Blog | Cydweithredol

Cwmnïau cydweithredol yn ystod Covid-19

Mae’r aelod o’r Ganolfan, Carl Rowlands, yn gofyn a oes angen patrwm newydd i ymateb i heriau ein hoes.

By Catherine Evans · September 18, 2020

See this page in: English

Gellid dadlau mai prif nodwedd pandemig 2020, sy’n ymdreiddio i bob ymateb a chanlyniad, yw ansicrwydd. Mae ansicrwydd yn treiddio i bob agwedd ar fywyd, ond yn enwedig ansicrwydd economaidd.

I lawer ohonom, daw hyn yn syth ar ôl anawsterau gwleidyddol difrifol, economi a oedd eisoes yn edrych yn sigledig ar ddechrau’r flwyddyn, ac argyfwng ecolegol sy’n cyflwyno heriau mawr i unrhyw fodel busnes cynaliadwy posibl.

Ni fydd yr atebion arferol yn berthnasol, yn fy marn i. Mae rhai ohonom wedi siarad o blaid cwmnïau cydweithredol ers blynyddoedd lawer, ac mae hyn wedi ein harwain at ddulliau a dadleuon penodol, y mae llawer ohonynt wedi bod yn wirioneddol effeithiol a chreadigol. Ond nawr, a ninnau’n wynebu graddfa a dyfnder yr argyfwng hwn, efallai na fydd yr un dadleuon yn berthnasol

Rwyf wedi dilyn gwaith Canolfan Cydweithredol Cymru ers y 1990au a phryniant Pwll Glo’r Tower, ac mae’n rhagorol, ond mae’n ymddangos ein bod ni i gyd mewn byd newydd.

Mae effeithiau’r argyfwng hwn yn torri ar draws busnesau a chymunedau. Fel y dywedodd yr economegydd James Meadway, mae’n effeithio ar y cyflenwad a’r galw. Efallai na fydd modelau cystadleuaeth presennol ym myd busnes lleol yn berthnasol mwyach. Mae tonnau o fethdaliad yn bosibl, wedi’u creu gan broblemau mewn diwydiannau gwasanaeth fel twristiaeth.

Mewn sawl gwlad, ond yn enwedig De Corea, mae modelau cydweithredol ‘gwasanaeth a rennir’ – sef cwmnïau cydweithredol eilaidd ar gyfer unigolion a busnesau bach, i bob pwrpas – wedi cefnogi ecosystemau busnes ers blynyddoedd lawer, gan alluogi gwasanaethau a chynhyrchu crefftus o fewn seilwaith wedi’i atgyfnerthu. Beth allai hyn ei olygu i ni nawr? Fe allai olygu bod bwytai a chaffis sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â refeniw llai yn gallu rhannu cyfleusterau a staff gweini i aros yn hyfyw, ar yr un pryd â chadw eu helfennau mwyaf allweddol, fel bwydlenni a pharatoi.

Efallai bod y cwestiwn mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â thrawsnewid.

Yn gryno, mae’n bosibl mai’r unig ffordd y bydd busnesau unigol yn gallu goroesi yw trwy gymorth cymunedol. Mae’r model yn golygu, yn ei hanfod, bod busnesau’n cynnal ei gilydd trwy adnoddau cyffredin. Ond byddai cyrraedd y man hwn hyd yn oed yn gofyn am gymorth gan lywodraeth leol, arolygu safleoedd a rhagolygon yn gyson, amser i ddatblygu modelau a chynlluniau busnes newydd – ymagwedd fwy cydlynol o lawer at gynllunio economaidd.

Felly, mae’n gwestiwn i ni i gyd: os dyma yw Dirwasgiad Mawr ein bywydau, gydag aflonyddwch sy’n mynnu model newydd, a fyddwn ni’n gallu ymateb? A allwn ni addasu, yn y byd cyhoeddus, ond hefyd trwy greu llwybrau newydd tuag at gydweithredu ar gyfer yr hyn a fu, hyd yma, yn fodelau entrepreneuriaeth breifat unigolyddol iawn?

Fel llawer o bethau, ni allaf ddweud yn sicr beth fydd yn digwydd, nac yn union beth y mae angen iddo ddigwydd. Yn ddi-au, gallai cyfleusterau fel Derby’s Market Place arwain y ffordd tuag at gymysgedd gwahanol o berchenogaeth breifat a chyhoeddus. Sut bynnag, credaf y bydd angen patrwm newydd.