6.2.1. Benthyciadau sefydliadol

Darperir benthyciadau sefydliadol gan sefydliadau ariannol (banciau/cymdeithasau adeiladu ac ati), gyda banciau moesegol yn rhoi gwerth penodol ar ymroddiad llywodraethiant cymunedol ar raddfa fach.

See this page in: English

Trosolwg

Mae hyd at 70% o’r costau datblygu’n debygol o ddod o gyllid benthyg. Mae’r cyllid hwn naill ai yn:

  • gyllid tymor byr (e.e. pump i saith blynedd) sy’n galluogi adeiladu’r cartrefi; neu
  • cyllid tymor hir (e.e. deg mlynedd ar hugain efallai) sy’n galluogi costau’r datblygiad i gael eu had-dalu’n llawn dros amser, o rent a/neu ffynonellau eraill

Gwybodaeth allweddol am fenthyca

Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau ariannol traddodiadol sy’n darparu cyllid i gynlluniau tai yn darparu cyllid tymor byr yn unig. Wrth wneud hynny, maent eisiau gwybod o ble byddai’n sefydliad yn cael cyllid tymor hir, fel bod modd talu eu benthyciadau yn ôl. Bydd sawl benthyciwr yn benthyca i landlordiaid sy’n gofrestredig â’r asiantaeth Cartrefi a Chymunedau yn Lloegr neu Lywodraeth Cymru yng Nghymru yn unig, ac sydd â phrofiad o reoli datblygiadau.

Fodd bynnag, mae rhai banciau moesegol llai yn awyddus i fenthyca i gynlluniau TCAG ar raddfa fach sydd â chynlluniau busnes ymarferol, a gall rhai ohonynt ddarparu cyllid tymor byr a thymor hir. Mae banciau moesegol yn y maes hwn yn rhoi gwerth penodol ar ymroddiad llywodraethiant cymunedol ar raddfa fach.

Gyda’r rhan fwyaf o gynlluniau tai yn costio symiau sylweddol o arian, mae cyfradd llog y benthyciadau yn gallu cael effaith sylweddol ar gostau’r cynllun. Bydd sefydliadau ariannol yn seilio cyfraddau llog ar y risgiau posibl (hynny yw, pa mor debygol yw hi y byddant yn cael eu had-dalu). Mae sefydliadau ariannol traddodiadol yn dueddol o weld cynlluniau TCAG fel risg uwch, ac yn codi mwy o arian am eu benthyciadau, ond nid yw hyn yn wir am fanciau moesegol sy’n benthyca i gynlluniau TCAG.