Covid-19: Taflenni ffeithiau ar gyfer busnesau cymdeithasol
Mae'r tîm Busnes Cymdeithasol Cymru wedi casglu nifer o daflenni ffeithiau a chanllawiau i helpu busnesau cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19.
Gweler y dudalen hon yn: English
Roedd y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth yn ddigynsail i bawb ohonom ar lefel bersonol a phroffesiynol. O fusnesau ac arweinwyr busnes yn gorfod addasu ac ymateb dros nos i sut y gallent ymdopi mewn sefyllfa anghyfarwydd, roedd cyfyngiadau symud yn arwain at benderfyniadau a heriau mawr.
Cyngor ar opsiynau ariannu ar gyfer busnesau cymdeithasol yn ystod y Cyfnod Atal Byr a ddechreuodd ar 23 Hydref 2020.
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi datblygu’r canllawiau hyn i’ch helpu i lywio eich llwybr unigol tuag at ailagor. Bydd yn eich helpu fel busnes cymdeithasol i ystyried y goblygiadau allweddol i ailddechrau eich busnes a’ch cyfeirio at adnoddau a ffynonellau gwybodaeth allweddol. Bydd yn eich galluogi i gynllunio a pharatoi ar gyfer y siwrnai sydd o’ch blaen a bod mewn sefyllfa i ailagor eich busnes cymdeithasol cyn gynted ag y bydd cyfyngiadau’r llywodraeth yn caniatáu hynny.
Mae’r heriau y mae ein sector yn eu hwynebu yn fawr ac er mwyn sicrhau ein bod yn parhau’n wydn fel busnesau, mae angen i ni baratoi ar gyfer yr amseroedd ariannol anodd hynny sydd o’n blaenau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Dyma ein prif gynghorion ar gyfer busnesau cymdeithasol sy’n chwilio am gyllid Covid-19 arbenigol.
Awgrymiadau ar gyfer Busnesau Cymdeithasol sy’n Chwilio am Gymorth Ariannol
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu HCHR Limited i gynhyrchu adroddiad ar gyflwyno a gweithredu’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.
Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – rhan 1
Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – rhan 2
Mae ein sector yn wynebu heriau mawr ac, i sicrhau ein bod yn aros yn gydnerth fel busnesau, mae angen i ni baratoi ar gyfer y cyfnod ariannol anodd sydd i ddod yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer busnesau cymdeithasol sydd am fanteisio ar gyllid arbenigol mewn perthynas â Covid-19.
Awgrymiadau ar gyfer Busnesau Cymdeithasol sy’n chwilio am Gymorth Ariannol
Bwriedir i’r nodyn briffio hwn fod yn ffordd o’ch cyfeirio at wybodaeth ac adnoddau defnyddiol sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol a phryderon staffio yn ystod y pandemig.
Mae rhai o’n cleientiaid wedi gofyn i ni sut y gallant barhau i weithredu o fewn eu rheolau a beth y dylent ei wneud ynghylch Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol sydd ar ddod. Mae’r papur briffio hwn yn eich cyfeirio at wybodaeth ac adnoddau defnyddiol sy’n ymwneud â llywodraethu yn ystod y pandemig Covid-19.
Mae’r ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru yn rhoi manylion y cymorth sydd ar gael i fusnesau (gan gynnwys busnesau cymdeithasol).
Mae technolegau digidol yn cynnig achubiaeth i gadw eich sefydliad ar agor. Dyma ystyriaeth digidol allweddol i’ch helpu i addasu i’r sefyllfa Covid-19.
Mae rheolau newydd wedi dod i rym yng Nghymru ynghylch ymbellhau cymdeithasol a’r gweithle. Mae’r rheolau’n gorfodi busnesau sy’n dal i weithredu i sicrhau eu bod yn cymryd camau rhesymol i gadw pellter o 2 fetr rhwng pobl ar y safle. Mae’n ofynnol i fusnesau gymryd camau cymesur y gellir eu cyfiawnhau.
Os ydych chi'n poeni am eich busnes cymdeithasol, ffoniwch ein tîm ar
0300 111 5050
Mwy o adnoddau Covid-19
Mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru amrywiaeth o adnoddau eraill i'ch helpu yn ystod pandemig Covid-19.
-
Covid-19: Dolenni defnyddiol ar gyfer busnesau cymdeithasol
Rydym wedi bod yn casglu dolenni defnyddiol ynghyd i'ch helpu chi a'ch cydweithwyr busnes cymdeithasol i ddod o hyd i'r cymorth a'r cyngor diweddaraf ar-lein.
-
Covid-19: Gweminarau ar gyfer busnesau cymdeithasol
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnal ystod o weminarau mewn ymateb i faterion cyffredin sy'n codi i fusnesau cymdeithasol yn ystod argyfwng COVID-19.
-
Hwb Covid-19
Bydd y Ganolfan yn ceisio parhau i gyflawni ei rhaglen waith hyd eithaf ei gallu. Mae hyn yn golygu bod angen i ni geisio gwneud pethau mewn ffyrdd...