Yn ôl i’r Gorffennol

Mae'r gwaith o adeiladu tai cyngor newydd wedi ailddechrau ac mae'n hen bryd, yn ôl Keith Edwards, Prif Aelod Cyswllt HQN Cymru

See this page in: English

Efallai bod sawl posibilrwydd addawol ond aflwyddiannus wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf ond, wir i chi, mae tai awdurdod lleol newydd yn dechrau cael eu hadeiladu eto. Pan ddywedodd y Gweinidog Julie James ei bod hi’n ymrwymedig i adeiladu mwy o dai cyngor ‘yn raddol’, roedd hi’n ymwybodol bod y chwyldro eisoes wedi dechrau. Roedd cynlluniau gan yr 11 o awdurdodau lleol oedd yn dal i fod â thai cyngor – o gynlluniau peilot ar raddfa fach i raglenni mawr. Nawr, gwelwn yr uchelgeisiau’n cael eu gwireddu.

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd yn adeiladu dros 900 o dai cyngor newydd dros y pum mlynedd nesaf. Mae Caerdydd am adeiladu 1,000 o dai cyngor erbyn 2022. Mae Abertawe yr un mor uchelgeisiol gyda’r bwriad arloesol o adeiladu tai cyngor newydd na fydd angen boeler i’w cynhesu. Hefyd, mae Bro Morgannwg a Chaerffili yn mentro i’r maes adeiladu am y tro cyntaf ers degawdau.

Yn y gogledd, mae Sir Fôn yn awyddus i ychwanegu 500 o dai cyngor yn y blynyddoedd nesaf – bydd tua dwy ran o dair o’r tai yn cael eu hadeiladu o’r newydd gyda’r traean sy’n weddill yn cael eu prynu o’r farchnad breifat. Dywedodd Ned Michael, Pennaeth Tai, wrth y BBC ‘Mae’n bwysig i barhad yr iaith a diwylliant ein bod yn darparu ar eu cyfer ac yn darparu gwaith iddynt hefyd.’ Mae cyngor Sir Ddinbych yn adeiladu 22 o dai ar gyrion Dinbych a fydd yn diwallu gofynion yr agenda newid hinsawdd acyn addasu’n hawdd i dechnolegau’r dyfodol’ – rhan o’r cynlluniau i gael 170 o dai cyngor erbyn 2022. Mae Sir y Fflint yn bwriadu adeiladu 500 o dai newydd erbyn 2030. Bydd Rhaglen Adeiladu a Phrynu Wrecsam yn datblygu tai newydd, yn prynu hen dai cyngor yn ôl ac yn prynu o’r sector preifat. Yn y canolbarth, mae Powys yn bwriadu adeiladu 250 o dai erbyn 2022 ac mae Sir Benfro hefyd yn awyddus i adeiladu er mwyn diwallu anghenion lleol.

Bydd y ddarpariaeth ledled Cymru yn peri i lefelau tai cyngor gyrraedd yr un lefelau ag oeddent cyn i’r hawl i brynu gael ei gyflwyno, gan wrthdroi 30 mlynedd o ddirywiad. Mae’n newyddion da, ond nid da lle gellir gwell. Mae gwaith i’w wneud cyn cyrraedd lefel ‘y dyddiau dedwydd’ – adeiladwyd dros 8,000 o dai cyngor yn 1976 o gymharu â chyfartaledd blynyddol o 15 ers 2000. I wneud y gorau o’r cyfleoedd, mae angen i ni ddysgu gwersi o’r gorffennol ac ystyried beth sydd wedi newid dros y 30 mlynedd diwethaf o fethu ag adeiladu tai cyngor.

Yn gyntaf, ac yn fwyaf amlwg, ni allwn fforddio ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol. Daeth dyddiau deiliadaeth unigol ac adeiladu miloedd o ystadau ar lethrau mynyddoedd yn bell i ffwrdd o amwynderau sylfaenol i ben. Mae’n rhaid i ni sicrhau dull cyfannol o gynllunio ac mae’n rhaid i’r gwaith adeiladu gyrraedd y safonau uchaf gan gynnwys codi adeiladau di-garbon.

Yn ail, mae’n rhaid sicrhau nad cymhelliant hunanol ac awydd i ennill pwyntiau gwleidyddol sydd wrth wraidd y prosiectau. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol i adeiladu tai cyngor newydd yng Nghymru am fod pawb yn cydnabod nad ydym yn adeiladu digon o dai. Golyga hyn nad oes angen i bob awdurdod weithredu ar ei ben ei hun. Nid oes angen cerbydau dosbarthu newydd sbon arnom na thimau datblygu chwaith.

Yn drydydd, mae angen cynnal deialog gonest â phartneriaid eraill. Nid oedd cymdeithasau tai bob amser yn helpu eu hunain yn y blynyddoedd pan oeddent wrth y llyw o ran adeiladu tai newydd ac mae llawer o aelodau lleol yn dal i ddal dig oherwydd bod y rheolaeth dros dai cymdeithasol wedi’i chymryd oddi wrthynt. Ond mae gan gymdeithasau lawer i’w gynnig – maent yn gwybod sut i adeiladu, gallant gael gafael ar gyllid ac mae ganddynt hanes blaenorol cryf iawn o fuddsoddi mewn cymunedau – gan greu cymunedau, yn hytrach nag adeiladu tai yn unig. Byddai’n wirion ac yn wastraffus peidio â cheisio ffyrdd newydd o gydweithio.

Golyga hyn oll fod yn rhaid i ni ailystyried, ail-greu ac weithiau, ddatblygu ffyrdd newydd o weithio mewn partneriaeth: Yn genedlaethol rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC (a ddylent wir ystyried cloi eu hunain mewn ystafell am sawl diwrnod i lunio concordat newydd); Yn rhanbarthol drwy gyfleoedd cynyddol Bargen Ddinesig De Cymru a Bargen Twf Economaidd y Gogledd; Yn lleol rhwng tai a chynllunio a’u cymdeithasau partner ac eraill gan gynnwys cwmniau cydfuddiannol a chydweithredol.

Mae rhywbeth mawr ar y gweill ac mae’r potensial yn anferthol. Helpwch ni i wneud hyn yn iawn y tro hwn.

Cyhoeddwyd y blog hwn gyntaf gan HQN Cymru.

Mae Keith Edwards yn Ymgynghorydd Annibynnol ac yn Gydymaith Arweiniol ar gyfer Rhwydwaith Ansawdd Tai Cymru. I gael gwybodaeth ar sut i ymuno, cysylltwch â HQN: joinus@hqnetwork.co.uk

Keith Edwards

keith edwards