Blog | Cydweithredol | Policy

Sut y Gall Pleidiau Gwleidyddol roi Gwerthoedd Cydweithredol wrth Galon eu Maniffestos 2021?

Mae Dan Roberts, Swyddog Polisi ac Ymchwil yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, yn amlinellu blaenoriaethau’r Ganolfan cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Maent yn ymdrin ag ystod eang o feysydd, gan adlewyrchu amrywiaeth gwaith y Ganolfan.

By Dan Roberts · October 26, 2020

See this page in: English

Mae’r Llywodraeth Cymru nesaf yn wynebu un o’r cyfnodau mwyaf heriol ers dechrau datganoli. Yn ogystal â’r pryderon iechyd cyhoeddus uniongyrchol a ddaw yn sgil Covid-19, mae’r cynnwrf wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol presennol. Mae angen rhoi adferiad o’r pandemig, yr argyfwng hinsawdd parhaus a’r lefelau annerbyniol o dlodi yng Nghymru wrth wraidd agenda nesaf ein Llywodraeth.

Mae gwaith Canolfan Gydweithredol Cymru yn eang, ac o ganlyniad mae gennym brofiad a mewnwelediad ar draws gwahanol feysydd polisi. Mae gennym brofiad sylweddol o gefnogi mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol ledled Cymru, yn enwedig mewn meysydd sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau. Rydym yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach ac i hyrwyddo cynhwysiant digidol. O ganlyniad, mae ein cynigion yn canolbwyntio ar greu economi llesiant a photensial technoleg ddigidol i ‘adeiladu’n ôl yn well.’

Mae’r mudiad byd-eang i symud polisi datblygu economaidd tuag at les a chynaliadwyedd yn tyfu. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gofyn i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ymrwymo i’r 7 cynnig polisi hyn sy’n gamau ymarferol tuag at economi llesiant:

Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol yn gwneud cyfraniad enfawr i gymunedau ledled y wlad yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Maen nhw angen cefnogaeth arbenigol barhaus er mwyn chwarae rôl fwy fyth yn dilyn yr argyfwng presennol. Fel pob sector o’r economi, mae mentrau cymdeithasol wedi cael eu taro’n galed gan Covid-19, ond mae llawer wedi camu i fyny i wasanaethu eu cymunedau pan oedd eu hangen arnynt fwyaf. Ni fu sicrhau ein bod yn adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymdeithasol Cymru gyda gwasanaeth cymorth busnes arbenigol, sy’n barod ar gyfer yr heriau y bydd mentrau cymdeithasol yn eu hwynebu, erioed mor bwysig.

Mae cryn dystiolaeth o fanteision ffocws ar yr Economi Sylfaenol a datblygu cyfoeth cymunedol.  Mae gan ddulliau tebyg y potensial i weddnewydd lleoedd ac economïau ledled Cymru.   Rydym yn argymell y dylid sefydlu tasglu newydd i dyfu economïau lleol, adeiladu cadwyni cyflenwi lleol a rhoi rheolaeth a manteision yn nwylo pobl leol, er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion hyn wedi’u hymgorffori ledled y Llywodraeth.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cefnogi galwadau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio tai cymdeithasol yng Nghymru. Gallai rhaglen debyg gael effaith sylweddol ar leihau allyriadau carbon a biliau ynni. Yn ogystal, gallai’r buddsoddiad roi hwb sylweddol i economïau lleol pe byddai’n cael ei gyflwyno’n effeithiol. Er mwyn cyflawni’r hwb economaidd hwn, rydym yn gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru roi targed uchelgeisiol i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol wario canran benodol o’r buddsoddiad â busnesau lleol a mentrau cymdeithasol.

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru roi mwy o fusnesau Cymru yn nwylo’r gweithwyr. Un o’r rhwystrau mwyaf rhag tyfu’r sector dan berchnogaeth gweithwyr yng Nghymru yw’r diffyg ymwybyddiaeth a’r diwylliant ehangach sy’n bodoli yn y wlad.  Felly, dylai Llywodraeth Cymru sefydlu grŵp arweinyddiaeth sy’n ceisio mynd i’r afael â hyn.  Yn ogystal, dylai Banc Datblygu Cymru sefydlu cronfa arbenigol i helpu gweithwyr i brynu ecwiti yn eu busnes, fel yr awgrymwyd gan y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr.

Wrth i ni ymdrechu i adeiladu economi newydd yng Nghymru sy’n rhoi llesiant wrth wraidd ei pholisïau, rydym yn galw am i fodelau menter gymdeithasol a chwmnïau cydweithredol gael eu cynnwys yn yr addysg entrepreneuriaeth y mae myfyrwyr yn ei chael mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru. Mae arfer da i adeiladu arno a’i ddyblygu ledled Cymru, gan gynnwys ‘Hackathon’ Wrecsam a gwaith yr Academi Menter Gymdeithasol â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd .  Mae’n hanfodol ein bod yn hyfforddi cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid sy’n barod i gyflwyno syniadau busnes sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn ecogyfeillgar.

Yn hanesyddol, darparwyd gwasanaethau meddyg teulu gan feddygon teulu unigol, sy’n rhedeg busnesau unig fasnachwr sydd â chontract â byrddau iechyd lleol. Wrth i feddygon teulu ymddeol, mae prinder meddygon teulu newydd sy’n fodlon prynu’r busnesau hyn a dwyn yr atebolrwydd o redeg y gwasanaeth fel busnes unig fasnachwr. Un ateb i’r broblem hon fyddai sefydlu cwmnïau iechyd cymunedol cydweithredol newydd ledled Cymru, sy’n darparu ystod o wasanaethau iechyd a lles. Gallai aelodaeth y cwmnïau iechyd cymunedol cydweithredol hyn ddeillio o’r gymuned leol a chynnwys cleifion, meddygon a gweithwyr eraill, cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd.

Gall cynlluniau tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned fodloni anghenion tai lleol mewn ffyrdd dychmygus ac arloesol.  Yn aml, mae tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned i’w gweld lle na fyddai ffurfiau traddodiadol o dai yn cael cefnogaeth leol ac maent yn gwneud cyfraniad cynyddol bwysig i’r cyflenwad tai newydd. Mae buddion tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned i breswylwyr yn sylweddol, gan gynnwys gwella sgiliau a hyder a mwy o ymdeimlad o gymuned.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn ychwanegu ei llais at y galwadau cynyddol i ymgorffori Cynulliadau Dinasyddion yn y broses wleidyddol yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwn, Credwn yn gryf nad yw potensial democratiaeth ddigidol wedi’i wireddu’n llawn yng Nghymru hyd yn hyn, ac y dylid ei gynnwys yn y sgwrs ynghylch pwysigrwydd Cynulliadau Dinasyddion. Gall platfformau digidol sicrhau democratiaeth mewn trafodaethau a rhoi llwyfan ychwanegol i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y broses wleidyddol ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r chwyldro digidol, dylai Llywodraeth nesaf Cymru roi blaenoriaeth i fynd i’r afael ag allgáu digidol a thlodi data yng Nghymru.
Bydd dod ag allgáu digidol i ben yn mynnu rhaglen gynhwysfawr ac integredig o waith i fynd i’r afael â materion fel cymhelliant, cost, sgiliau a chysylltedd. Mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol wedi gweddnewid bywydau pobl yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Er y gall hyn arwain at newid cadarnhaol, mae ganddo’r potensial i waethygu anghydraddoldebau presennol hefyd, fel sydd wedi digwydd yn ystod argyfwng Covid-19. O ganlyniad, ni fu’n bwysicach erioed i gyrraedd y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Rydym yn galw am raglen i hybu gwasanaethau digidol yn y trydydd sector, i weithio ochr yn ochr efo’r Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol newydd. Mae llawer o elusennau a sefydliadau’r trydydd sector yn darparu gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol hanfodol. Mae angen i ni sicrhau y gall y sefydliadau hyn fanteisio ar dechnoleg ddigidol hefyd i wella’r gwasanaethau maent yn eu darparu a dod yn fwy effeithlon.  Yn benodol, rydym yn galw am sicrhau bod hyfforddiant arweinyddiaeth penodol ar gael i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio yn y trydydd sector yn gallu ennill sgiliau digidol gwerthfawr.

Mae amrywiaeth yr argymhellion polisi pwysig hyn yn adlewyrchu’r gwaith a wnawn yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru a’r effaith bosibl y gall menter gymdeithasol a gwerthoedd cydweithredol ei chael. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn mynd i fwy o fanylion am bob un o’r argymhellion polisi hyn. Os oes gennych unrhyw fewnwelediadau pellach yr hoffech eu rhannu ar y pynciau hyn, cysylltwch â’n Swyddog Polisi ac Ymchwil, Daniel Roberts, trwy e-bost yn dan.roberts@wales.coop.

Dan Roberts, Swyddog Polisi ac Ymchwil

dan.roberts@wales.coop