6.2.2. Cyfranddaliadau cymunedol a benthyca stoc

Mae 'Cyfranddaliadau cymunedol' a 'Benthyg stoc' mewn sefyllfa dda i ariannu TCAG, gan fod gan y ddau ohonynt nod gymdeithasol, serch hynny, mae nifer llai o’r cynlluniau hyn ar gael, ac, yn gyffredinol, mae llai o gyfalaf ar gael.

See this page in: English

Trosolwg

Mae rhai cynlluniau TCAG yn codi cyllid ychwanegol trwy gyfranddaliadau cymunedol neu fenthyg stoc gan unigolion neu sefydliadau preifat a thrwy ddefnyddio dull o’r fath, gall buddsoddwyr ddarparu cyfalaf bach neu fawr i’r cynllun TCAG.

Sut i godi cyfalaf

Mae’r ffordd y mae cynlluniau TCAG yn codi cyfalaf o’r fath yn dibynnu ar a yw’r cynllun yn gofrestredig fel cymdeithas neu gwmni. Os bydd cymdeithas yn dosbarthu cyfranddaliadau cymunedol, bydd y cyfalaf a godwyd yn gyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu yn ôl, ac mae’r buddsoddwyr yn dod yn aelodau o’r cynllun. Os bydd cymdeithas yn benthyca stoc, bydd y buddsoddwyr yn gwneud benthyciad sy’n ad-daladwy ar ddyddiad penodedig, ac nid oes hawliau aelodau ganddynt. Os bydd cwmni’n dymuno dosbarthu cyfranddaliadau neu fenthyciadau, mae angen i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol gymeradwyo’r deunyddiau buddsoddi, a gall hyn fod yn ddrud. Awgrymir y dylai cynlluniau TCAG gael cyngor priodol os byddant yn dosbarthu cyfranddaliadau cymunedol neu fenthyg stoc.

Datblygu prosbectws

Byddai angen i gynlluniau TCAG sydd eisiau codi arian trwy’r dulliau hyn ddatblygu prosbectws sy’n rhoi amlinelliad o’r canlynol:

  1. pwyntiau allweddol yn eu cynlluniau busnes er mwyn dangos pa mor ymarferol yw’r cynllun. Mae’n annhebygol y bydd buddsoddiadau’n cael eu hamddiffyn (hynny yw, ni chodir tâl ar yr eiddo) ac felly bydd angen i fuddsoddwyr wybod y bydd y cynllun TCAG yn gallu ad-dalu buddsoddiadau
  2. pa gyfradd llog a gynigir i fuddsoddwyr a sut bydd yn cael ei dalu
  3. a fydd gan y buddsoddwr bleidlais o fewn y cynllun TCAG