Cymunedau’n Creu Cartrefi
Mae ein prosiect Cymunedau'n Creu Cartrefi yn cynnig cymorth a chyngor i sefydliadau newydd a’r rhai sy’n bodoli’n barod sy’n bwriadu datblygu cynlluniau tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.
Gweler y dudalen hon yn: English
Dechreuwch eich siwrnai tai dan arweiniad y gymuned heddiw a lawrlwythwch ein Pecyn Croeso.
Pwrpas tai cydweithredol dan arweiniad y gymuned yw dod â phobl ynghyd i benderfynu pa fath o gartrefi a chymunedau eu bod am fyw ynddynt. Gall pobl sy’n rhannu gweledigaeth ddod ynghyd a chodi llais dylanwadol. Maent yn chwarae rôl hanfodol ar y cyd â chynghorau, datblygwyr a buddsoddwyr mewn creu cartrefi fforddiadwy sy’n diwallu anghenion cymunedol lleol.
Daw tai cydweithredol dan arweiniad y gymuned mewn bob lliw a llun. Grwpiau bach o ffrinidau’n prynu tŷ i’w rannu, lesddeiliaid yn sefydlu pwyllgor rheoli tenantiaid, aelodau o gymuned yn prynu tir lleol er mwyn datblygu tai newydd arno, a phobl sydd am ddatblygu tai cynaliadwy – mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau.
Mae gan bobl fwy o reolaeth dros ble meant yn byw, a gallant gydweithio ag eraill er mwyn cyflawni nod a rennir rhyngddynt. Cymunedau sy’n creu cartrefi.
Cysylltwch â’n tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi am gymorth.
Ariennir y prosiect Cymunedau’n Creu Cartrefi gan The Nationwide Foundation a Llywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Bydd elfen cyfnod cynnar y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru.
Mae RSAW wedi llofnodi Siarter Gwneud Lle Cymru sy’n amlinellu chwe egwyddor creu lleoedd sy’n cwmpasu’r ystod o ystyriaethau sy’n cyfrannu at sefydlu a chynnal lleoedd da.