Blog | Tai

Allan i ofalu am gyd-drigo ym Mhowys

Mae ein recriwt newydd, allan Shepherd, yn sôn am ei rôl newydd a'r gwahaniaeth y mae'n gobeithio ei wneud

By Ben Bostock · April 23, 2019

See this page in: English

Rwy’n gyffrous iawn ynghylch ymuno â Chanolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Sir Powys i arloesi cyd-drigo ym Mhowys. Mae hon yn swydd newydd sbon, sy’n datblygu math cymharol newydd o ddatrysiad ar gyfer tai ym Mhrydain. Dyma’r tro cyntaf i awdurdod lleol yng Nghymru ariannu rhywun yn benodol i edrych ar botensial cyd-drigo; felly, gallai’r gwaith a wnawn fod yn ddylanwadol ledled y wlad a’r tu hwnt. Ariennir y swydd yn rhan-amser am gyfnod o flwyddyn, ac mae gennym gyfle gwych i gyfathrebu â chynifer o bobl â phosibl, darganfod sut y gallai cyd-drigo weithio ym Mhowys (ac, wrth gwrs, ledled Cymru), a hau hadau hyfyw ar gyfer y dyfodol.

Daeth cyd-drigo i’r amlwg ar y newyddion y llynedd pan agorodd y prosiect Older Women’s Cohousing (OWCH) yn Llundain. O fewn deuddydd i’r prosiect gael ei lansio, roedd 4.5 miliwn o bobl wedi gwylio fideo amdano gan y BBC. Roedd y fideo yn dangos 26 o fenywod hŷn yn mwynhau’r bywyd na allai nifer o bobl eraill ond freuddwydio amdano. Lle braf i fyw yng nghanol y bobl y maent yn eu caru. Mae’r angen yn amlwg. Mae 3.64 miliwn o bobl dros 65 oed yn byw ar eu pen eu hunain yn y Deyrnas Unedig – ac mae 70% ohonynt yn fenywod.

Ond, er gwaethaf yr angen a’r apêl amlwg, mae hwn yn syniad cymharol newydd ar gyfer tai ym Mhrydain, gyda dim ond 21 o brosiectau sefydledig wedi’u cofrestru gyda Rhwydwaith Cyd-drigo y Deyrnas Unedig (o gymharu â channoedd mewn gwledydd tebyg i Ddenmarc, yr Iseldiroedd a’r Unol Daleithiau). Rhan o’r broblem yw nifer y blynyddoedd (degawdau, weithiau) y mae’n eu cymryd i brosiect gael ei roi ar waith – deunaw mlynedd yn achos OWCH. Mae’n rhaid i bethau symud yn gynt. Dyma lle y gall awdurdodau lleol helpu, trwy adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y prosiectau arloesol i ymchwilio i ffyrdd o helpu cymunedau i symud yn gynt i wireddu eu breuddwydion.

Felly, beth yw ystyr cyd-drigo mewn gwirionedd?

Yn ei hanfod, ystyr cyd-drigo yw meddu ar eich cartref eich hun, ond rhannu peth gofod a phwrpas cyffredin. Mae cymdeithasgarwch cyd-drigfan, heb y ddrama o orfod rhannu sinc, yn un ffordd o feddwl am hyn. Mae cymunedau yn dod ynghyd, yn meddwl am y modd y maent am fyw, yn dod o hyd i safle, ac yn creu datblygiad sy’n diwallu eu hanghenion o ran preifatrwydd unigol a chydweithrediad cymunedol agosach. Yn aml, mae’r gofod a rennir yn cynnwys ardal o ardd, cegin/ardal fwyta ar gyfer cynulliadau cymunedol a phrydau bwyd, ac efallai stordy ar gyfer offer. Mae pensaernïaeth y prosiect wedi’i chynllunio i hwyluso rhyngweithio cymdeithasol. Yn aml, mae hyn yn golygu cadw ceir ar hyd y perimedrau, gofalu bod y strydoedd yn ddiogel ar gyfer plant, a hyd yn oed ddarparu waliau isel fel y gall pobl eistedd arnynt i gael paned o de gyda’u cymdogion.

Yr hyn sy’n allweddol i bob cyd-drigfan yw bod gan y gymuned reolaeth dros bob agwedd ar y prosiect, a chyfrifoldeb amdanynt. Mae llawer yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol, asiantaethau cynllunio, cymdeithasau tai a rhanddeiliaid eraill, ond, yn y pen draw, cyfrifoldeb y grŵp cymunedol yw gweithio popeth allan a sicrhau bod y prosiect yn gweithio. Gall prosiect cyd-drigo ddarparu tai fforddiadwy, cryfhau cymunedau, a chynnig rhywbeth i leddfu’r ymdeimlad o fod yn unig ac ynysig sydd, yn ôl rhai astudiaethau, yn cynyddu’r risg o farw’n gynnar hyd at chwarter.

Mae unigedd yn broblem hyd yn oed mewn dinasoedd mawr, ond mae yna her ychwanegol mewn sir tebyg i Bowys, sy’n cynnwys tua 4% o boblogaeth Cymru wedi’i gwasgaru dros draean o’i thir. Mae Powys yn dibynnu ar gymuned i ochel rhag unigrwydd, felly mae cyd-drigo yn un ffordd o estyn yr ymdeimlad hwnnw o gymuned yn ddyfnach i fywydau pobl, ac yn enwedig i’w cartrefi. Ar hyn o bryd, nid oes gennym syniad pendant ynghylch y ffordd y bydd cyd-drigo yn gweithio ym Mhowys, ymhle y mae’r diddordeb, na pha mor bell y gallwn fynd â’r syniad. Ond rydym yn edrych ymlaen at gael gwybod.

Roeddwn i wedi profi unigrwydd fel perchennog tŷ sengl yn fy mhedwar degau, a phenderfynais werthu fy nhŷ a symud i gydweithrediaeth dai, lle rwyf wedi bod yn byw ers pum mlynedd bellach. Mae hwn wedi bod yn brofiad a newidiodd fy mywyd, ac rwy’n ymwybodol o’r budd i iechyd a lles o gael cymuned gref o’m cwmpas. Nid yw pethau wedi bod yn fêl i gyd, ond mae’r pleser wedi gorbwyso’r trafferthion o bell ffordd. Roeddwn hefyd yn gweithio yn y Ganolfan Technoleg Amgen am ugain mlynedd, ac roedd yno ethos cydweithredol a strwythur rheoli cryf, yn ogystal â’r diddordeb amlwg mewn technolegau a syniadau amgylcheddol. Mae byw a gweithio’n gydweithredol yn gofyn am ymagwedd wahanol, ac rwy’n gobeithio defnyddio fy ngwybodaeth a’m profiad uniongyrchol yn fy rôl newydd, gan helpu grwpiau cymunedol i lunio eu dyfodol cryf, cynaliadwy eu hunain.

Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un ym Mhowys sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyd-drigo, neu sydd eisoes yn rhan o grŵp sy’n datblygu syniad. Anfonwch neges e-bost ataf: allan.shepherd@wales.coop

Cynnwys cysylltiedig