Blog | Cydweithredol | Menter gymdeithasol

Adolygu’r Maniffesto – Beth mae maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn ei olygu i fentrau cymdeithasol?

Fis Mai eleni, cynhelir etholiadau'r Senedd yng Nghymru. Wrth i bleidiau gwleidyddol ddechrau cyhoeddi eu maniffestos, byddwn yn edrych ar bob maniffesto yn eu tro ac yn ystyried eu hystyr i’r sector yng Nghymru.

By Ceri-Anne Fidler Jones · Mai 5, 2021

Gweler y dudalen hon yn: English

Fis Mai eleni, cynhelir etholiadau’r Senedd yng Nghymru.  Amlinellodd maniffesto Grŵp Rhanddeiliaid y Mentrau Cymdeithasol sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru gefnogi’r sector mentrau cymdeithasol i wireddu eu potensial a sicrhau economi tecach, mwy cynhwysol a chynaliadwy. Wrth i bleidiau gwleidyddol ddechrau cyhoeddi eu maniffestos, byddwn yn edrych ar bob maniffesto yn eu tro ac yn ystyried eu hystyr i’r sector yng Nghymru.

Mae maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gael yma.  Dyma rai o’r pwyntiau allweddol ar gyfer mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r maniffesto yn cynnig Cenhadaeth Genedlaethol i ddatblygu economi Cymru gyda tharged clir o greu 65,000 o swyddi newydd gyda’r llywodraeth, busnesau ac entrepreneuriaid i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i chwarae eu rhan. Dylai mentrau cymdeithasol gael rôl glir mewn cenhadaeth o’r fath er mwyn sicrhau y gwireddir eu llawn botensial a bod unrhyw gefnogaeth sy’n deilio o’r Genhadaeth yn addas ar gyfer y sector.

O ran mentrau cymdeithasol bach a chanolig, mae cynigion o ddiddordeb yn cynnwys cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach. Mae’r maniffesto hefyd yn cynnig bod cwmnïau Cymru yn taro yn ôl wedi’r pandemig drwy roi blaenoriaeth iddynt ar gyfer contractau’r llywodraeth drwy hyrwyddo cyfleoedd yn rhagweithiol, yn enwedig ymhlith microfusnesau a busnesau bach. Credwn y dylai canllawiau a chymorth i fentrau cymdeithasol i’w helpu i fanteisio ar y cyfleoedd hyn gyd-fynd â chanllawiau i’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus ar gynyddu gwariant.

Mae’r maniffesto yn cynnig hyrwyddo sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru er mwyn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau busnes. Rydym yn croesawu’r cynnig hwn ac mae’n adlewyrchu ein galwad yn y maniffesto i gynnwys economeg lles a mentrau cymdeithasol yn y cwricwlwm economeg/ astudiaethau busnes mewn ysgolion yng Nghymru. Credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn hyfforddi cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid sy’n barod i arloesi a datblygu syniadau busnes ecogyfeillgar a chymdeithasol gyfrifol. Byddai’r grŵp rhanddeiliaid yn croesawu’r cyfle i weithio gydag unrhyw blaid mewn llywodraeth i lunio a datblygu cynllun o’r fath ar sail gwybodaeth a phrofiad o weithio gydag ysgolion hyd yma.

I gloi, mae’r maniffesto yn cynnig diogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i redeg ac ehangu cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Berchnogaeth Gymunedol a Hawl i Gynnig i gefnogi trosfeddiannu asedau fel llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a gofodau gwyrdd, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gau neu o gael eu datblygu. Dylid dysgu gwersi gan yr Alban a Lloegr o ran agweddau at hawliau cymunedol wrth lywio’r dull hwn. Dylai gyd-fynd â chymorth i gymunedau a busnesau cymunedol sy’n ystyried trosglwyddo asedau. Dylid canolbwyntio ar asedau sydd mewn perygl penodol o gau neu o gael eu datblygu a’r risg hefyd o grynhoad o asedau anymarferol yn cael eu rhyddhau gan gyrff cyhoeddus a dylai unrhyw ddeddfwriaeth ystyried mesurau diogelwch i atal hyn.