Hwb Covid-19
Bydd y Ganolfan yn ceisio parhau i gyflawni ei rhaglen waith hyd eithaf ei gallu. Mae hyn yn golygu bod angen i ni geisio gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol. Rydym wrthi'n ystyried datblygu rhaglenni gwaith newydd i helpu ein cleientiaid yn ystod y cyfnod hwn, a hynny fel mater o frys. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau newydd er mwyn helpu pobl i helpu eu teulu, eu ffrindiau a'u cymdogion nad ydynt ar-lein. Bydd hefyd yn cynnwys cymorth ychwanegol i fusnesau cymdeithasol er mwyn eu helpu i gynnal eu hunain.
Gweler y dudalen hon yn: English
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru a’i dîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i roi cymorth gydag unrhyw ymholiadau am lif arian, adnoddau dynol, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu, ac amrywiaeth o feysydd y gall fod angen eu hailystyried yng ngoleuni Coronafeirws. Mae’r sefyllfa yn newid yn gyflym iawn, ac rydym yn gweithio fel tîm i ddatblygu adnoddau a chyngor penodol a fydd ar gael dros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf ar y dudalen hon ac yn https://businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy
Gall ein cynghorwyr cynhwysiant digidol sy’n gweithio ar raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant gyfeirio pobl at adnoddau i’w helpu i gymdeithasu ar-lein, siopa ar-lein a defnyddio technoleg galwadau fideo os bydd angen iddynt hunanynysu o ganlyniad i Covid-19. Rydym yn datblygu cyfres o weminarau i gymryd lle ein sesiynau hyfforddi, ac rydym yn dal i allu rhoi cymorth i gleientiaid dros y ffôn neu dros e-bost. Ffoniwch 0300 111 5050 neu anfonwch e-bost i digitalcommunities@wales.coop. Ceir rhagor o wybodaeth yn http://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/
Cymerwch olwg ar ein tudalen #NewyddionDaCymru i ddarllen straeon calonogol am sut y mae busnesau cymdeithasol yn ein sector yn helpu i gefnogi a dod â’u cymunedau at ei gilydd yn ystod sefyllfa Covid-19.
Mae cyngor ar opsiynau cyllido ar gyfer busnesau cymdeithasol yn ystod y cyfnod atal byr sy’n dechrau 23 Hydref 2020 ar gael yma:
Os ydych yn poeni am eich busnes cymdeithasol, ffoniwch ein tîm ar
0300 111 5050
Mwy o adnoddau COVID-19
Mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru amrywiaeth o adnoddau eraill i'ch helpu yn ystod pandemig Covid-19
-
Covid-19: Taflenni ffeithiau ar gyfer busnesau cymdeithasol
Mae'r tîm Busnes Cymdeithasol Cymru wedi casglu nifer o daflenni ffeithiau a chanllawiau i helpu busnesau cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19.
-
Covid-19: Gweminarau ar gyfer busnesau cymdeithasol
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnal ystod o weminarau mewn ymateb i faterion cyffredin sy'n codi i fusnesau cymdeithasol yn ystod argyfwng COVID-19.
-
Covid-19: Dolenni defnyddiol ar gyfer busnesau cymdeithasol
Rydym wedi bod yn casglu dolenni defnyddiol ynghyd i'ch helpu chi a'ch cydweithwyr busnes cymdeithasol i ddod o hyd i'r cymorth a'r cyngor diweddaraf ar-lein.