Blog | cydweithredol | tai

Tai Cydweithredol yng Nghymru – y stori hyd yma

Dros y misoedd nesaf byddwn yn amlygu'r gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru o ran tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned. Trwy gyfres o flogiau, trydariadau a fideos, byddwn yn proffilio'r 'stori hyd yma' o ran tai cydweithredol yng Nghymru, a'r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.

By Mark Smith · March 1, 2019

See this page in: English

Rydym yn dechrau gyda Casey Edwards, Swyddog Prosiect Tai Cydweithredol, sy’n mynd â ni ar daith sydd, yn llythrennol, wedi newid y dirwedd mewn nifer o gymunedau yng Nghymru…

Sut y dechreuodd tai cydweithredol yng Nghymru, a beth oedd yr ymateb cychwynnol i’r cysyniad?

Yn 2012, cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar y pryd, ei fod am weld tai yn cael eu hadeiladu yng Nghymru gan ddefnyddio fframwaith cydweithredol. O hynny, deilliodd Prosiect Tai Cydweithredol Cymru, wedi’i reoli gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad y Nationwide. Dros y 6 blynedd diwethaf, mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi helpu sefydliadau a chymunedau yng Nghymru i ddatblygu 137 o dai a chymunedau cydweithredol.

Beth oedd yr arwyddion cynnar y byddai tai cydweithredol yn gweithio yng Nghymru?

Yn 2013, comisiynodd Canolfan Cydweithredol Cymru ymchwil i’r galw posibl am dai cydweithredol, wedi’i chyflawni gan y Cydffederasiwn Tai Cydweithredol a Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Ymgymerwyd ag ymchwil mewn tair ardal – Caerdydd, Caerfyrddin a Chasnewydd – gan mai’r cynlluniau tai cydweithredol yn yr ardaloedd hynny, wedi’u cefnogi gan y Ganolfan, oedd y mwyaf datblygedig. Cynhaliwyd arolygon, cyfweliadau a gweithdai gyda’r cyhoedd a gweithwyr o’r asiantaethau allweddol sy’n cefnogi’r datblygiadau. Cafwyd ymateb cadarnhaol dros ben o blaid datblygu mwy o dai cydweithredol, a hynny oherwydd y ffocws ar gymuned, ymreolaeth a fforddiadwyedd. Cydnabuwyd hefyd y gall tai cydweithredol roi mwy o sicrwydd, darparu gwell cyfleusterau cymunol, a’u bod yn aml yn dangos mwy o barch at yr amgylchedd.

Beth yw prif lwyddiannau Prosiect Tai Cydweithredol Cymru hyd yma?

Rydym wedi:

  • Helpu i ddatblygu 137 o dai cydweithredol mewn 6 ardal awdurdod lleol wahanol (mae 2 gynllun a gefnogwyd wedi ennill gwobrau)
  • Cefnogi cynlluniau dan arweiniad y gymuned a chynlluniau cydweithredol a oedd eisoes yn bodoli ledled y wlad
  • Uwchsgilio mwy na 250 o bobl mewn perthynas â rhedeg menter tai cydweithredol lwyddiannus
  • Nodi hyrwyddwyr tai cydweithredol/tai dan arweiniad y gymuned ledled y sector tai
  • Datblygu pecyn cymorth ar-lein

Helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau ac adnoddau i dyfu a chefnogi’r galw am dai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned.

Beth y gallwn ei ddysgu o’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud o ran tai cydweithredol yng Nghymru?

Gall tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned fod ar gyfer pawb, ond nid yw pawb yn ymwybodol o’r posibiliadau, y potensial a’r opsiynau. Fel arfer, bydd gan bobl 3 opsiwn wrth iddynt ystyried tai – prynu, rhentu’n breifat, neu rentu gyda landlord cymdeithasol/awdurdod lleol – ond i lawer, yn anffodus, nid oes yna ddewis. Gall y syniad o ddatblygu eich cartref/cymuned eich hun gyda grŵp o bobl sydd â meddylfryd tebyg i chi deimlo fel breuddwyd bell i lawer, ond mae’n bosibl gwneud hynny!

"Mae tai dan arweiniad y gymuned yn ymwneud â rhoi grym i bobl gael llais a rheolaeth dros ddatrys problemau tai lleol"

Casey Edwards, Swyddog Prosiect Tai Cydweithredol

Rydym yn clywed ‘nawr am dai dan arweiniad y gymuned. Sut y mae hynny’n wahanol i dai cydweithredol?

Mae cynllun tai dan arweiniad y gymuned yn ddigon hawdd ei ddeall – y gymuned sy’n arwain y gwaith o ddatblygu tai a chymunedau. Mae tai dan arweiniad y gymuned yn ymwneud â grymuso pobl i gael llais a rheolaeth dros ddatrys problemau tai lleol. Gall gynnwys adeiladu cartrefi newydd, ailddefnyddio cartrefi gwag, a rheoli cartrefi sy’n bodoli eisoes, gan gwmpasu pob deiliadaeth. Y peth braf am dai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yw eu bod yn cynnig ffordd leol iawn i gymunedau, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac awdurdodau lleol ddatblygu datrysiadau pwrpasol sy’n bodloni eu hanghenion; gan greu cymunedau fforddiadwy, cydlynol a chryf. Mae pob cynllun yn wahanol, ac mae yna sawl model gwahanol ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned, sy’n cynnwys mentrau tai cydweithredol, ymddiriedolaethau tir cymunedol, sefydliadau rheoli tenantiaid, tai ar y cyd a chynlluniau hunanadeiladu.

Er bod pob model yn datblygu’n wahanol, mae ganddynt i gyd nodweddion cyffredin, gan gynnwys:

  • Mae’n rhaid i’r gymuned fod yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau
  • Mae’r gymuned yn ymgymryd â rôl ffurfiol o ran perchen ar y cartrefi, eu stiwardio a’u rheoli
  • Mae’r cynllun tai o fudd i’r gymuned leol/grŵp diffiniedig

Beth ydych yn gobeithio ei weld yn digwydd nesaf o ran tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru?

Rwyf am weld tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned fel opsiwn i’r mwyafrif nid y lleiafrif (wedi’i ddweud yn fy llais gwleidydd gorau). Yn draddodiadol, yng Nghymru, rydym wedi bod yn genedl o berchnogion tai, ond erbyn hyn nid yw mwyafrif y boblogaeth yn ddigon ffodus i allu fforddio hyn, yn enwedig ni o’r ‘genhedlaeth rhentu’. Ond, gan fod cymaint o straen ar y sector cymdeithasol a rhentu preifat, teimlaf ei fod yn gyfle perffaith ‘nawr i archwilio dulliau gwahanol, gan gynnwys y modelau tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned. Gall modelau o’r fath ategu ffyrdd mwy traddodiadol o adeiladu tai, ond maent yn rhoi mwy o bwyslais ar rymuso pobl i ddatblygu cymunedau a chartrefi sy’n bodloni eu hanghenion. Ni ellir datrys y problemau tai yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru, a’r Deyrnas Unedig, dros nos, ond trwy ddatblygu tai sy’n wirioneddol fforddiadwy a dymunol ar gyfer pobl mewn angen, mae’n ddechrau tuag at adeiladu cymunedau cryfach a mwy cydlynol.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Tai Cydweithredol Cymru, cysylltwch â

co-op.housing@wales.coop