Y wasg a barn
Ni yw llais economi gymdeithasol Cymru. Rydym yn hyrwyddo atebion cynhwysol a chydweithredol. Rydym yn brolio am eich llwyddiant. Mae ein darnau blogiau a barn yn cynnwys lleisiau arbenigol o bob rhan o'r sector, tra bod ein tudalennau newyddion yn rhoi gwybod i chi ein gwaith a chynnydd entrepreneuriaeth gydweithredol a chymdeithasol yng Nghymru.
Gweler y dudalen hon yn: English
Hidlo gan...
-
Helpu Comisiynwyr a Chaffaelwyr Gofal i Hyrwyddo Modelau Gwerth Cymdeithasol
Mae’r adroddiad hwn, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a Chartrefi Cymru, yn cynnig canllawiau ac argymhellion newydd i gomisiynwyr gofal cymdeithasol sy’n archwilio sut gallant weithio gyda sefydliadau gwerth cymdeithasol.
Darllen mwy
-
Hysbysiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru: Cartrefi gofal yn elwa o gyflwyno dyfeisiau digidol
Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn elwa wrth i ddyfeisiau digidol gael eu danfon iddynt trwy gynllun gan Lywodraeth Cymru i helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ac i gynorthwyo ag ymgyngoriadau meddygol trwy gyfrwng fideo.
Darllen mwy
-
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn arwain prosiect newydd sy’n galluogi gofalwyr i reoli’r broses o wella eu llesiant eu hunain a llesiant y bobl hynny y maent yn gofalu amdanynt drwy gydweithio
Mae ‘Connecting Carers’, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i bartneriaid trydydd sector, yn gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant er mwyn defnyddio technoleg i gysylltu gofalwyr a'u hannog i gydweithio a darparu cymorth i'w gilydd.
Darllen mwy
-
Sylfeini a chysylltiadau yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae Ebony Redhead o Fusnes Cymdeithasol Cymru yn rhannu effaith mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol ar ei bywyd yn ystod y cyfnod cloi yng ngogledd Cymru.
Darllen mwy
-
Achub ac ailosod economi’r DU ar ôl COVID-19 drwy gyfnewid dyledion ag ecwiti
Mae Dr Jonathan Preminger o Ysgol Busnes Caerdydd a Dr Guy Major o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn mynd i’r afael â phroblem cyllid ariannu benthyciadau a dyledion a fydd yn wynebu sefydliadau pan fydd y DU yn dod allan o bandemig COVID-19.
Darllen mwy
-
Cyfweliad Fideo: Rhys Gwilym from Menter Môn
Yr wythnos hon gwnaethom gyfweld â Rhys Gwilym o'r fenter gymdeithasol @MenterMon i ddysgu am fenter arbennig sydd wedi helpu i ddarparu miloedd o fisyrnau cyfarpar diogelu personol i wardiau ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr allweddol yng Ngwynedd ac Ynys Môn #NewyddionDaCymru
Darllen mwy
-
Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, yn amlinellu sut addasodd y sefydliad i gyngor i weithio gartref.
Pan fyddwch chi’n llunio cynllun parhad busnes, y gobaith yw na fydd ei angen arnoch fyth.
Darllen mwy
-
Amser ailddyfeisio
Mae Scott Tandy, Swyddog Adfywio Cymunedol yng Nghymdeithas Tai Newydd, yn esbonio pam y mae cymdeithasau tai bellach yn eu hailddyfeisio eu hunain yn ddigidol.
Darllen mwy
-
Cwmni GoodWash yn dangos ei wir natur trwy gefnogi’r GIG
Mae cwmni GoodWash wedi bod yn cefnogi’r GIG a chymunedau lleol trwy eu rhoddion eu hunain yn ogystal â lansio menter o’r enw ‘Bar Diolch’ i weithwyr allweddol leol.
Darllen mwy
-
Llwyddiant lobïo dros gydweithfeydd tai yng nghyllideb 2020
Mae Cyllideb 2020 yn cynnwys cyhoeddiad calonogol iawn i gwmnïau cydweithredol tai rhent preifat. Ni fydd angen iddynt dalu trethi cosbol mwyach, gyda'r nod o atal yr arfer anonest a elwir yn 'amlennu eiddo'. Gan James Wright, Co-operative UK
Darllen mwy
-
All dulliau newydd o gaffael helpu i greu’r economi sylfaenol yng Nghymru?
Gallai caffael lleol greu cadwyni cyflenwi lleol cryfach a chreu cyfoeth yng nghymunedau’r wlad. Yn ddiweddar, bu Pwyllgor y Cynulliad yn trafod sut i wella hyn yng Nghymru. Rydym wedi crynhoi rhai o brif gasgliadau’r Pwyllgor. Cofiwch rannu’ch barn chi am ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor er mwyn ein helpu i lywio ein safbwyntiau polisi ar gaffael yn y dyfodol.
Darllen mwy
-
Lansio podlediad i dynnu sylw at ddulliau amgen o ddarparu gofal cymdeithasol
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi lansio cyfres newydd o bodlediadau a fydd yn annog comisiynwyr gofal i feddwl am ffyrdd o ddarparu gwasanaethau gofal sy’n hyrwyddo llesiant dinasyddion a chymunedau.
Darllen mwy