Blog | Menter gymdeithasol

Ymchwilio i effaith y pandemig ar fentrau cymdeithasol ledled y DU.

Mae David Madge o Fusnes Cymdeithasol Cymru yn myfyrio ar y gwersi o ledled y DU yn yr ymgynghoriad diweddar gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fenter Gymdeithasol i mewn i’r gymorth y llywodraeth ar gyfer mentrau cymdeithasol trwy’r pandemig.

By Ceri-Anne Fidler Jones · 16 Rhagfyr 2021

Gweler y dudalen hon yn: English

Yn ddiweddar gofynnwyd imi fynd i ymchwiliad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fenter Gymdeithasol i gefnogaeth y llywodraeth trwy’r pandemig.

Ar ôl ei sefydlu yn 2003 gan y Farwnes Thornton a’i gadeirio gan Alex Sobel AS, mae gan y grŵp hollbleidiol gynrychiolaeth o bleidiau gwleidyddol ledled y senedd – Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae’n cynnwys cymeriadau cryf o’r byd gwleidyddol a mentrau cymdeithasol, gan gynnwys Charlie Courtenay, Iarll Dyfnaint, yr Arglwydd John Bird (sefydlydd y Big Issue) a’r Arglwydd Victor Adebowale (cyn Brif Weithredwr Centrepoint a Turning Point a Chadeirydd Social Enterprise UK).

Ffocws y sesiwn y cefais wahoddiad iddi oedd effaith y pandemig ar y sector menter gymdeithasol ym mhob un o’r cenhedloedd datganoledig, ynghyd â’r cymorth a oedd ar gael i’r mentrau cymdeithasol yn y cenhedloedd hynny gan eu llywodraethau perthnasol.

Colin Jess, Cyfarwyddwr Social Enterprise Northern Ireland oedd y cyntaf i siarad am effeithiau’r pandemig yng Ngogledd Iwerddon. Roedd y profiad yng Ngogledd Iwerddon wedi bod yn debyg i Gymru mewn sawl ffordd. Camodd y sector busnes cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon i’r adwy gyda mentrau cymdeithasol yn cynnig cymorth ychwanegol yn eu cymunedau a mwy o arloesi gan lawer o’r busnesau ar yr un pryd. Fodd bynnag, pwysleisiodd Colin nad oedd gan Gynulliad Gogledd Iwerddon yr un ddealltwriaeth o’r sector mentrau cymdeithasol ag oedd gan lywodraethau Cymru a’r Alban ac o’r herwydd roedd yn rhaid i sefydliadau sy’n cynorthwyo mentrau cymdeithasol dreulio cryn amser yn lobïo eu llywodraeth am gymorth arbenigol.

Dywedodd Duncan Thorpe o Social Enterprise Scotland bod y sector yn yr Alban wedi bod yn eithaf ffodus o ran cymorth a datblygiad, buddsoddiad a’r cymorth busnes arbenigol a oedd ar gael. Roedd Social Enterprise Scotland wedi gwneud llawer o waith datblygu strategol cyn y pandemig. Roeddynt yn croesawu lefel debyg o gymorth ariannol gan Lywodraeth yr Alban ag a welodd y sector yng Nghymru, gyda chyllid cyffredinol ac arbenigol ar gael i fusnesau. Roedd yr Alban yn gallu adrodd hefyd bod mentrau cymdeithasol newydd wedi dechrau o ganlyniad i brofiadau yn ystod y pandemig. Mae hyn yn debyg iawn i’n profiad yng Nghymru lle mae ein tîm Dechrau Newydd wedi gweithio gyda llawer o entrepreneuriaid cymdeithasol sydd wedi bod eisiau dechrau busnesau cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â materion y tynnodd y pandemig sylw atynt yn eu cymunedau.

Fel Cymru, cafwyd etholiad yn yr Alban ym mis Mai sy’n golygu bod yna wleidyddion newydd y mae angen iddynt feithrin cysylltiadau gyda nhw a datblygu eu dealltwriaeth o’r sector.

Ar gyfer fy adran i roeddwn yn gallu defnyddio llawer o’r data a gasglwyd gennym yn ein hymarfer mapio diweddar, adroddiad Cyflwr y Sector. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwnnw yn ystod ail don y pandemig a gofynnodd nifer o gwestiynau penodol iawn am sut roedd busnesau cymdeithasol yn ymdopi â Covid. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

Amcangyfrifir bod y sector yng Nghymru yn cynnwys oddeutu 2300 o fusnesau ac yn cyflogi hyd at 56,000 o bobl – felly mae’n rhan sylweddol o economi Cymru. Roedd y sector wedi profi twf cyson tan 2019 ond daeth diwedd ar hyn yn 2020. Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein sector yng Nghymru:

  • gorfodwyd 63 y cant o fusnesau a arolygwyd i roir gorau i fasnachu ar ryw adeg yn ystod y pandemig
  • roedd y cynllun ffyrlo yn hanfodol – roedd 37% o’r busnesau a arolygwyd wedi ei ddefnyddio ac roedd 24% o weithwyr wedi bod ar ffyrlo ar ryw adeg yn ystod y pandemig
  • dywedodd 69 y cant eu bod wedi cael trosiant is na’r disgwyl y llynedd, a
  • dywedodd 38 y cant bod risg i’w cronfeydd wrth gefn.

Adeg yr arolwg, roedd 45% o fusnesau cymdeithasol yn ystyried COVID-19 yn fygythiad mawr neu argyfyngus i’w hyfywdra ariannol dros y 12 mis nesaf sy’n dangos bod risg barhaus wirioneddol i fusnesau yn y sector.

Roeddwn yn gallu rhannu newyddion positif o ran y cymorth y mae Busnesau Cymdeithasol wedi gallu manteisio arno gydol y pandemig, gan ganolbwyntio ar y cymorth busnes gan y Cynghorydd Busnes a’r timau Datblygu’r Farchnad yn Busnes Cymdeithasol Cymru ond hefyd yn cydnabod cymorth gan bartneriaid fel UnLtd, Development Trust Association a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru ymysg eraill.

Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth mewn sawl cyfran i fusnesau yng Nghymru. Yn benodol, aeth y Gronfa Cadernid Economaidd drwy nifer o gyfnodau gyda chyllid cymorth llif arian ar unwaith ym mis Ebrill 2020, ail gyfnod ym mis Gorffennaf ar gyfer busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad oedd wedi bod yn gymwys yn flaenorol a thrydydd cyfnod ym mis Hydref 2020. Roedd hyn yn cynnwys cymorth grant o 90% i helpu i gynorthwyo busnesau i gynnal prosiectau, gan dargedu hyfywdra masnachol a diogelwch cyflogaeth mewn ymateb i heriau’r pandemig ac ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 72 o fentrau cymdeithasol neu elusennau gyda gwerth o bron i £1.5 miliwn hyd yma.

Yna, sefydlodd Llywodraeth Cymru gronfa bellach, sef ‘Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector’ i gynorthwyo sefydliadau trydydd sector yn benodol, gan gynnwys busnesau cymdeithasol. Gweinyddwyd y gronfa hon gan fraich buddsoddi cymdeithasol CGGC (Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru) a’i hamcan oedd bod yn gronfa dewis olaf i fentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector wedi cael effaith enfawr ar y sector:

  • 110 dyfarniad yn y cyfnod cyntaf gyda gwerth o tua £4.5 miliwn
  • 126 dyfarniad yn ei ail gyfnod (ffocws ar oroesi a ffynnu) o oddeutu £8 miliwn.

Yn ddiweddar, mae’r gronfa wedi dechrau ar ei thrydydd cyfnod, gan gynnig cyllid ychwanegol i fusnesau cymdeithasol o £50,000 mewn grantiau ‘goroesi a ffynnu’.

Prif bethau a ddysgwyd

Mae’n anodd cyfleu’r ystod lawn o gymorth a gynigiwyd i’r sector gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid uniongyrchol, cyllid a weinyddwyd gan gyrff fel CGGC / Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru a chymorth gan sefydliadau a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Busnes Cymdeithasol Cymru.

Galluogodd gweithio mewn partneriaeth rhwng pob un o’r prif gyrff cymorth ar gyfer busnesau cymdeithasol ymgysylltu a chyfathrebu cyson â’r sector mewn cyfnod anodd iawn. Arweiniodd hyn at ddealltwriaeth wirioneddol o effaith yr argyfwng ac effeithiolrwydd ymyriadau. Roedd y Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol sy’n ein cynnwys ni, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Unltd, CGGC a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yn hollbwysig wrth sicrhau bod gwybodaeth o bob elfen o’r sector busnes cymdeithasol yn cael ei rannu a’i ddosbarthu.

Dangosodd y pandemig hefyd pa mor hanfodol yw cymorth ariannol a busnes i fusnesau cymdeithasol. Cafodd busnesau cymdeithasol dipyn o ergyd yn ystod y pandemig, er eu cadernid a’u gallu i ymateb a dal ati i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau. Bydd yn cymryd cryn amser i lawer o fentrau cymdeithasol godi eto, mae gan rai ddyledion newydd i’w rheoli ac mae rhai wedi cwtogi eu llif arian, ac o’r herwydd, eu busnesau i’r byw a bydd angen amser arnynt i ailadeiladu’n effeithiol.

Ar lefel bersonol, roeddwn i’n gallu cyfeirio at ymatebolrwydd pob un o’r sefydliadau – o brofiad personol ymatebodd fy holl gydweithwyr gyda ffocws uniongyrchol ar wneud popeth o fewn eu gallu i gynorthwyo’r sector a helpu arweinwyr busnes i gadw eu busnesau i fynd a’u cydweithwyr mewn gwaith.

Gorffennais drwy ddweud bod busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn wydn a’u bod yn gallu ac wedi mynd i’r afael â heriau cymdeithasol. Er ein bod yn gwybod y byddent yn gwneud yr un peth eto yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni eu cynorthwyo i godi eto a dal ati i gael yr effaith fwyaf bosibl.