Blodeuo ar ôl COVID-19: galw ar fentrau cymdeithasol

Gall y cyfnod ar ôl COVID-19 fod yn gyfnod lle bydd cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn blodeuo ac yn dwyn ffrwyth i Gymru gyfan, yn ôl Dr Anthony Samuel. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, bydd angen eu meithrin yn ofalus i gyrraedd eu llawn botensial.

See this page in: English

Mae canlyniadau economaidd a chymdeithasol COVID-19 wedi hollti barn mentrau cymdeithasol ledled y DU. Er bod llawer wedi bod yn weithredol (ond heb gydnabyddiaeth) ar flaen y gad yn yr argyfwng, yn darparu gofal cymdeithasol a chefnogaeth iechyd meddwl, yn cefnogi gweithio o bell ac yn cynorthwyo aelwydydd a phobl agored i niwed, mae eraill wedi cael eu gorfodi i aeafgysgu.

Mae economegwyr yn canolbwyntio ar y dirwasgiad anochel arall sydd ar ddod ac rydym yn wynebu rhethreg neo-ryddfrydol gynyddol sy’n cefnogi busnesau mawr fel achubwyr sy’n barod i gynnig atebion i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n dadlau y gellir ac y dylid herio’r sgwrs hon drwy feithrin cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Gyda’r gefnogaeth gywir, gallai’r ‘amharwyr cymdeithasol da’ hyn gynnig ffordd well o gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ar ôl COVID-19.

Mae’r optimistiaeth hon yn seiliedig ar allu’r sector i ddefnyddio’r argyfwng COVID-19 i ailddychmygu ei wendidau a’u hail-greu fel cryfderau a chyfleoedd. I gefnogi hyn, hoffwn gyflwyno dwy enghraifft thematig o sut y gallai hyn ymddangos yn ymarferol. 

  1. Gofalu amdanom a’n haddysgu

Er bod cewri technoleg Silicon Valley yn hyrwyddo system addysg ar-lein iwtopaidd newydd, gall cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, er gwaethaf ein hamheuaeth o ran eu gallu a’u capasiti proffesiynol, gynnig dewis arall sy’n seiliedig ar le. Gall gerddi, canolfannau a mannau cymdeithasol cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol ddarparu gofodau newydd (sy’n ddiogel o ran COVID-19) ar gyfer profiadau addysgol yn yr awyr agored a dan do. Mae’r cyfleusterau hyn a’u staff, os buddsoddir ynddynt ac os cânt y cyfle, mewn sefyllfa unigryw i gynnig lleoedd a gofodau i ysgolion lle gall disgyblion gael eu hailgyflwyno i’w cymuned a phrofi addysg sy’n gynhwysol yn gymdeithasol.

Wrth i gartrefi gofal ddod allan o’r argyfwng COVID-19, mae llawer o’r cartrefi sydd o dan berchnogaeth breifat yn sôn am am bryderon ynghylch costau gweithredu cynyddol ac anallu i’w gwneud nhw’n broffidiol. O ganlyniad, gallai dau senario posibl godi. Yn gyntaf, caiff rhai cartrefi eu gorfodi i gau, tra bydd eraill yn cael eu hymgorffori mewn busnesau mawr er-elw. Gyda llawer o gartrefi gofal yn gweithredu fel mentrau cymdeithasol, mae glasbrint ar gael eisoes i’w rannu a model menter sy’n rhoi gofal preswylwyr (nid elw) wrth wraidd ei weithrediad. Felly, gallai gofal cymunedol ddod yn dirwedd ffrwythlon i gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol ffynnu a gwneud cyfraniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni gadw mewn cof bod cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar gyllid digonol i gychwyn busnes yn amp a bod angen ymddiried ynddynt i redeg gweithrediadau mor gymhleth. 

  1. Cymryd camau gyda Make me Younger

Mae’r cysylltiadau cryf sydd gan gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol â’u rhanddeiliaid a’u buddiolwyr cymdogaeth yn ffynhonnell cryn ddathlu’n aml. Er enghraifft, mae 63% o fentrau cymdeithasol y DU yn defnyddio 100% o staff a gyflogir yn lleol. Mae nifer sylweddol yn gweithredu ar lefel cymdogaeth (28%), ac mae hynny mewn ardaloedd sy’n dioddef amddifadedd cymdeithasol gan amlaf. Felly, awgrymir y dylai cyfalaf cymdeithasol wneud cyfraniad allweddol o ran galluogi eu swyddogaethau, datblygu eu cysylltiadau â chleientiaid a cyfreithloni eu hendid. Fodd bynnag, bu amheuaeth ynghylch gorddibyniaeth mentrau cymdeithasol ar gyfalaf cymdeithasol. Er enghraifft, dadleuir bod rhwydweithiau a chymdeithasau Mentrau Cymdeithasol yn gyfyngedig o ran maint fel arfer ac y gallant fod yn seiliedig ar werthoedd niferus, gyda gweithlu gormodol sy’n heneiddio a diffyg amrywiaeth. Mae’n bosibl bod y materion hyn yn cyfyngu ar allu cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol i arloesi a gweithredu. Fodd bynnag, wrth i ni ddod allan o COVID-19, dywedir wrthym mai cenhedlaeth iau’r DU fydd yn cael ei tharo galetaf o ran cyflogaeth a chyfleoedd. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod hefyd eu bod yn fwyfwy ‘effro’ i gyfiawnder cymdeithasol, ecolegol ac economaidd. Felly, efallai y byddwn yn gweld cronfa o bobl ifanc sy’n chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’u deffroad newydd o ran ymwybyddiaeth gymdeithasol. Felly, gallai cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol gynyddu eu gallu a’u cyfraniadau drwy gyflwyno gwaed ieuengach a mwy o amrywiaeth ymhlith eu gwirfoddolwyr, aelodau’r bwrdd, cleientiaid a defnyddwyr.

I grynhoi, gall y cyfnod ar ôl COVID-19 fod yn gyfnod lle bydd cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn blodeuo ac yn dwyn ffrwyth i Gymru gyfan. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, bydd angen eu meithrin yn ofalus i gyrraedd eu llawn botensial.

Cyhoeddir y blog hwn fel rhan o gyfres ar gyfer Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 2020. Gadewch i ni ailadeiladu’n well gyda’n gilydd. #KeepCooperating

Dr Anthony Samuel Cardiff University Business School

“Efallai y byddwn yn gweld cronfa o bobl ifanc sy’n chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’u deffroad newydd o ran ymwybyddiaeth gymdeithasol.”

Rhag ofn i chi eu methu…

Darllenwch fwy o'n blogiau #KeepCooperating ar gyfer Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 2020