Blog | Tai

Allan Shepherd, Swyddog Prosiect Cyd-drigo Powys: Fy chwe mis cyntaf

Mae Allan yn sôn am ei chwe mis cyntaf yn y swydd, ei brofiad personol o fyw mewn cydweithrediaeth dai, ‘cymdogaethau sy’n gweithio’n dda’ a manteision rhannu lle byw sydd â chydbwysedd o gymdeithasgarwch, cryfder, gofal ac annibyniaeth.

By Ben Bostock · August 5, 2019

See this page in: English

Mae nesáu at chwe mis cyntaf Prosiect Cyd-drigo Powys yn marcio adeg ddefnyddiol i fyfyrio ar yr hyn rwyf wedi’i ddysgu hyd yn hyn a sôn ychydig am yr hyn a fydd yn digwydd nesaf.

Deuthum i’r prosiect hwn ar ôl newid fy mywyd trwy symud allan o’m cartref fy hun, ymuno â chydweithrediaeth dai ac ennill pum mlynedd o ddealltwriaeth o’r amrywiol rymoedd sydd ar waith pan fyddwch yn trochi’ch hun mewn cynllun tai cymunedol. Yn ein hachos ni, dau dŷ a rhwng 10 a 14 o aelodau, gan ddibynnu ar yr amrywiadau naturiol sy’n ymddangos yn rhan hanfodol o gydweithrediaeth dai.

Rwy’n byw mewn tŷ a rennir, ac mae’n debyg bod hynny ar ben mwyaf cymdeithasgar y sbectrwm tai cymunedol. Mae’r cymunedau hynny sy’n rhannu eu heconomi a’u hincwm yn llawn yn fwy cymdeithasgar fyth. Nid ydym ni’n gwneud hynny. Mae gennym ni renti sefydlog. Mae gennym ni fywydau economaidd ar wahân. Rydyn ni’n annibynnol ond yn gymdeithasol.

Gall cymunedau cyd-drigo rannu incwm, ond nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud hynny. Mae’r aelodau’n byw eu bywydau arferol, ond mae arnynt eisiau mwy o gysylltiad â’u cymdogion a manteision rhannu. Mae rhai cymunedau wedi’u sefydlu ar ryw fath o ideoleg, ond nid yw’r rhan fwyaf ohonynt. Maent wedi’u seilio ar reddfau ymarferol yn hytrach na rhai damcaniaethol. Mae cyd-drigo’n cyfuno cymdeithasgarwch â phreifatrwydd. Mae pawb yn cael ei (l)le ei hun i fyw ynddo, ond yn rhannu rhai mannau cymunedol, diben a hunaniaeth. Mae perthyn i rywbeth mwy yn rhan ohono.

Ar eu gorau, mae cymunedau cyd-drigo, neu’r hyn y mae’r awdur a’r pensaer Charles Durrett yn eu disgrifio’n ‘gymdogaethau sy’n gweithio’n dda’, yn darparu cymorth, gofal a chyfle cymdeithasol na all pobl fanteisio arnynt yn rhwydd pan fyddant yn byw y tu allan i gymuned. Gallant arbed amser hefyd, er enghraifft trwy rannu prydau bwyd (sy’n gallu golygu eich bod ond yn coginio unwaith bob yn ychydig o wythnosau). Gallant arbed arian, er enghraifft trwy rannu offer a pheiriannau golchi. Gallant roi teulu ehangach i bobl ofalu am ei gilydd. Gallaf dystio i hynny yn fy nghydweithrediaeth dai i. Rwy’n teimlo bod cefnogaeth yno os oes ei hangen arnaf. Rwy’n mwynhau rhoi cefnogaeth hefyd. Rydych yn teimlo’n hapusach pan rydych yn teimlo y gallwch gynnig rhywbeth i rywun.

Gall cymunedau cyd-drigo fynd o chwith hefyd. Mae enghreifftiau ar fforymau cyfryngau cymdeithasol, fel y tudalen Facebook ‘Considering Cohousing’, sy’n disgrifio cynlluniau sydd, ym marn y cyfranwyr, wedi mynd o chwith. Lle nad yw seilwaith cymdeithasol y grŵp (gan gynnwys prosesau penderfynu) wedi gweithio neu pan nad oedd wedi’i sefydlu â digon o feddwl ac arfer i ddechrau, neu lle mae grym gormesol wedi cymryd drosodd, neu lle nad yw cynlluniau’n gweithio.

Mae fy mhrofiad o fyw mewn cydweithrediaeth dai dros y pum mlynedd diwethaf wedi fy nysgu y dylid treulio cymaint o amser ag y bo modd ar y cychwyn yn ffurfio’r grŵp ac yn tyfu gyda’ch gilydd fel grŵp, cyn chwilio am safle a chynllunio pa adeiladau y byddwch yn eu codi. Caiff hyn ei gefnogi gan waith cymunedau cyd-drigo yn Nenmarc, lle y datblygwyd proses gyfranogol (wedi’i henwi ar ôl ei chreawdwr, Henry Nielsen) i helpu grwpiau i ddod o hyd i’w hunaniaeth a symud ymlaen yn gryf tuag at eu nod.

Gall ffurfio prosiectau cyd-drigo achosi straen a mynnu ymdrech, os ydynt yn llwyddiannus o gwbl, felly mae angen i grwpiau fod ar dir cadarn o’r cychwyn cyntaf. Mae wedi cymryd blynyddoedd i lawer o brosiectau llwyddiannus yn y DU gael gwynt dan adain. Rhaid i grwpiau cymunedol ddod o hyd i’r adnoddau i sefydlu, dod o hyd i safle, mynd trwy’r broses gynllunio (gall cais cyn-cynllunio cychwynnol ar ei ben ei hun gynnwys ymgynghoriad helaeth â’r gymuned a chost o fil o bunnoedd), dod o hyd i benseiri, a rheolwyr prosiect a datblygwyr posibl.

Mae grwpiau, fel Canolfan Cydweithredol Cymru, sy’n gallu helpu gyda chyngor a chronfeydd bach ar gyfer ffioedd ymgynghorydd sefydlu cychwynnol (er enghraifft, ein grant Archwilio ar y cyd â Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, sy’n cael ei ddarparu fel rhan o’n rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi newydd) , ond mae’r rhain yn gyfyngedig. Dim ond pedwar ohonynt fydd yn cael eu dyfarnu eleni. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gweithio ledled Cymru, felly mae angen i ni ddarparu cyflenwad eang i bawb yn hytrach na chyllid manwl ar gyfer un neu ddau o brosiectau. Yn y pen draw, y gymuned sy’n gyfrifol am wneud ei gwaith ei hun.

Mae ffyrdd i godi arian, er enghraifft trwy roddwyr preifat, ymddiriedolaethau ac arianwyr masnachol fel Nationwide (mae ceisiadau wedi cau eleni, ond gallant ailagor y flwyddyn nesaf, felly mae’n werth paratoi amdanynt), cyfranddaliadau cymunedol a benthyg stoc (sy’n gallu darparu blaendal ar gyfer morgais i’r rhai nad oes ganddynt gyfalaf). Mae grantiau’r llywodraeth, fel y gronfa Tai Arloesol, ond mae llawer o gystadleuaeth gan bobl sy’n debygol o fod yn fwy sefydledig na’r grŵp cymunedol cyffredin.

Mae hefyd yn bosibl cydweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCau) i greu prosiectau tai sydd naill ai’n gwbl gymdeithasol neu sydd â daliadaeth gymysg (fel y prosiect cyd-drigo ‘Older Women’s Cohousing’ yn High Barnet), ond mae enghreifftiau llwyddiannus yn brin o hyd. Cefnogwyd sawl prosiect cyd-drigo yn y DU, gan gynnwys LILAC yn Leeds a Marmalade Lane yng Nghaergrawnt, gan yr awdurdod lleol, a ddyrannodd safle yn y ddau achos ac, yn achos Marmalade Lane, a dalodd am reolwr prosiect yn ystod y camau cynnar.

Rydym wedi dechrau cynnal y trafodaethau hynny yn adran tai Cyngor Sir Powys. Mae safle lle gallwn greu prosiect cyd-drigo daliadaeth gymysg, amlgenhedlaeth a all fodloni anghenion tai lleol a gofal Cyngor Sir Powys a darparu cymysgedd o dai cymdeithasol, fforddiadwy a gwerth marchnadol. Rwy’n cynnal trafodaethau tebyg â sefydliad y gofalwyr, Credu, Dementia Matters ac uned Heneiddio’n Dda Cyngor Sir Powys (a ffurfiwyd fel rhan o strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol y sir).

Ar wahân i ambell anheddiad mawr, gellir disgrifio’r rhan fwyaf o Bowys yn ‘wledig iawn’. Mae’n cynnwys un traean o ehangdir Cymru ond dim ond 5% o’r boblogaeth. Rwy’n treulio mwy o amser nag erioed o’r blaen y tu ôl i lyw’r car. Un o’r ceisiadau mwyaf poblogaidd rwy’n ei gael yw gan bobl sydd eisiau sefydlu fferm cyd-drigo neu brosiect cyd-drigo gwledig iawn. Mae’n debyg mai dyma fydd y dasg fwyaf heriol, oherwydd y mae llawer o gyfyngiadau ar adeiladu yn yr hyn sy’n cael ei ddiffinio dan reolau cynllunio fel ‘cefn gwlad agored’, am resymau amlwg.

Mae eithriadau i’r gwaharddiadau cynllunio arferol ar ddatblygiadau tebyg trwy reolau ac eithriadau fforddiadwyedd Datblygiadau Un Blaned, ond y grŵp cymunedol sy’n gyfrifol am gael cefnogaeth leol, darparu’r angen am dai lleol a dod â’r holl ddarnau at ei gilydd eu hunain. Fodd bynnag, mae prosiectau fferm cymunedol gwledig llwyddiannus, fel Trelay yng Nghernyw, wedi’u creu o ffermydd presennol, a phrosiectau adnewyddu gwledig, fel Dol Llys ger Llanidloes.

Ar hyn o bryd, bydd y prosiect hwn yn para chwe mis arall – felly sut ydw i’n manteisio i’r eithaf ar yr amser sydd gennyf? Rwy’n sefydlu Rhwydwaith Cyd-drigo Powys i ddod â phobl sydd â diddordeb mewn cyd-drigo at ei gilydd, yn datblygu pecyn a gweithdy ‘Llwybrau i Gyd-drigo’, a fydd yn cael ei gynnig mewn pedwar lleoliad ledled Powys, yn teithio o gwmpas y sir i gyfarfod â grwpiau cymunedol ac yn parhau â’m gwaith yn y Cyngor i sefydlu amgylchedd ffafriol ar gyfer cyd-drigo. Rwyf hefyd yn gobeithio cyfrannu at waith cynyddol Housing LIN ar gyd-drigo, sy’n adnodd gwych i unrhyw un sydd eisiau deunyddiau darllen manwl.

Ar ôl chwe mis, yr adborth rwy’n ei gael gan grwpiau cymunedol yw eu bod eisiau creu tai a bod ganddynt syniadau newydd ynghylch sut i wneud hynny, ond bod angen mwy o gymorth arnynt i’w galluogi i gystadlu â datblygwyr mwy sefydledig sydd â’r staff a’r gallu i fanteisio ar gyfalaf y gall y rhan fwyaf o grwpiau cymunedol ond breuddwydio amdano. Mae’n amlwg bod angen sector tai cymunedol cryf ar Gymru, a bod grwpiau cymunedol angen mwy o gymorth gan Gymru i helpu i fodloni anghenion tai. Mae cyd-drigo yn un rhan o ddarlun llawer mwy, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn y chwe mis nesaf!

Cysylltwch ag Allan

allan.shepherd@wales.coop

Mae Prosiect Cyd-drigo Powys yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi ehangach Canolfan Cydweithredol Cymru, sydd â’r nod o gefnogi grwpiau cydweithredol sefydledig a grwpiau tai dan arweiniad y gymuned ledled Cymru.