Economi sylfaenol | Gofal cymdeithasol | Menter gymdeithasol | Policy

All dulliau newydd o gaffael helpu i greu’r economi sylfaenol yng Nghymru?

Gallai caffael lleol greu cadwyni cyflenwi lleol cryfach a chreu cyfoeth yng nghymunedau’r wlad. Yn ddiweddar, bu Pwyllgor y Cynulliad yn trafod sut i wella hyn yng Nghymru. Rydym wedi crynhoi rhai o brif gasgliadau’r Pwyllgor. Cofiwch rannu’ch barn chi am ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor er mwyn ein helpu i lywio ein safbwyntiau polisi ar gaffael yn y dyfodol.

By Ceri-Anne Fidler Jones · February 24, 2020

See this page in: English

Yn ddiweddar, bu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynghori ar gaffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol. Gofynnodd y Pwyllgor am farn ar gyfran y contractau cyhoeddus yng Nghymru sy’n mynd i gyflenwyr o Gymru ac i ba raddau y gallai cynyddu caffael lleol gan y sector cyhoeddus greu cadwyni cyflenwi lleol cryfach a chreu cyfoeth mewn cymunedau o Fôn i Fynwy. Cyflwynwyd cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried ar faterion caffael lleol. Rydym wedi crynhoi rhai o’r prif bwyntiau isod. Cysylltwch â ni i ddweud eich dweud am ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor, er mwyn ein helpu i lywio ein safbwyntiau polisi ar faterion caffael yn y dyfodol. Byddwn yn postio diweddariadau pellach ar y blog hwn ar ôl i Lywodraeth Cymru ymateb i’r argymhellion hyn.

Fe wnaeth Canolfan Cydweithredol Cymru ymateb i’r ymgynghoriad ar y cyd â sefydliadau cymorth mentrau cymdeithasol eraill fel Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo, DTA Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a WCVA.  Darllenwch ein hymateb ar y cyd yma.

 

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth fwriad Llywodraeth Cymru i greu cyfoeth yn ein cymunedau trwy annog caffael lleol. Mae’n gobeithio mynd ymhellach na model Preston wrth gynyddu swm y gwariant gwirioneddol leol.

Mae’n anodd diffinio ‘caffael lleol’ a mesur effeithiau a ‘rhyddhau’ cyfoeth o economïau lleol.  Bu ymchwiliad y Pwyllgor yn archwilio’r amheuon ynghylch sut mae mesur a monitro’r gwariant cynyddol mewn ‘caffael lleol’. Roedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro ymhellach ei bwriad i ddiffinio caffael lleol, a beth sy’n gyfystyr â llwyddiant.

Bu’r Pwyllgor yn trin a thrafod sut i annog busnesau bach i dendro am gontractau sector cyhoeddus a chydweithio i greu cynigion cydweithredol. Roedd hyn yn cynnwys torri contractau yn ddarnau llai a gweithgaredd cyn-ymgysylltu. Roedd y dystiolaeth yn dangos bod angen i fusnesau bach dderbyn cymorth busnes gyda’r broses hon hefyd. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar sut mae gweithgareddau cymorth a mentora busnesau yn gysylltiedig â’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer caffael y sector cyhoeddus. Dylai ganolbwyntio ar helpu cyrff caffael y sector cyhoeddus i adeiladu a chryfhau eu gweithgaredd cyn-ymgysylltu, a’u gwybodaeth am gyflenwyr lleol a’u perthynas  â nhw.

Roedd y Pwyllgor yn credu bod statws caffael yn hollbwysig. Gwelwyd mai rhan o lwyddiant Model Preston oedd ymrwymiad sefydliadau angor i lofnodi Datganiad o Fwriad a phwysleisio caffael fel sbardun ar gyfer twf economaidd lleol. Dywedodd hefyd fod angen monitro law yn llaw â chyflwyno gwerth cymdeithasol i’r broses ymgeisio, i weld a yw’n cyflawni canlyniadau sy’n creu gwerth cymdeithasol. Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro sut bydd yn hyrwyddo statws caffael fel ysgogydd gwerth cymdeithasol trwy ei waith gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Cynllun Sgiliau a Gallu. Mae hyn yn cynnwys cais am wybodaeth fwy eglur ynghylch a fyddai’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cytuno ar egwyddorion a meini prawf gwerth cymdeithasol cyffredin neu ‘ddatganiad o fwriad’ i’w fabwysiadu gan sefydliadau angori lleol, fel sy’n digwydd yn Preston.

Byddem yn croesawu mwy o bwyslais ar werth cymdeithasol ym maes caffael. Yn ein barn ni, dylai Llywodraeth Cymru ystyried isafswm gwerth cymdeithasol o 20% mewn contractau sector cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i sicrhau’r gwerth mwyaf am arian ar gyfer contractau cyhoeddus trwy newid blaenoriaethau ac arwain pawb i gofleidio gwerth cymdeithasol. Trwy gynnwys a gwerthuso gwerth cymdeithasol, bydd cyrff cyhoeddus yn gallu dewis cyflenwr fel rhan o broses dendro sydd nid yn unig yn darparu’r gwasanaeth mwyaf manteisiol yn economaidd, ond sy’n sicrhau buddion ehangach i’r gymuned leol hefyd. Ydych chi’n meddwl y byddai hyn o fudd i fusnesau cymdeithasol ein gwlad? Rhannwch eich barn gyda ni, a sut rydych chi’n meddwl y gallai caffael fod yn fwy hygyrch i fusnesau cymdeithasol Cymru.