Beth yw busnes cydweithredol?

This guide explains the basic principles of co-operative business, including its advantages, types of co-operatives and a history of co-ops in Wales.

See this page in: English

Beth yw busnes cydweithredol?

Gallwch ddod o hyd i fusnesau cydweithredol ym mhob cwr o’r byd, yn gweithredu mewn llawer o ddiwydiannau. O faes tai i ofal iechyd, manwerthu i fwytai, mae pob math o fusnesau cydweithredol ar gael. O’r tu allan, mae busnes cydweithredol yn edrych fel unrhyw fusnes arall. Mae’n prynu ac yn gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ac yn ceisio bod yn llwyddiannus. Y gwahaniaeth yw bod aelodau’r busnes yn berchen ar fusnes cydweithredol ac yn ei redeg.

Gall aelodau o fusnes cydweithredol ddod o amrywiaeth o ffynonellau a gallent fod yn staff, cwsmeriaid, perchenogion busnes, defnyddwyr gwasanaeth, trigolion, ac ati, gan ddibynnu ar natur y busnes.  Ni waeth o ble y daw’r aelodau, swm y cyfalaf maent wedi’i fuddsoddi yn y busnes na faint o amser maent wedi bod gyda’r cwmni, mae gan bob aelod o fusnes cydweithredol un bleidlais, ac un bleidlais yn unig. Mae’r rheol ‘un aelod, un bleidlais’ yn golygu bod busnes cydweithredol yn cael ei reoli’n ddemocrataidd gan ei aelodau, yn hytrach na chael ei lywio gan randdeiliaid allanol.

Mae busnesau cydweithredol yn rhai sydd wedi’u harwain gan bobl, sydd wedi’u hysgogi gan werthoedd a dyheadau eu haelodau ac wedi’u harwain gan saith ‘Egwyddor Gydweithredol’ a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae’r egwyddorion hyn yn hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb, yn annog cydweithio rhwng aelodau a busnesau cydweithredol eraill ac yn sicrhau bod y gymuned yn bwysig i bawb.
Oherwydd y pethau hyn, mae’r buddiannau economaidd a chymdeithasol sy’n cael eu creu gan fusnes cydweithredol yn dueddol o aros yn y gymuned y mae’r busnes wedi’i leoli ynddi, gan greu swyddi o ansawdd da, ysgogi’r economi leol a darparu gwasanaethau gwerthfawr.

Mantais cydweithio – manteision busnes cydweithredol

P’un a yw pobl yn rhwystredig â’u hamodau gwaith, yn awyddus i atgyfnerthu eu safle yn y farchnad, neu am achub cyfleusterau lleol rhag cau, gall busnesau cydweithredol gynnig ateb drwy alluogi pobl o’r un meddylfryd i weithio gyda’i gilydd i gyflawni eu nodau.

Un o fanteision gwych busnesau cydweithredol yw bod ganddynt sail o randdeiliaid ymrwymedig. P’un a ydynt yn gyflogeion neu’n gwsmeriaid, mae aelodau busnes cydweithredol wedi buddsoddi yn y busnes ac yn awyddus i’w weld yn llwyddo. Os mai’r staff sy’n berchen ar y busnes cydweithredol, mae’n dueddol o fod yn fwy cynhyrchiol, gan fod y gweithlu wedi buddsoddi’n ariannol ac yn emosiynol ynddo.

Yn ôl arolwg YouGov a gomisiynwyd gan Gymdeithas Perchnogaeth y Gweithwyr, mae’r cyhoedd o’r farn y gellid ymddiried mwy mewn busnesau y mae cyflogeion yn berchen arnynt na busnesau nad yw cyflogeion yn berchen arnynt. Ar adeg lle mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn corfforaethau yn lleihau, mae’r cyhoedd, yn enwedig defnyddwyr ifanc, yn troi at fusnesau moesegol wedi eu harwain gan werthoedd, am eu nwyddau a’u gwasanaethau – ac maent yn fodlon talu mwy am nwyddau y gwyddant sy’n gynaliadwy.

Mae oedolion ifanc am weithio i gyflogwyr sy’n poeni am fwy nag elw. Yn ôl The 2017 Deloitte Millennial Survey mae pobl ifanc am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r byd ac maent yn teimlo mai’r gweithle yw’r lle gorau iddynt wneud hynny. Felly drwy gael set glir o werthoedd moesegol a thrwy gynnig cyfle i gyfrannu at gyfeiriad y cwmni, gall busnesau cydweithredol ddenu talentau ifanc brwdfrydig sy’n frwd dros newid cymdeithasol cadarnhaol.

Drwy gydweithio a rhannu adnoddau, gall busnesau cydweithredol arbed arian yn unig, ond hefyd gystadlu â chwmnïau mwy sydd â chyllidebau mwy. Trwy gyfuno sgiliau ac adnoddau, gallai menter gydweithredol gynyddu’r cynhyrchiad, cynyddu eu heffaith ar farchnata, a dod yn gystadleuydd cryfach yn eu maes penodol.

Saith o egwyddorion cydweithredol rhyngwladol

Mae busnesau cydweithredol o bob cwr o’r byd yn cael eu harwain gan yr un gyfres o egwyddorion craidd sydd wedi’u mabwysiadu gan Gynghrair Ryngwladol y Mentrau Cydweithredol. Gellir dyddio’r egwyddorion yn ôl i’r busnes cydweithredol modern cyntaf, a sefydlwyd yn Rochdale yn 1844, ond mae’r un negeseuon craidd yn sail iddynt hyd heddiw.

Mae aelodaeth mewn busnes cydweithredol yn agored i bawb sy’n fodlon derbyn y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â hynny. Mae aelodaeth gydweithredol yn wirfoddol ac nid yw’n gwahaniaethu.

Caiff busnesau cydweithredol eu rhedeg yn ddemocrataidd ac maent yn gweithredu system ‘un aelod, un bleidlais’.

Mae aelodau’n cyfrannu’n deg at gyfalaf eu busnes cydweithredol ac yn rheoli’r cyfalaf hwnnw’n ddemocrataidd. ‘Eiddo cyffredinol’ y busnes cydweithredol yw un rhan o’r arian o leiaf a’r aelodau sy’n penderfynu sut y caiff y gweddill ei ddefnyddio, p’un a yw hynny ar gyfer datblygu, cronfeydd wrth gefn neu gefnogi achos.

Mae busnesau cydweithredol yn sefydliadau hunangymorth ymreolus sy’n cael eu rheoli gan eu haelodau. Os bydd busnes cydweithredol yn llunio cytundeb â sefydliadau eraill, mae’n rhaid iddynt wneud hynny ar delerau sy’n sicrhau rheolaeth ddemocrataidd eu haelodau.

Mae mentrau cydweithredol yn darparu addysg a hyfforddiant i’w haelodau, eu cynrychiolwyr etholedig, eu rheolwyr a’u cyflogeion er mwyn iddo allu cyfrannu’n effeithiol at y broses o’u datblygu. Mae busnesau cydweithredol yn ceisio hysbysu’r cyhoedd am natur a manteision cydweithio ac yn annog eraill i fabwysiadu’r egwyddorion.

Drwy weithio gyda busnesau cydweithredol eraill, dysgu gyda’ch gilydd a rhannu arfer gorau, gall busnesau cydweithredol feithrin cysylltiadau cadarnhaol a all atgyfnerthu’r mudiad cydweithredol. Gall hyn ddigwydd ar lefel leol, genedlaethol, ranbarthol a rhyngwladol.

Mae busnesau cydweithredol yn ymdrechu i ddatblygu eu cymunedau. Bydd aelodau cydweithredol yn rhoi polisïau a phrosesau ar waith gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol barhaol ar eu cymunedau.

Yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru mae gennym gyfres o chwech o werthoedd sy’n llywio ein gwaith. Mae’r egwyddorion hyn wedi’u hysbrydoli gan yr egwyddorion cydweithredol rhyngwladol ond maent wedi’u hysgrifennu mewn ffordd sy’n ddealladwy i ni.

Mathau o fusnes cydweithredol

Mae llawer o wahanol fathau o fusnesau cydweithredol, ond mae’r modelau sylfaenol fel a ganlyn:

Busnes cydweithredol y mae ei weithwyr yn berchen arno ac yn ei redeg. Er enghraifft, Dulas, cwmni technoleg ynni adnewyddadwy o Fachynlleth.

Busnes cydweithredol y mae ei gwsmeriaid yn berchen arno ac yn ei redeg. Er enghraifft, archfarchnad Co-op, cadwyn archfarchnad genedlaethol.

Busnes cydweithredol y mae busnesau eraill sy’n defnyddio gwasanaethau’r busnes cydweithredol yn berchen arno ac yn ei redeg. Er enghraifft, Calon Wen, grŵp o 20 o ffermydd sy’n cael eu rhedeg gan deuluoedd ledled Cymru sy’n gweithgynhyrchu cynnyrch llaeth.

Cwmni cydweithredol y mae ei denantiaid yn berchen arno ac yn ei redeg. Er enghraifft, Taf Fechan, busnes cydweithredol tai sy’n gweithio gyda Cartrefi Cymoedd Merthyr

Cymysgedd o unrhyw rai neu bob un o’r uchod. Er enghraifft, Cartrefi Cymru, cwmni nid er elw sy’n cefnogi pobl yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu.

Hanes cryno o gydweithio yng Nghymru

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o fusnesau cydweithredol sy’n ymestyn nôl i’r 1800au. Ganwyd Robert Owen yng Nghymru, ac i lawer o bobl ef yw tad y mudiad cydweithredol modern.

Cafodd Owen ei eni yn y Drenewydd 1771, a gwnaeth ei uchelgais i wella iechyd, addysg, llesiant a hawliau’r dosbarth gweithiol fynd ag ef i bob cwr o’r byd. Yn 1799, prynodd felin gotwm yn New Lanark, yr Alban. O dan ei reolaeth, daeth y felin a’r pentref yn amgylchedd delfrydol. Gwnaeth wella’r ffatri a’r pentref, adeiladu ysgol a darparu siop lle y gellid prynu nwyddau o ansawdd da am bris teg. Gwnaeth Owen ymgyrchu a darlithio ar hyd ei oes. Yn 1812-13, ysgrifennodd “A New View of Society” a oedd yn esbonio ei weledigaeth ar gyfer cymdeithas yn seiliedig ar gydweithio a rhannu elw.

Dylanwadodd gwaith Owen ar lawer o bobl gan gynnwys grŵp o ddilynwyr yn Rochdale. Roedd y grŵp, sef y gymdeithas gydweithredol gyntaf ym marn llawer o bobl, yn cynnwys 28 o wehyddion a gweithwyr melin gotwm medrus. Wrth i fwy a mwy o weithwyr medrus wynebu tlodi yn sgil peiriannau’r Chwyldro Diwydiannol, penderfynodd y crefftwyr hyn ddod at ei gilydd ac agor eu siop eu hunain yn gwerthu eitemau o fwyd na allent eu fforddio fel arall. Gan gadw mewn cof gwersi a ddysgwyd o ymdrechion aflwyddiannus blaenorol i sefydlu busnes cydweithredol, gwnaethant lunio Egwyddorion Rochdale, sydd bellach yn enwog, a thros gyfnod o bedwar mis, gwnaethant frwydro i gasglu £1 fesul person, i wneud cyfanswm o 28 punt o gyfalaf.

Ar 21 Rhagfyr 1844, gwnaethant agor siop gyda dewis prin o fenyn, siwgr, blawd, blawd ceirch ac ychydig o ganhwyllau. O fewn tri mis, roeddent wedi ehangu’r dewis i gynnwys te a thybaco ac ymhen dim, roeddent yn adnabyddus am ddarparu nwyddau pur o ansawdd uchel. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd y mudiad cydweithredol ym Mhrydain wedi tyfu i bron i 1,000 o fusnesau cydweithredol.

Cafodd y busnesau cydweithredol cyntaf yng Nghymru eu sefydlu mor gynnar â’r 1840au, ond Busnes Cydweithredol Cwmbach, wedi’i arwain gan yr egwyddorion cydweithredol a bennwyd gan arloeswyr Rochdale, oedd y gymdeithas gydweithredol gyntaf yng Nghymru a oedd yn llwyddiannus dros yr hirdymor.Wedi’i lleoli yn Aberdâr, parodd am fwy nag 80 mlynedd ac roedd yn fusnes manwerthu cydweithredol a oedd yn darparu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd da i bobl leol am brisiau fforddiadwy.

Cafodd llawer o fusnesau tebyg eu sefydlu dros y blynyddoedd, gan seilio eu hunain yn bennaf ar anghenion unigol pentrefi ac erbyn y 1950au, roedd gan y mudiad cydweithredol yng Nghymru mwy na 333,000 o aelodau a thua 80 o gymdeithasau annibynnol, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn fusnesau manwerthu cydweithredol.
Roedd y cymdeithasau hyn yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu harian; heb fanciau lleol i gadw eu harian, roedd pobl yn buddsoddi yn y busnesau cydweithredol a oedd, yn eu tro, yn buddsoddi mewn ehangu’r amrywiaeth o wasanaethau er mwyn diwallu anghenion eu cymunedau.

Gwnaeth y mudiad manwerthu cydweithredol yng Nghymru ddirywio yn y 1980au o ganlyniad i gystadleuaeth gan gadwyni cenedlaethol a’r dirywiad economaidd a ddigwyddodd o ganlyniad i streic y glöwyr a cholli diwydiant mawr. Erbyn diwedd y 1980au, daeth llawer o’r cymdeithasau cydweithredol yn rhan o’r Gymdeithas Fanwerthu Gydweithredol (y Co-op), ac roedd twf y sector manwerthu cydweithredol annibynnol wedi dirwyn i ben.

Fodd bynnag, mae’r ysbryd cydweithredol yn dal i fod yn gryf yng Nghymru a thros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd mwy o fusnesau yn mabwysiadu’r cynllun cydweithredol. Yn 2018, roedd 478 o fusnesau cydweithredol yng Nghymru, gyda thua 689,000 o bobl yn aelodau o fusnesau cydweithredol. Amcangyfrifir bod y mudiad cydweithredol yng Nghymru yn cynhyrchu £1.1biliwn o drosiant.

Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru yn 1982 gan TUC Cymru ac mae wedi bod yn rhoi cymorth busnes i fusnesau cydweithredol yng Nghymru ers hynny. I ddarllen hanes ein datblygiad, cliciwch yma.

Ydych chi'n ystyried dechrau cydweithfa, neu angen help i dyfu eich busnes cydweithredol presennol? Cysylltwch â ni i weld pa gymorth y gallwn ei gynnig i chi.

info@wales.coop

Cynnwys cysylltiedig