Cwmni Da yn dewis Perchnogaeth gan Weithwyr oherwydd mae’n llesol i fusnes

Mae 50 o swyddi wedi cael eu diogelu yn un o brif gwmnïau cynhyrchu teledu Cymru ar ôl i berchnogaeth y cwmni drosglwyddo i'w weithwyr.

See this page in: English

Fel cyfranwyr balch at economi a diwylliant Cymru, mae’n briodol iawn bod y cwmni cynhyrchu teledu arobryn, Cwmni Da, wedi dewis dod yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr.

Sefydlwyd y busnes o Gaernarfon ym 1996 ac mae’n cyflogi 50 o bobl. Ei arbenigedd yw creu rhaglenni ffeithiol, dogfen, drama, plant ac adloniant, yn bennaf yn Gymraeg i S4C ond hefyd i’r farchnad cynyrchiadau ar y cyd rhyngwladol.

Wrth drafod y broses bontio i berchnogaeth gan weithwyr, a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr y llynedd, esboniodd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Dylan Huws, y dymunai i’r cwmni aros yn nwylo’r staff sydd wedi helpu i’w wneud yn llwyddiannus.

Yn ei farn ef, mae perchnogaeth gan weithwyr yn ddewis perffaith oherwydd mae’n credu’n gryf bod staff y cwmni yw rhan allweddol o’r busnes ac y dylent oll elwa o ymdrechion y busnes. Ond roedd pryderon ehangach hefyd.

‘Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae ad-drefnu yn y sector cynhyrchu annibynnol wedi arwain at werthu sawl cwmni o Gymru i endidau mwy, a bydd hynny’n golygu yn amlach na pheidio na fydd y cwmnïau yn parhau yn eiddo i berchnogion o Gymru.

‘Byddai’n hawdd gwerthu Cwmni Da ac yna camu ymaith, ond ni fyddwn i’n dymuno gweld pobl rwy’n ffyddiog ynddynt ac yn eu parchu yn colli eu swyddi’n ddirybudd oherwydd bod perchnogion newydd wedi camu i mewn, ac roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol.’

‘Er ein bod yn gweithio ym mhedwar ban byd, rydym yn teimlo ein bod yn hanu o’r ardal hon ac yn teimlo bod cysylltiad gennym â’r cynulleidfaoedd rydym ni’n eu gwasanaethu, felly mae’n teimlo’n bwysig i’r busnes barhau i fod wedi’i wreiddio yma yn y gymuned leol.’

Wrth drafod y broses o bontio i Berchnogaeth gan Weithwyr, dywedodd Dylan: ‘Busnes Cymdeithasol Cymru oedd ein pwynt cyswllt cyntaf. Fe wnaethant reoli’r broses o’r dechrau i’r diwedd, ac mae ein perthynas â nhw yn parhau, sy’n hynod bwysig. Alla i ddim â phwysleisio digon pa mor allweddol oeddent a sut y gwnaethant barhau i ofyn y cwestiynau priodol a’n helpu i drefnu ein syniadau.’

Mae’n pwysleisio bod Perchnogaeth gan Weithwyr yn broses o newid diwylliant, ac mae angen parhau i reoli hynny. Dywedodd bod y broses honno yn golygu cynnwys staff, a mentora a grymuso pobl er mwyn iddynt gredu bod ganddynt lais ynghylch eu dyfodol. Dywedodd ei fod bellach yn rhannu mwy o wybodaeth am y cwmni nag erioed o’r blaen a bod y tîm yn dechrau deall yn well sut mae’r busnes yn gweithio.

Fodd bynnag, y prif wahaniaeth i staff y cwmni yw’r ffaith y gallai elw fod ar gael i’w rannu ar ddiwedd y flwyddyn, os bydd y cwmni’n gwneud elw. Y swm mwyaf y gall y cyfranddaliwr sy’n aelod o staff ei ennill ar ben ei gyflog heb dalu treth yw £3,600.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n argymell Perchnogaeth gan Weithwyr i fusnesau eraill, dywedodd Dylan Huws: ‘Mae’n sicr yn rhywbeth y dylai pob busnes ei ystyried o ddifrif.’ Ni fydd yn addas i bawb, ac mae’n golygu bod yn rhaid sefydlu endid newydd, ond ceir manteision treth i’r hen gyfranddalwyr a’r cyfranddalwyr newydd. Mae gennym gorff o staff profiadol iawn yma, ac roeddwn i’n hyderus y gallai’r tîm symud ymlaen. Fel penderfyniad busnes, dyma oedd y penderfyniad gorau i ni.’

Dysgwch fwy am berchnogaeth gweithwyr

Mae perchenogaeth gweithwyr yn ateb olyniaeth ar gyfer yr 21ain ganrif