Maniffesto ar gyfer y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru
Drwy gydol y pandemig, helpodd mentrau cymdeithasol ledled Cymru i gadw pobl mewn gwaith a darparu cymorth cymunedol hollbsig a gwasanaethau hanfodol. Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol o'r farn y gall mentrau cymdeithasol bellach chwarae rhan allweddol wrth helpu i ailadeiladu economi decach, fwy cynhwysol a chynaliadwy wrth i ni adfer ac ailadeiladu.
Gweler y dudalen hon yn: English
Mae mentrau cymdeithasol mewn sefyllfa unigryw i wneud hynny fel sefydliadau sy’n gweithredu ar egwyddorion y llinell Waelod Driphlyg: pobl, planed, elw. Mae hyn yn sicrhau bod eu diben cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd bob amser wrth wraidd yr hyn a wneir ganddynt.
Er mwyn helpu’r sector i wireddu’r potensial hwn ac i ailadeiladu economi decach, mwy cynhwysol a chynaliadwy, credwn y dylai Llywodraeth nesaf Cymru:
- ehangu a chryfhau’r cymorth busnes arbenigol sydd wedi’i deilwra i anghenion mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol.
- parhau i dyfu ffrydiau ariannu penodol i gefnogi’r sector mentrau cymdeithasol wrth iddo adfer ac ailadeiladu yn sgîl y pandemig.
- sefydlu polisïau ac arferion caffael a chomisiynu cyhoeddus sy’n ymgorffori gwerth cymdeithasol ac yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.
- blaenoriaethu a defnyddio datrysiadau mentrau cymdeithasol ar draws pob maes o bortffolios y Llywodraeth a Gweinidogion.
- parhau i flaenoriaethu’r Argyfwng Hinsawdd ac adferiad ‘Gwyrdd’ ac ymgorffori egwyddorion economi ddi-garbon a chylchol.
- datblygu a gweithredu polisïau sy’n cefnogi cynwysoldeb ac amrywiaeth a Gwaith Teg o fewn economi Cymru; gan harneisio arbenigedd mentrau cymdeithasol i wneud hynny.
- lansio menter uwchsgilio a buddsoddi i feithrin sgiliau a seilwaith digidol yn y trydydd sector (gan gynnwys ar gyfer mentrau cymdeithasol).
- creu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid cymdeithasol cyfrifol drwy ymgorffori menter gymdeithasol ac economeg llesiant mewn cwricwlwm astudiaethau economaidd/busnes ym mhrifysgolion, colegau ac ysgolion Cymru.
Gallwch darllen ein maniffesto llawn yma.
Cymryd rhan:
Cefnogwch ein hymgyrch a helpwch sicrhau bod y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arno i fod wrth wraidd Cymru decach, mwy cynaliadwy a mwy ffyniannus.
Ydych chi’n fenter gymdeithasol yng Nghymru?
- Defnyddiwch ein Llythyr Templed Testun at ymgeiswyr, adrodd eich hanes a rhannu maniffesto’r sector
- Rhannu graffeg ein cyfryngau cymdeithasol a thagio eich ymgeiswyr lleol