Cymru Sero Net – beth mae’n ei olygu ar gyfer mentrau cymdeithasol?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hail gynllun ar gyfer lleihau allyriadau, Cymru Sero Net. Mae’n disgrifio sut mae Cymru’n cynllunio cwrdd â’r ail gyllideb garbon, a gyfyngodd allyriadau dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r gyllideb garbon ar gyfer 2021-25 yn anelu at leihau allyriadau gan 37%, ac mae’r blog hwn yn ystyried beth all y cynllun hwn ei olygu ar gyfer mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Gweler y dudalen hon yn: English

Mae’r cynllun Cymru Sero Net yn gofyn i’r cyhoedd i siopa a defnyddio nwyddau a gwasanaethau mwy lleol, cefnogi busnesau yng nghanol trefi lleol a defnyddio eu grym gwario i gefnogi busnesau sydd ar y brig o ran mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae hyn yn gyfle i fentrau cymdeithasol. Mae mentrau cymdeithasol wedi angori yn eu cymunedau; pobl yn y gymuned sy’n buddsoddi ynddynt ac maen nhw’n cael eu hailgylchu ar gyfer buddion economaidd a chymdeithasol ehangach.

Maen nhw’n gweithredu ac yn ffynnu mewn ardaloedd lle na all busnesau wneud, neu lle nad ydynt eisiau gwneud. Gall mentrau cymdeithasol hefyd fod ar y brig o ran mynd i’r afael â newid hinsawdd. Maen nhw’n gweithredu ar egwyddorion y sylfaen driphlyg; pobl, y blaned ac elw. Mae’r sylfaen yn sicrhau bod pwrpas cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y mentrau cymdeithasol wrth wraidd yr hyn y maent yn ei wneud.

Mae nodau amgylcheddol a gwella’r ardal leol wrth wraidd nodau cymdeithasol llawer ohonynt. Mae’n werth nodi hefyd bod gan lawer o fentrau cymdeithasol egwyddorion cylchol sydd wedi’u sefydlu o fewn y nodau amgylcheddol hyn. Mae’r cynllun yn egluro sut y mae angen i ni gynyddu cynhyrchiant o ynni adnewyddadwy yn y ffyrdd sydd fwyaf cost effeithiol a buddiol i Gymru. Gall cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol, gan gynnwys mentrau ar y cyd, gyflawni hyn.

Maen nhw’n rhoi mynediad at ffynnonellau ynni adnewyddadwy, yn ogystal â dealltwriaeth ehangach ohonynt, i gymunedau. Mae hefyd yn rhoi rheolaeth i gymunedau dros y ffrwd incwm. Mae nifer o gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol yn ailfuddsoddi elw i dai lleol a chynlluniau codi ymwybyddiaeth. Mae’r Adroddiad Cyflwr y Sector diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru yn cynnig argymhellion ymarferol ynglŷn â sut all y sector hwn gyrraedd ei botensial. Gallai’r cynllun gynnig cyfle i fentrau cymdeithasol sy’n gweithio mewn ailgylchu ac yn yr economi gylchol.

Mae’n egluro na fydd unrhyw wastraff yn cael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi a bydd Cymru’n ddiwastraff (ailgylchu 100%) erbyn 2050. Felly, mae hyn yn golygu ar ôl 2025, ni fydd angen creu safleoedd tirlenwi newydd ar gyfer gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru. Fel sefydliadau sy’n cyflawni buddion amgylcheddol ynghyd â buddion cymdeithasol ac economaidd, dylai mentrau cymdeithasol fod mewn safle cryf i gyflawni’r nod hwn.

Bydd rhaid i bob menter gymdeithasol ystyried sut allant leihau eu heffaith amgylcheddol eu hunain.

Mae’r cynllun yn glir lle mae angen i ni ystyried faint o systemau gwresogi, oeri a dŵr poeth a ddefnyddir mewn adeiladau diwydiannol a masnachol, yn ogystal â’r deunyddiau a ddefnyddir i’w hadeiladu nhw. Mae hyn yn cynnwys adeiladau diwydiannol ynghyd â siopiau, gwestai a swyddfeydd. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar y materion hyn.

Wrth i’r Llywodraeth barhau i roi’r cynllun hwn ar waith, byddwn yn eich diweddaru gyda newyddion a chyfleoedd ar gyfer y sector ar y wefan flog hon ac yn ein cylchlythyr.

Dr Ceri-Anne Fidler yw Swyddog Polisi’r Sector Mentrau Cymdeithasol ac mae’n cefnogi’r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol.

Cyfres blogiau Trawsnewid Cymru