Blog | Cydweithredol | Gofal cymdeithasol | News | Tai

A fydd Prif Weinidog newydd Cymru yn dda ar gyfer yr economi gymdeithasol?

Mae anrhefn Brexit yn San Steffan ar ddiwedd y llynedd wedi taflu cysgod dros y newyddion pwysig mai Mark Drakeford yw Prif Weinidog newydd Cymru.

By Mike Erskine · January 14, 2019

See this page in: English

Derek Walker

By Derek Walker

Chief Executive, Wales Co-operative Centre

Mae Mark Drakeford wedi bod yn aelod allweddol ym Mae Caerdydd ers datganoli. Mae wedi gwasanaethu yng Nghabinet Cymru ers 2013 a, chyn hynny, roedd yn gynghorydd am gyfnod hir i Rhodri Morgan, y Prif Weinidog rhwng 2000 a 2009. Mae ei hanes da, yn ogystal â’i faniffesto arweinyddiaeth manwl, yn rhoi ymdeimlad da i ni o beth fydd llywodraeth Drakeford yn ei olygu ar gyfer yr economi gymdeithasol yn 2019 a thu hwnt.

Yn y maes polisi economaidd, mae Mark Drakeford yn debygol o hybu ymdrechion i greu economi fwy cyfiawn yn gymdeithasol. Mae ei faniffesto yn siarad am ‘ail-ddylunio’r ffordd y mae’r llywodraeth yn buddsoddi mewn twf economaidd fel bod gan fuddsoddiad cyhoeddus ddiben cymdeithasol ac ymrwymiad i gydraddoldeb ac felly’n darparu arian yn ôl i’r pwrs cyhoeddus.’ Roedd y rheiny ohonom sy’n hyrwyddo economi gefnogi yn falch o glywed hyn.

Mae Mark Drakeford hefyd wedi rhoi pwyslais ar gefnogi’r economi sylfaenol, y rhan honno o’r economi sy’n gwasanaethu anghenion pob dydd pobl. Yn ddiddorol, mae gan yr economi sylfaenol ei phennod ei hun yn y maniffesto lle mae’n dda gweld amlygrwydd yn cael ei roi i hyrwyddo parhad perchnogaeth BBaChau, i’w cadw nhw’n lleol. Bydd hyn yn bendant yn cynnwys rhoi mwy o sylw difrifol i hyrwyddo pryniannau gan gyflogeion, a pherchnogaeth gweithwyr, fel llwybr dilynol.

Mae’r Prif Weinidog newydd wedi gwneud ymrwymiad i ddatblygu ymdrechion i hyrwyddo darpariaeth gydweithredol mewn gofal cymdeithasol. Mae eisiau adfywio ymdrechion i greu cyflenwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol cydweithredol yng Nghymru, gan sicrhau cydbwysedd o’r newydd yn y sector a dod â gwasanaethau felly yn ôl i dir y cyhoedd.’

Swansea Carers Centre, 2017
Mark Drakeford
Mark Drakeford

“Mae’r Prif Weinidog newydd wedi ymrwymo’n gadarn i gamu ymdrechion i hyrwyddo darpariaeth gydweithredol mewn gofal cymdeithasol. “

Mae’r Prif Weinidog newydd wedi gwneud ymrwymiad i ddatblygu ymdrechion i hyrwyddo darpariaeth gydweithredol mewn gofal cymdeithasol. Mae eisiau adfywio ymdrechion i greu cyflenwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol cydweithredol yng Nghymru, gan sicrhau cydbwysedd o’r newydd yn y sector a dod â gwasanaethau felly yn ôl i dir y cyhoedd.’

Yn 2012, fe wnaeth Mark ymweld â Gwlad y Basg i astudio cwmnïau cydweithredol. Roedd Mark a minnau yn rhan o ddirprwyaeth a gydlynwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig. Ar ôl y daith honno, ysgrifennodd erthygl am y posibilrwydd i gwmnïau cydweithredol gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Iddo ef, nid gyda’r gwasanaethau hynny sydd eisoes yn cael eu darparu’n gyhoeddus yw’r man cychwyn, ond gyda’r rheiny sydd eisoes, yn bennaf, yn y maes preifat, gwneud elw, ond sydd hefyd yn parhau’n ddibynnol iawn ar gyllid cyhoeddus.’

O ganlyniad i’r ymweliad, daeth i’r casgliad bod cwmnïau cydweithredol yn ffordd o dynnu elw personol o gyflwyno gofal cymdeithasol, a darparu gwasanaethau mewn cynghrair gydweithredol rhwng gweithwyr a defnyddwyr. Mae addewidion ei faniffesto diweddar yn dangos nad yw wedi newid ei safbwynt.

Mae ymrwymiadau eraill sydd wedi cael eu rhestru yn y maniffesto yn cynnwys:

  • Archwilio’r achos am gwmni ynni cydfuddiannol newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio model cydfuddiannol Dŵr Cymru/Welsh Water
  • Adeiladu ar waith ym maes ynni y mae’r gymuned yn berchen arno
  • Sefydlu treialon i brofi ymagweddau gwahanol at adeiladu cyfoeth lleol
  • Cymorth parhaus ar gyfer undebau credyd
  • Sefydlu Banc Cymunedol Cymru, y bydd ei aelodau’n berchen arno, ar sail un aelod, un bleidlais, gan gynnig cyfrifon cyfredol, a gwneud cyllid ar gael yn lleol i fusnesau bach.

Mae digon yno. Adroddwyd nad oedd busnesau mawr eisiau Mark Drakeford i fod yn Brif Weinidog. Mae’n debyg yr oedden nhw o’r farn y byddai’r ymgeiswyr eraill wedi gwneud mwy i ddiogelu eu buddiannau, sy’n cynnwys ffordd liniaru’r M4 ddrud. Fodd bynnag, o ran y sector cydweithredol, roedd (ac mae) y tri ymgeisydd yn cefnogi ymagweddau cydweithredol, gyda Vaughan Gething yn arbennig yn rhoi cefnogaeth gref i fwy o dai cydweithredol yn ystod ei ymgyrch.

Mae’r ddau ymgeisydd arall ar gyfer yr arweinyddiaeth wedi cael eu penodi i’r Cabinet, gyda Vaughan Gething yn cadw ei swydd fel y Gweinidog Iechyd ac Eluned Morgan yn ennill swydd newydd yn y Cabinet fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. O ran y penodiadau eraill gan Drakeford, mae rheswm dros fod yn obeithiol. Er enghraifft, Lee Waters, fel Dirprwy Weinidog newydd yr Economi, sy’n gefnogwr brwd dros fenter gymdeithasol a chydweithredu. Mae wedi bod yn un o’r eiriolwyr mwyaf amlwg yn y Senedd dros bolisïau i helpu’r economi sylfaenol.

Eleni, mae Brexit yn cysgodi popeth. Mae llywodraeth Drakeford yn debygol o wrando ar syniadau da a chefnogi meddwl a chymryd camau cydweithredol, ar adeg pan fyddwn ni eu hangen fwyaf.

llun o grŵp o bobl yn cerdded mewn llinell
Loftus Village Housing Association, Co-operative Housing Scheme