Blog

Gwerthoedd cydweithredol a Chryfder y Gymuned Drwy’r Pandemig

Jocelle Lovell, ein Rheolwr Rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, sy’n rhannu sut mae cymunedau wedi dod at ei gilydd ers y pandemig byd-eang a sut gallwn ddefnyddio gwerthoedd cydweithredol mewn byd ôl-Covid.

By Rhodri McDonagh · 3 Medi 2020

Gweler y dudalen hon yn: English

Yn ôl yn 2013 dechreuais weithio i Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Pam? Am fy mod i’n credu mewn gwerthoedd cydweithredol ac y gallwn ni gyda’n gilydd greu Cymru well, decach sy’n fwy cydweithredol. Roeddwn i am weithio gyda phobl â’r un weledigaeth â mi a oedd yn benderfynol o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru. Dydyn ni ddim yn dweud wrth bobl beth i’w wneud. Rydyn ni’n gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud ac yna’n hwyluso, galluogi a grymuso’r unigolion a chymunedau trwy Fentrau Cymdeithasol, perchnogaeth gweithwyr, creu Tai dan Arweiniad y Gymuned, neu Gynhwysiant Digidol ac Ariannol.

Rwy’n meddwl y gall pawb ddweud bod 2020 wedi bod yn flwyddyn ryfedd ar y naw ac anodd dros ben. Mae rhywun yn dwyn i gof flynyddoedd eraill pan gafwyd argyfyngau, fel ffliw’r adar ac Ebola, a’r ofn a ddaeth yn eu sgil i ddechrau, ac eto fe wnaethon nhw basio rywsut heb droi’r bandemig byd-eang. Felly, yn ôl ym mis Rhagfyr pan ddechreuodd y newyddion dreiddio trwodd am argyfyngau Covid-19 yn Tsieina, roeddwn i’n meddwl mai’r un fyddai’r stori. Anghywir!

A ninnau’n byw mewn gwlad sy’n cael ei llywodraethu’n ddemocrataidd, lle mae gan bawb ei lais a’r hawl i symud o gwmpas, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n profi cyfyngiadau symud yn y DU. Yn ystod y mis cyntaf gwyliais gyhoeddiadau’r llywodraeth a’r straeon newyddion bob diwrnod, gan gael fy nychryn yn aml gan hyd a lled y pandemig, y cyfrif marwolaethau a oedd yn codi, y llawdriniaethau a’r triniaethau oedd yn cael eu canslo ar gyfer cleifion sâl a chleifion a oedd yn marw, y penderfyniadau a’r dewisiadau a oedd yn gorfod cael eu gwneud yn ein hysbytai, a gan ein diffyg rhyddid i fynd allan os nad oedd hynny’n gwbl angenrheidiol. Trist iawn hefyd oedd gweld y lluniau o bobl yn prynu mewn panig ac yn hel celc o nwyddau, gan adael y silffoedd yn wag mewn siopau ac archfarchnadoedd. Doedd dim rhybuddion y byddai prinder bwyd o gwbl ac eto roedd pobl yn dal i lenwi eu cypyrddau, gan adael briwsion yn unig i’r bobl hynny a oedd yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd o wythnos i wythnos, y rhai â chyflyrau iechyd a’r henoed nad oedd yn gallu cyrraedd y siopau, ac a oedd hefyd yn cael trafferth cael unrhyw siopa wedi’i ddanfon atyn nhw. Mwyaf sydyn roeddwn i’n byw mewn gwlad nad oeddwn i’n ei hadnabod mwyach.

Rwy’n falch iawn o ddweud ar ôl wythnosau o wylio a gwrando ar straeon erchyll ar y newyddion, y dechreuodd straeon positif godi eu pen – straeon am bobl yn dod at ei gilydd a gofalu am y rhai llai ffodus ac am y rhai oedd yn hunanynysu yn sgil cyflyrau iechyd. Dyma’r Gymru rwy’n ei ‘nabod. Un sy’n meithrin a dathlu ‘grym cadarnhaol cymuned’. Mewn dim o dro, roedd y cyfryngau wedi newid eu tactegau ac wedi dechrau llenwi’r newyddion â hanesion positif o bob rhan o’r DU.

Bob diwrnod, roedden ni’n clywed am gymuned newydd yn dod at ei gilydd, gan ddefnyddio platfformau cyllido torfol i godi arian i brynu bwyd ac yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddosbarthu parseli bwyd i’r rhai anghenus. Neu straeon am glybiau rhedeg nad oedden nhw’n gallu rhedeg fel grŵp yn dechrau dosbarthu meddyginiaethau o fferyllfeydd er mwyn i’r aelodau gael rhedeg bob dydd at achos da drwy gasglu a dosbarthu presgripsiynau i bobl a oedd yn hunanynysu neu’n methu gadael y tŷ. Camau gweithredu hael oedd yn golygu y gallai pobl fwyta a chael meddyginiaethau a gwybod nad oedden nhw ar eu pen eu hunain, nac wedi’u hynysu’n llwyr, ond yn rhan o gymuned ofalgar a chydweithredol.

Dyma ddim ond dwy enghraifft o Gymru:

Ym Machynlleth, daeth pobl at ei gilydd i ddatblygu a gweithredu rhaglen gymorth gan rannu’r dref yn 6 parth lliw. Dyrannwyd hyb/tŷ i bob parth er mwyn cydlynu ymdrechion i gynnig cefnogaeth – yr hyb ar gyfer y parthau coch a glas oedd Menter Cydweithredol Tai Machynlleth. Roedd pob hwb yn cyfathrebu â hyb canolog, a oedd yn ei dro yn cadw mewn cysylltiad ag asiantaethau allweddol. Dosbarthwyd taflenni a sefydlwyd grwpiau WhatsApp a gwefan, a bu’r grŵp llesiant yn cynnig ioga a gweithgareddau ar-lein eraill. Roedd gwir ymdeimlad o gymuned ac agwedd o does neb yn cael ei adael allan.

Yn fy nghymuned leol fy hun ym Mhenarth, o fewn diwrnodau i’r cyfyngiadau symud, roedd teuluoedd wedi dosbarthu nodiadau wedi’u hysgrifennu â llaw o amgylch y strydoedd yn cynnig siopa, casglu presgripsiynau a darparu pa bynnag gymorth oedd ei angen. Roedden nhw’n rhoi dillad, teganau plant ac eitemau’r aelwyd ar y palmant er mwyn i bobl allu helpu eu hunain. Roedden nhw hefyd yn coginio a rhannu prydau gyda chymdogion drwy wasanaeth dosbarthu carreg drws. Camodd siopau lleol, siopau llysiau a ffrwythau, cigyddion a’r deli lleol i’r adwy ar unwaith gan gynnig gwasanaeth dosbarthu i’r cartref er mwyn sicrhau y gallai’r hen a’r ifanc gael bwyd ffres, ac er mwyn i’r busnesau oroesi.

Gan fod gweithio gyda’r tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi gyda Chyngor Cydweithredol Cymru yn rhan o’m swydd, roeddwn i am ddeall profiadau pobl a oedd yn byw mewn Tai Cydweithredol a Thai dan Arweiniad y Gymuned (CCLH * gweler y troednodyn) yn ystod y cyfnod clo, a faint o’u profiad a oedd i’w briodoli i’w gwreiddiau cydweithredol a chymunedol. Comisiynwyd The Social Effectiveness Research Centre i ofyn y cwestiynau pwysig hyn a byddwn yn cyhoeddi’r ymchwil ddiwedd yr hydref. Mae’r ymatebion cyntaf yn addawol iawn a dyma ambell ddyfyniad gan y preswylwyr:

“Rydw i’n lwcus iawn mod i wedi bod yma yn ystod y cyfnod clo gan fy mod i’n teimlo fy mod wedi cael fy amddiffyn a’m cefnogi. Fel arall byddwn wedi bod ar ben fy hun go iawn. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn un gorfforol ac yn un seicolegol. Mae gennym brofiad o barchu dymuniadau ein gilydd, gan gadw pellter cymdeithasol. Rwy’n credu bod pethau fel hyn yn unigryw i gyd-fyw.”

Mae’r manteision wedi cynnwys cwmni/rhyngweithio cymdeithasol, cymorth ymarferol (er enghraifft, siopa ar gyfer aelod sy’n hunanynysu) a’r gallu i gynnig hyblygrwydd ynghylch y rhent i aelodau sy’n cael trafferthion ariannol. Gallai rhai o’r manteision hyn fod wedi bod ar gael i unrhyw un a oedd yn byw ar aelwydydd a rennir ond mae gallu rheoli ein harian wedi bod yn bwysig a gan ein bod yn rhan o fenter gydweithredol roedd systemau ar waith eisoes gennym, e.e. cyfarfodydd rheolaidd i hwyluso cymorth rhwng aelodau.”

“I’r rheini sy’n byw ar eu pen eu hunain, mae wedi bod yn llawer llai unig nag y gallai fod wedi bod. Mae un aelod sydd â dementia wedi derbyn llawer o gymorth – cymorth na fyddai wedi bod yn bosibl mewn math arall o gartref.”

“Rwy’n credu ein bod wedi ymdopi’n dda iawn, fel unigolion ac fel cymuned”.

Yr hyn sy’n gwbl amlwg yw bod bywyd yn well wrth i ni weithio gyda’n gilydd i oresgyn yr heriau a’r rhwystrau. Nawr fod y cyfyngiadau yn cael eu codi yn araf a bod ymdeimlad o ‘normal’ yn dychwelyd, dydyn ni ddim am anghofio’r holl ewyllys da a’r cydweithrediad sydd wedi’i weld ac sy’n parhau ar waith ledled y wlad.

Yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, mae ein gwerthoedd yn cael eu hysbrydoli gan egwyddorion cydweithredol rhyngwladol, ond yn cael eu hysgrifennu yn ein geiriau ein hunain.

Bod yn Gydweithredol, Bod yn Gefnogol, Bod yn Deg, Bod yn Ddidwyll, Bod yn Bositif a Bod yn Ysbrydoledig.

 


Hoffem bwyso a mesur sut gallwn gyda’n gilydd fel sector tai (tenantiaid/ gweithwyr/ arbenigwyr/ academyddion) ddatblygu siarter gwerth chweil yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredol. Un sydd â diben, sy’n ychwanegu gwerth at yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ac sy’n ein galluogi i ddangos y gwahaniaeth y mae’n ei wneud. Mae angen i ni gyd feddwl am effaith ein penderfyniadau a’n gweithredoedd ar genedlaethau’r dyfodol, felly pa ffordd well o wneud hyn na thrwy gydweithio.

Beth allwch chi ei wneud:

  • Cwblhau’r arolwg ar-lein
  • Rhannu’r ddolen arolwg gyda thenantiaid a phartneriaid tai
  • Cysylltu i gofrestru diddordeb mewn datblygu siarter

*Gyda mentrau cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned, mae pobl leol yn cymryd rôl flaenllaw a pharhaus gan greu tai diogel, fforddiadwy a chryfhau eu cymunedau. Mae’n dod â phobl at ei gilydd i benderfynu pa fath o gartrefi a chymunedau y maen nhw am fyw ynddyn nhw.

Jocelle Lovell yw’r Rheolwr Rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru.