Cwmni GoodWash yn dangos ei wir natur trwy gefnogi’r GIG
Mae cwmni GoodWash wedi bod yn cefnogi’r GIG a chymunedau lleol trwy eu rhoddion eu hunain yn ogystal â lansio menter o’r enw ‘Bar Diolch’ i weithwyr allweddol leol.
Gweler y dudalen hon yn: English
Ymatebodd cwmni GoodWash yn gyflym ac mewn ffyrdd ymarferol i’r argyfwng coronafeirws trwy gynnig cymorth ymarferol i staff y GIG. Dosbarthodd y brand nwyddau ymolchi moethus, sydd hefyd yn fenter gymdeithasol, 4,000 o becynnau ymolchi brys i bob Ymddiriedolaeth GIG ledled Cymru; i’r elusen ddigartrefedd Llamau, i fanciau bwyd lleol, ac i ysbytai yn Llundain, gan gynnwys Ysbyty Coleg King ac Ysbyty Royal Free.
Gan weithio â’u partneriaid, y Post Brenhinol a Parcelforce, anfonwyd y pecynnau, oedd yn cynnwys amrywiaeth o siampŵs a sebon maint teithio, yn ystod wythnos olaf mis Mawrth a thrwy gydol dechrau mis Ebrill. Yn ogystal, mae’r cwmni’n ymateb i geisiadau am gymorth gan wasanaethau brys eraill a’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.
Thank you🖐🏽🌱…. Every time you chose to have a goodwash this week you directly supported us to donate over 3800 wash packages to every #nhstrust in Wales over the past 8 days #diolchbar #soap #handwash #onewashatatime https://t.co/ALguyOfM8h pic.twitter.com/wyWpaboaVU
— TheGoodwashCompany™ (@TheGoodwashCo) April 4, 2020
Hefyd, mae’r tîm wedi lansio ‘Thank You Bar/Bar Diolch’. Bydd pob cwsmer sy’n prynu bar sebon oddi wrth y cwmni yn derbyn ‘bar dogni’ i’w roi i aelod arall o’r gymuned fel diolch. Er mwyn personoli’r ymgyrch ymhellach, maen nhw wedi gadael y label yn wag er mwyn galluogi cwsmeriaid i ychwanegu enw rhywun. Gallai hynny fod yn weithiwr GIG, cymydog, unigolyn bregus, gweithiwr gwasanaeth brys, teulu, neu hyd yn oed berchennog siop leol sy’n aros ar agor i gefnogi eu cymuned leol. Fel arall, os yw cwsmeriaid yn dymuno rhoi eu bar i achos da, gellir ei anfon i’w ymddiriedolaeth GIG neu fanc bwyd lleol.
Everytime you purchase a soap bar #sebonda we will send you a Diolch bar to give to a local hero or neighbour or loved one #staysafe #naturalsoap *we can also donate your bar to your local foodbank or #NHS #SocEnt #covid19UK https://t.co/HxMHOB4agE pic.twitter.com/vG4LjyzS4Q
— TheGoodwashCompany™ (@TheGoodwashCo) March 26, 2020
@TheGoodwashCo Thank you
My lovely soap is going to a lovely police officer neighbour Danielle. pic.twitter.com/dUecU58yX3— Bob/Barb Johnson (@bj13johnson1) April 19, 2020
Mae’r cwmni wedi cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol i staff y tîm craidd ac yn cydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth, a mesurau iechyd a diogelwch, o ran gweithio. Trwy barhau i werthu nwyddau ar-lein, mae’r cwmni’n gallu parhau i gefnogi’r GIG a chymunedau trwy ei ymgyrch ‘prynu un a rhoi un [bar o sebon]’.
Fodd bynnag, nid yw’r dull hwn o weithio’n gwbl newydd i dîm GoodWash oherwydd mae’r cwmni wedi bod yn cefnogi amrywiaeth o achosion da ers y cychwyn. Dywedodd Mandy Powell, cyd-sefydlydd GoodWash: “O ran effaith gymdeithasol, rydym yn gwmni ystwyth, a dyma’r peth iawn i’w wneud yn ystod y cyfnod hwn. Rydym bob amser wedi rhoi unrhyw elw dros ben i achosion da ac mae gan y cwmni’r gallu i weithio gyda gwahanol brosiectau ledled Cymru.”
“Rydym yn defnyddio cynnyrch lleol a chynaliadwy, sy’n ei gwneud hi’n haws i ni barhau i gefnogi achosion da yn ystod y cyfnod hwn. Nid yw’n cynnyrch yn cynnwys alergenau ac mae’n addas i feganiaid a phobl sydd â chroen sensitif.”
Sefydlwyr cwmni GoodWash, Mandy Powell (chwith) a Kelly Davies (dde).
(Delwedd: Alex Sedgmond Photography)
Bu symudiad calonogol eisoes ymysg busnesau a sefydliadau, fel prynu bariau yn rhoddion i’w staff fel ffordd ymarferol o gefnogi’r GIG a chymunedau.
Mae un sylw diweddar ynglŷn â sut mae busnesau yn ymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn yn briodol yn y sefyllfa hon: “Nid oes dim yn datgelu cymeriad fel argyfwng. Wrth i’r coronafeirws ledu, mae cwmnïau’n datgelu eu gwir natur. Mae’n ymddangos bod rhai yn bwdr i’r carn, tra bod eraill yn dangos tynerwch, cariad a gofal.”
Mae mwy o wybodaeth am y ‘Thank You Bar / Bar Diolch’ fan hyn a gallwch ddilyn gwaith cwmni GoodWash ar Twitter @WashDoGood.
Oes gennych chi stori i #NewyddionDaCymru?
Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned neu os hoffech hyrwyddo eich gweithredoedd da, cysylltwch â ni er mwyn rhannu’r hanes.