Cwmnïau cydweithredol ym maes gofal

Mae cwmnïau cydweithredol yn rhan o’r ateb i’r argyfwng mewn gofal cymdeithasol, ac maent yn tyfu ledled Cymru, dywed Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, a Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru.

See this page in: English

Fel rhan o’i uchelgais i gyflawni sosialaeth yr 21ain ganrif, mae Mark Drakeford eisiau ‘ail-gydbwyso’ y sector gofal cymdeithasol a dod â gwasanaethau yn agosach at barth y cyhoedd trwy fodelau cydweithredol.

Mae’r rhesymeg y tu ôl i’r addewid hwn yn eithaf cymhellol. Mae argyfwng cyllido yn bodoli mewn gofal cymdeithasol sy’n annhebygol o wella’n sylweddol yn fuan. Yn aml, caiff staff eu talu’n wael, ac weithiau nid yw’r gofal a ddarperir yn cyfateb i’r hyn y mae pobl ei eisiau. Felly, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddarparu gofal heb gael rhagor o arian.

Gall dulliau cydweithredol helpu i gyflawni hynny. Nid dyma’r ateb i’n holl broblemau ond mae eu strwythur aelodaeth yn galluogi pobl sy’n defnyddio gwasanaethau lles a gofal personol i gael mwy o ddweud yn y modd y cânt eu rhedeg a’r hyn maent yn ei gynnig. A phan mae ganddynt gyfansoddiad fel busnesau nid er elw (preifat), maent yn sicrhau bod adnoddau prin yn cael eu gwario ar wella ansawdd y gwasanaethau ac nid ar randaliadau i gyfranddalwyr.

Mae’r strwythur cydweithredol yn addas ar gyfer cefnogi pobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol. Bwriedir i daliadau uniongyrchol roi rhagor o ddewis, rheolaeth ac annibyniaeth, ond mae nifer y bobl sy’n manteisio arnynt wedi parhau’n isel yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae dull cydweithredol yn galluogi pobl i weithio gyda’i gilydd i reoli eu taliadau a hyd yn oed eu cronni lle gall hynny eu helpu i fynd ymhellach.

Gall cwmnïau cydweithredol weithredu ar raddfa, yn hytrach nag ar faint yr elw. Yn rhanbarth Emilia Romagna yn yr Eidal, mae cwmnïau cydweithredol cymdeithasol yn cyfrif am fwy na 50 y cant o’r farchnad ofal. Ac mae cwmnïau cydweithredol yn datblygu yma hefyd.

Friends United Together: cwmni cydweithredol sy’n datblygu yn ne orllewin Cymru. Mae’n cynnwys grŵp o bobl sydd â mynediad i daliadau uniongyrchol ac sydd eisiau bod yn gwmni cydweithredol bach annibynnol fel y gallant brynu gwasanaethau gofal a chymorth. Gyda chymorth Canolfan Cydweithredol Cymru, mae Friends United Together yn llywio’i ffordd ar hyd y daith o sefydlu cwmni cydweithredol newydd, gan ddod â’r aelodau sefydlu at ei gilydd, a dysgu beth mae’n ei olygu i reoli’r cwmni cydweithredol, ac agor eu cyfrif banc eu hunain a chofrestru.

O ganlyniad i newid yn y rheoliadau y llynedd, mae sefydlu micro-gwmnïau cydweithredol tebyg i Friends United Together yn haws erbyn hyn. Mae sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau cydweithredol, wedi’u heithrio rhag cofrestru pan fo’r gwasanaeth hwnnw’n ‘darparu gofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion a enwir.’

“Mae cydweithfeydd yn darparu strwythur i ddefnyddwyr a gweithwyr ymarfer pŵer, ac i fod yn effeithlon ac ymatebol o ran eu buddiannau eu hunain. Ac mae egwyddorion cydweithredol yn cynnwys gofalu am y gymuned, a chydweithio er lles pawb."

Adrian Roper, Prif Weithredwr, Cydweithfa Cartrefi Cymru

Cydweithfa Cartrefi Cymru: dyma gwmni cydweithredol ar ben arall y raddfa. Gyda throsiant o fwy na £23 miliwn, mae’n gwmni mawr sy’n darparu gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu. Troswyd Cartrefi i fod yn gydweithfa yn 2017, ac mae bellach yn gydweithfa aml-randdeiliad gydag ymroddiad cyfansoddiadol i rannu pŵer ac adeiladu cymuned. Mae’r Prif Weithredwr, Adrian Roper, yn credu bod cydweithfeydd yn cynnig atebion i rai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu gofal cymdeithasol:

“Mae rhai problemau yn deillio o’r syniad y gall gwladwriaeth o’r brig i lawr reoli gwasanaethau trwy fiwrocratiaeth a dangosyddion perfformiad. Mae rhai problemau yn deillio o’r syniad y bydd marchnad gystadleuol yn fwy effeithlon ac ymatebol i anghenion. Mae gennym y ddau beth hyn yn digwydd ar yr un pryd, gyda biwrocratiaid rheolaethol ar yr un llaw a darparwyr cystadleuol ar y llall. Mae’r canlyniad yn groes i effeithlonrwydd ac ymatebolrwydd, gydag arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu ar wasanaethau a gynlluniwyd yn wael gan asiantaethau sy’n ceisio gwasgu elw ar draul eu defnyddwyr a’u gweithwyr.

“Mae’r ateb yn ei gwneud yn ofynnol i’r wladwriaeth symud locws pŵer a rheolaeth i lefel lle gall defnyddwyr a gweithwyr eu hymarfer, ac ar yr un pryd, gwobrwyo darparwyr sy’n dangos ethos gwasanaeth cyhoeddus cydweithredol.

“Mae cydweithfeydd yn darparu strwythur i ddefnyddwyr a gweithwyr ymarfer pŵer, ac i fod yn effeithlon ac ymatebol o ran eu buddiannau eu hunain. Ac mae egwyddorion cydweithredol yn cynnwys gofalu am y gymuned, a chydweithio er lles pawb. Mae’n sicr bod meithrin cydweithfeydd a chydweithredu trwy berthnasoedd hirdymor â chyflenwyr yn gwneud mwy o synnwyr na cheisio gofalu am les pawb trwy ofynion a wneir o bell a chystadleuaeth sy’n dinistrio ymddiriedaeth.”

Nid ydym yn dechrau o’r dechrau. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu twf sylweddol yn nifer y busnesau gofal cydweithredol. Hyd yn hyn, nid ydym wedi creu mudiad newydd o gydweithfeydd gofal ar raddfa Emilia Romagna, ond ni ddylem ofni bod yr un mor uchelgeisiol.

Moncare Co-operative

Nod Moncare Co-operative yw cefnogi rhagor o lais, rheolaeth ac annibyniaeth i ddinasyddion trwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol a datblygu cwmni cydweithredol a gyfarwyddir gan ddinasyddion.

Fe’i sefydlwyd yn dilyn prosiect dan arweiniad Anabledd Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr. Y syniad y tu ôl i’r prosiect oedd profi p’un ai a fyddai cydweithfeydd a gyfarwyddir gan ddinasyddion yn annog rhagor o bobl i gymryd rhan a mwy o arloesi na chynlluniau cymorth taliadau uniongyrchol presennol. Er enghraifft, gellir cronni taliadau uniongyrchol i gefnogi gweithgareddau cymdeithasol ar y cyd neu sefydlu menter gymdeithasol i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth.

Mae Moncare Co-op yn cynnig gwasanaeth ‘cyfeillio’, sy’n meithrin hyder ac yn helpu gyda datrys problemau. Hefyd, mae’n darparu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a chyfleoedd i gwrdd â phobl eraill, trafod manteision taliadau uniongyrchol a rhannu syniadau. Mae’n bwriadu cynnig gwasanaeth cyfatebol y gellir ei defnyddio i ddod o hyd i gynorthwyydd personol addas.

Cadeirydd y cwmni cydweithredol yw Lesley Jones. Dywedodd: “Nid yw Taliadau Uniongyrchol yn cael eu gwthio’n ddigonol. Rhoddir y wybodaeth anghywir i bobl – mae rhai nad ydynt hyd yn oed yn cael cynnig Taliadau Uniongyrchol. Ni roddir dewisiadau iddynt, a’m dymuniad i fyddai i’r bobl hynny wybod bod ganddynt ddewis.”

Gan mai newydd gael ei sefydlu y mae Moncare, mae’n rhy gynnar i ddweud a fydd yn cynyddu arloesedd. Fodd bynnag, mae gwersi ar gael eisoes i eraill eu dysgu. Gall y rhwystrau dyddiol a wynebir gan bobl anabl, rhieni a gofalwyr adael ychydig iawn o amser ac egni ar gyfer ymrwymo i’r cyfrifoldeb ychwanegol o redeg cwmni cydweithredol. Mae cyngor a chefnogaeth allanol yn allweddol.

Mae lefel ymrwymiad awdurdodau lleol i daliadau uniongyrchol yn hanfodol hefyd. Er bod nifer y bobl yng Nghymru sy’n derbyn taliadau uniongyrchol wedi cynyddu, ceir llai na 6,000 o dderbynwyr o blith y 160,000 sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys 32,000 o bobl sy’n derbyn gofal yn y cartref. Mae angen dull strategol o ran ehangu a chefnogi taliadau uniongyrchol, os dyma fydd yr opsiwn diofyn ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth.

Dysgwch fwy:

Taliadau Uniongyrchol a Model Menter Gydweithredol Pobl Anabl: Pecyn Cymorth

Canolfan Cydweithredol Cymru: Cyngor a chymorth ar gyfer sefydlu cwmni cydweithredol gofal cymdeithasol