rhain fod ar gyfer busnesau yn unig? Clywom am Ardaloedd Gwella Cymunedol (CID) yn yr Alban sy’n gweithio o dan yr un ddeddfwriaeth â BID, ond sy’n cynnwys busnesau lleol, mudiadau angor cymunedol a phobl leol sy’n datblygu ac yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer yr ardal ac sy’n lobïo o blaid newid. A oes lle i Ardaloedd Gwella Cymunedol yng Nghymru?

Mae tai yn hanfodol

Mae tai yn hanfodol i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig. Heb ddigon o dai fforddiadwy o ansawdd uchel yn y lleoedd cywir, nid yw’r bobl gennych i gael peint yn y dafarn leol, hyfforddi’r tîm pêl-droed lleol, agor y siop gymunedol. Tai yw glud yr economi sylfaenol.

Peidiwch â chael braw

Nid yw’r stryd fawr yn farw, nid yw cymunedau’n ddifreintiedig ac nid y pentrefi gwledig yn anghynaladwy. Maent yn newid, yn arallgyfeirio, yn trawsffurfio. Ni fydd hyn yn digwydd dros nos, ond mae angen newid pwy fydd yn arwain y newid hwn. 

Gallwch wylio’r holl weminarau o CLHFest20 trwy ein sianel YouTube Cymunedau’n Creu Cartrefi. 

Rydym eisiau gweld newid yn y pŵer yng Nghymru. Mwy o bŵer i gymunedau a phobl leol ddewis beth sy’n digwydd yn eu hardal. Rydym eisiau parhau â’r sgyrsiau cadarnhaol a ddechreuwyd yn CLHFest, yn enwedig gyda’r bobl hynny sy’n teimlo’u bod yn gallu cefnogi a datblygu’r dulliau hyn gyda’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Nid yw hyn ond yn ymwneud â throsglwyddo cyfrifoldeb i gymunedau ddarparu cartrefi a gwasanaethau, yn hytrach, mae’n ymwneud â datblygu dull cydweithredol. Nid yw pŵer cymunedol yn ymwneud ag wfftio lleisiau pobl mewn swyddi sefydliadol, ond mae’n ymwneud â gosod y gymuned wrth ben y bwrdd a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni newid sy’n bodloni anghenion y bobl leol.

A ydych chi’n barod i helpu datgloi’r arweinyddiaeth gymunedol hon a gosod pobl leol yn ganolog i’r drafodaeth am ddyfodol eu hardal? Rydym am weld mudiadau angor cymunedol, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, cyrff sector gwirfoddol a chyrff trydydd sector yn cael y sgyrsiau hyn â’u cymuned a’u cynorthwyo nhw i ddatblygu mentrau dan arweiniad y gymuned i wella’u hardal. Gadewch i ni ddwyn pobl ynghyd i lywio’u dyfodol.

I ddilyn hanes pobl leol ledled Cymru sy’n darparu tai a mwy, dan arweiniad y gymuned ac i’r gymuned, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr trwy co-op.housing@wales.coop.

Er bod y pandemig wedi achosi llawer o anobaith, mae wedi dwyn rhai pethau positif gydag ef. I mi, mae gweithio gartref wedi rhoi’r cyfle i mi ‘fynd’ i ddigwyddiadau na fyddwn i fyth fel arfer wedi gallu mynd iddynt a ‘chyfarfod’ â phobl na fyddwn i’n cyfarfod â nhw fel arfer. Rwy wedi cael cyfle i archwilio rôl cymunedau wrth adfywio’r mannau lle maen nhw’n byw ac rwy wedi siarad â nifer o randdeiliaid allweddol sy’n gweithio yn y maes hwn ar draws Cymru a’r DU. Rwy wedi bod yn falch o weld bod cymaint yn digwydd ac mae’n ymddangos bod llais cyffredinol yng Nghymru sy’n erfyn am fwy o arweinyddiaeth gymunedol ac awydd i gefnogi a helpu cymunedau i gymryd rheolaeth ar yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal.

Agwedd bositif arall y flwyddyn oedd gweld sut mae cymunedau wedi uno i roi cymorth i’r bobl y mae angen cymorth arnynt fwyaf, gan ddosbarthu bwyd, galw heibio i weld cymdogion, sefydlu grwpiau WhatsApp a phrynu’n lleol. Fe wnaeth brofi nad oes angen sefydliadau traddodiadol ar gymunedau i sefydlu’r mentrau hyn. Mae ganddynt y capasiti a’r gallu i wneud i newid ddigwydd dros nos. I mi, mae wedi dod yn fwyfwy clir fod yr amser wedi dod, mewn byd ôl-Covid, am ddulliau dan arweiniad y gymuned ar gyfer tai, adfywio a newid.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, cysylltwch drwy co-op.housing@wales.coop.

Photo of Casey Edwards

Casey Edwards, Cynghorydd Tai dan arweiniad y gymuned

Mwy am dai a arweinir gan y gymuned