Ymagwedd gydweithredol at fancio ar ôl y pandemig

Mae Mark Hooper yn arwain y broses o ddatblygu banc cymunedol i Gymru sydd mewn perchnogaeth gydweithredol. Mae'n sôn ychydig wrthym am ble maen nhw arni gyda Banc Cambria, sut mae Covid-19 wedi newid pethau ac i ble maen nhw'n mynd nesaf.

See this page in: English

Fe ddechreuon ni weithio ar Fanc Cambria cyn Covid-19 ac roedd yn teimlo’n hollol wahanol. Roedd tirwedd ariannol Cymru’n glir; roedd y banciau mawr yn parhau i encilio o’n trefi, ein pentrefi a maestrefi ein dinasoedd; roedd yr un banciau’n cael eu beirniadu am fethiannau a dyffygion corfforaethol. Roedden ni’n gwybod mai’r unig ddewis i lawer o bobl oedd aros gyda’u banc presennol, gan fod yr holl sefydliadau mawr fwy yr un fath i bob pwrpas. Cawsom wybod bod ‘Banciau Herio’ yn amharu ar y farchnad, ond dywedodd ein sgyrsiau wrthym nad oeddent yn llwyddo i herio’r pethau roedd pobl yn teimlo’n wirioneddol rwystredig yn eu cylch; trachwant, llai o wasanaethau a diystyru’r busnesau lleiaf yn llwyr. Nid oes yr un ohonynt yn deall y Gymraeg mewn gwirionedd; yr hawl i gwsmeriaid fancio yn yr iaith o’u dewis, nid yr un a ddewisir ar eu cyfer. Roeddem yn teimlo bod gan ein model fantais – cynnig syml, sy’n cyflawni ar gyfer ei aelodau, nid cyfranddalwyr.

Roedd Pwyllgor Menter, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd wedi ysgrifennu adroddiad gwych ar ‘Fynediad at Fancio’ a roddodd ddarlun clir o’r sefyllfa yng Nghymru. Fe archwilion nhw’r ffigurau a mireinio’r broblem – fe alwon nhw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Roedd gennym ni ddata. Llawer o ddata. Data ar fusnesau lleiaf Cymru, gwybodaeth am batrymau gwario. Roedd gennym ffigurau defnyddio arian parod hyd yn oed. Roedd gennym fap mawr, gyda sticeri’n dweud wrthym ble’r oedd y banciau, a mwy yn dangos ble roeddent yn arfer bod. Roeddem wedi dechrau gosod pinnau mewn trefi lle roeddem ni eisiau bod hyd yn oed; fe wnaethom ni ymweld â rhai hyd yn oed. Trefi mwy o faint fel Bwcle yn y Gogledd-ddwyrain, a arferai fod â banc ar bob cornel ond sydd bellach heb yr un. Trefi llai o faint fel Trefyclo, lle dywedodd pobl leol wrthym fod rhaid iddynt deithio 40 munud bob ffordd i gyrraedd y banc agosaf.

Roeddem wedi denu rhai cyn-swyddogion profiadol o fanciau mawr i’n timau Bwrdd a Phrosiect a sefydliadau a gynigiodd atebion ymarferol i’n helpu i gyrraedd y farchnad yn gyflymach. Byddai’r pecyn cymorth a ddarparwyd gan y Community Savings Banc Association yn ein helpu ni i leihau amser, lleihau risgiau a lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â chais i fancio, ond ni fyddai’n atal y broses rhag bod yn faith, yn llawn risg ac yn gostus.

Gwyddem fod hyn yn mynd i fod yn anodd, ond roeddem yn barod ar gyfer yr her. Roeddem yn teimlo bod gennym ateb – fel eraill a oedd yn cychwyn ar deithiau tebyg mewn rhannau eraill o’r DU (roedd un ar ddeg grŵp mewn gwahanol gamau datblygu, dau ohonynt yr ochr arall i Bont Hafren, a oedd wedi cychwyn ar eu taith i reoleiddio). Roedd melinau trafod yn galw am gynnwys banciau cymunedol mewn perchnogaeth gydweithredol ym maniffestos y Pleidiau ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr. Roeddem yn teimlo bod gennym rywfaint o fomentwm y tu ôl i bob un ohonom. Roeddem yn ofalus i beidio â defnyddio’r term ‘mudiad’; yn allanol o leiaf 😉.

Yna, cawsom ni, fel pawb arall, ein heffeithio gan bandemig iechyd a’r sioc economaidd ddilynol a amharodd yn fawr ar ein gwaith (yn enwedig ein taenlenni rhagolygon) – am drychineb – neu felly y tybion ni. Croeso i’n byd ni fel y mae nawr; heb os, tasg sydd ar y gweill.

Unwaith i ni ddod dros y panig cychwynnol ar ôl sylweddoli bod y setiau data roedden ni wedi bod yn eu datblygu yn edrych ddim gwell na tebot siocled, fe aethom ati i bwyso a mesur y sefyllfa a manteisio ar y cyfyngiadau symud, gan dreulio tipyn o amser yn ail-ffurfio banc Cambria ar gyfer byd ar ôl Covid-19.

Y peth cadarnhaol cyntaf, nid ydym wedi lansio. Nid yw ein realiti ni yr un fath â realiti pobl eraill – roedden ni’n ffodus yn hyn o beth. Os bydd asesiad effaith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gywir mewn unrhyw ffordd, bydd yr effaith ar sector gwasanaethau ariannol presennol y DU yn ddramatig. Hyd yn oed pe bai yna adferiad siâp V, ni fydd cydberthynas uniongyrchol rhwng y rhai sy’n llithro i lawr y llethr a’r rhai sy’n dod drwyddi yr ochr arall – bydd y colledion hynny’n cael yn disgyn ar ysgwyddau’r darparwyr presennol.

Yn ail, sut bynnag fydd pethau’n edrych ar ddiwedd hyn i gyd, un peth sy’n sicr yw y bydd angen cyfrifon banc arnom ni i gyd. Mae’r pryderon a oedd gan bobl am fanciau mawr yn dal i fodoli; yn wir, gallai’r pryderon hynny gael eu gwaethygu ymhellach gan y ffordd y byddant yn ymdrin â phethau dros y misoedd nesaf – ni fydd dim o hynny’n hawdd. A fyddant yn ymdrin yn dosturiol â diffygdalu benthyciadau, trallod morgais a chynlluniau busnes anghyflawn? A fyddant yn manteisio ar y cyfle i gydgrynhoi eu rhwydwaith canghennau ymhellach, lleihau argaeledd peiriannau ATM neu dynnu cynnyrch poblogaidd yn ôl o’u portffolio sy’n darparu enillion annigonol (cymharol)? Nid yw’r banciau wedi dechrau’n dda.

Mae’r banciau mawr yn gwneud llawer o arian o’n bywydau ariannol ar y cyd. Mae un ffigwr (mae un o’r banciau mawr yn ei ddefnyddio’n fewnol) yn awgrymu eu bod yn gwneud cyfartaledd o £400 y flwyddyn, fesul cyfrif cyfredol gweithredol. Mae hynny’n fwy na chwarae gyd ffigurau; dyma’r elw y maent yn ei wneud ar eich benthyciad, y ffioedd o’ch ISA neu’r taliadau llog ar eich gorddrafft A’R defnydd y maent yn ei wneud o’ch arian parod pan nad ydych chi ei angen (rhoi ei fenthyg i bwy bynnag a ddewisant, am ba bynnag ddiben y credant fydd yn gwneud arian iddynt). Os byddwn yn tybio bod 2.5 miliwn o gyfrifon cyfredol personol gweithredol yng Nghymru; mae hynny’n golygu bod tua £1 biliwn y flwyddyn yn gadael economi Cymru i freichiau cyfranddalwyr y banciau mawr. Ar ôl Covid-19, bydd angen i Gymru ddod o hyd i ffyrdd o gadw ei harian cyhyd ag y bo modd – mae cylchrediad arian parod yn hanfodol i lesiant economaidd ein cymunedau.

O’r cychwyn cyntaf, roedd gwahaniaeth allweddol ym model busnes Banc Cambria o ran darparu rhwydwaith o ganghennau ledled Cymru. Ymddengys fod y dystiolaeth gychwynnol yn awgrymu bod yr argyfwng Covid-19 yn debygol o daro’r stryd fawr yn galed iawn. Roedd manwerthwyr Cymru yn dioddef cyn y pandemig, ac mae pethau’n anoddach fyth yn awr. Bydd cael banc newydd ar y stryd fawr ledled Cymru yn ysgogiad i’r arlwy manwerthu ehangach, gan gyfleu hyder i un gymuned ar ôl y llall.

Un o’r cyfleoedd allweddol y mae’r cyfyngiadau symud yn ei roi i ni yw’r amser a’r lle i weld sut mae gweithrediadau bancio wedi gweithio (neu beidio) mewn byd o dan gyfyngiadau symud. Byddwn yn elwa ar edrych, gwrando a dysgu, yn enwedig dros y misoedd cyntaf, a sicrhau y gall ein harlwy manwerthu ymdopi ag ansicrwydd a newidiadau deddfwriaethol sy’n symud yn gyflym. Gallem fod y cwmni bancio manwerthu cyntaf  i ymateb i Covid-19 – un wedi’i gynllunio i ymdrin yn effeithiol â chyfyngiadau symud, cadw pellter cymdeithasol a newidiadau ym mhwysigrwydd cymharol arian parod mewn bywyd bob dydd.

Rydym yn gwybod mai digwyddiadau mawr mewn bywyd sy’n cymell pobl i ddewis darparwr cyfrif cyfredol newydd. Fel arfer, mae’r digwyddiadau hyn yn tueddu i fod yn bethau fel mynd i’r brifysgol, priodi, cael eich morgais cyntaf, cael ysgariad ac yna ailbriodi efallai. Gallai’r byd ar ôl Covid-19 fod yn un o’r digwyddiadau hynny mewn bywyd, ond i bob un ohonom. Mae bancio yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd y gallwn ei reoli – mae gan wledydd eraill garfan fancio gydweithredol gref; does dim rheswm pam na allwn ni gael hynny hefyd.

Yn olaf, mae’r mater sy’n ymddangos yn fwy hanfodol fyth mewn byd ar ôl Covid19 yn ymwneud ag amseroldeb lansio Banc Cambria. Rydym am allu lansio ar ddechrau’r adferiad ar ôl Covid-19; i ddal y don gyntaf ac annog eraill i ymuno â ni. Rydym yn cydnabod bod sefydlu banc yn cymryd amser, ond gallwn dawelu eich meddwl mai bod law yn llaw â phobl Cymru a busnesau Cymru pan fydd angen yr help hwnnw arnynt i ailgychwyn yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn gweithio ar hyn.

Cyhoeddir y blog hwn fel rhan o gyfres ar gyfer Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 2020. Gadewch i ni ailadeiladu’n well gyda’n gilydd. #KeepCooperating

Mark Hooper

 

“Gallem fod y cwmni bancio manwerthu cyntaf  i ymateb i Covid-19 – un wedi’i gynllunio i ymdrin yn effeithiol â chyfyngiadau symud, cadw pellter cymdeithasol a newidiadau ym mhwysigrwydd cymharol arian parod mewn bywyd bob dydd.”

Rhag ofn i chi eu methu..

Darllenwch fwy o'n blogiau #KeepCooperating ar gyfer Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 2020