Datgarboneiddio cartrefi cymdeithasol – Gwneud y mwyaf o’r potensial

Gallai datgarboneiddio cartrefi cymdeithasol olygu biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad dros y degawd nesaf. Gallai'r buddsoddiad gael mwy fyth o effaith i gymunedau ac economïau lleol pe baem yn ystyried cynhyrchu ynni a modelau perchnogaeth leol yr un pryd, yn ôl Derek Walker ac Adrian Webb.

Gweler y dudalen hon yn: English

Mae graddfa’r rhaglen ôl-ffitio tai cymdeithasol yn debygol o fod yn sylweddol. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw am becyn ysgogi deng mlynedd gwerth £4 biliwn sy’n cynnwys cymysgedd o gyllid cyhoeddus a phreifat i ôl-ffitio cartrefi cymdeithasol erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhaglen uchelgeisiol a beth bynnag fo’r raddfa y cytunir arni, bydd yn fuddsoddiad enfawr mewn cymunedau ledled Cymru. Pe bai perchnogion tai yn y sector preifat yn cael eu cymell i ôl-ffitio eu cartrefi hefyd, gallai’r buddsoddiad fod yn llawer mwy.

Mae manteision datblygu’r rhaglen hon yn cael cefnogaeth eang, am resymau dealladwy. Mae tai preswyl yn gyfrifol am 27 y cant o holl allyriadau carbon y DU (os cynhwysir allyriadau o drydan a ddefnyddir), ac mae cartrefi cymdeithasol yn cyfrannu tua 10 y cant o’r cyfraniad o dai. Felly mae datgarboneiddio tai cymdeithasol yn hanfodol i leihau allyriadau carbon.

Swyddi a Chyfleoedd Hyfforddi

Yn ôl Cartrefi Cymunedol Cymru [1] mae gan Gymru rai o’r stoc dai hynaf a lleiaf effeithlon yn y DU ac Ewrop. Adeiladwyd tua 32 y cant o stoc tai Cymru cyn 1919 ac mae 155,000 o aelwydydd yn dal i wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae CHC yn amcangyfrif y byddai adnewyddu hanner cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru, dros dymor nesaf y llywodraeth, yn cefnogi dros 12,000 o swyddi, yn creu 3,000 o gyfleoedd hyfforddi yn ogystal â chreu £2.5 biliwn mewn allbwn economaidd.

Un cwestiwn pwysig yw sut i wneud i’r buddsoddiad hwn ddigwydd mewn ffordd sy’n sicrhau cymaint â phosibl o enillion cymdeithasol. Bydd hyn yn hanfodol ar adeg pan nad oes llawer o gyfleoedd ar gyfer rhaglenni buddsoddi ar raddfa fawr oherwydd sefyllfa cyllid cyhoeddus yn y cyfnod ar ôl y pandemig.

Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau bod y rhaglen hon yn creu swyddi yng Nghymru a bod llawer o’r gwaith yn cael ei gyflawni gan fusnesau yng Nghymru. Felly, bydd unrhyw elw’n aros yng Nghymru a byddwn yn datblygu gweithlu medrus, a all, gobeithio, fynd ymlaen i wneud gwaith tebyg yn y sector preifat neu dyfu eu busnesau i weithredu y tu allan i Gymru. Efallai y bydd cymdeithasau tai a chynghorau lleol yn gallu datblygu eu gallu i wneud rhywfaint o’r gwaith eu hunain, ond maent bron yn sicr yn mynd i fod angen contractio rhan helaeth o’r gwaith. Mae angen gwneud gwaith i ddeall gallu presennol busnesau Cymru a’u helpu i baratoi ar gyfer y cyfleoedd. Fel arall, gellid colli’r contractau i fusnesau mawr nad oes ganddynt ymrwymiad hirdymor i Gymru.

Yn ail, dylem ystyried sut y gellid darparu rhaglen ôl-ffitio mewn ffordd gydweithredol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn annog integreiddio a chydweithredu. Eisoes mae 26 o gymdeithasau tai Cymru yn cydweithio â phartneriaid academaidd a diwydiant i greu’r adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno datgarboneiddio cartrefi ar raddfa fawr ledled Cymru. Mae hwn yn ddechrau gwych. Nid dim ond mewn ardaloedd daearyddol ar wahân y mae cymdeithasau tai yn gweithio. Maent yn aml yn berchen ar eiddo yn yr un ardal leol, felly mae’n gwneud synnwyr eu bod yn gweithio gyda’i gilydd.

Cynlluniau ôl-ffitio

Fodd bynnag, lle mae cynghorau lleol wedi cadw eu stoc tai, bydd angen ôl-ffitio eiddo hefyd. Os ychwanegwch chi gyrff cyhoeddus eraill, eu hadeiladau a pharodrwydd y sector preifat, bydd cyfle i chi gael cynlluniau ôl-ffitio sy’n gweithio gyda’i gilydd ar sail lle, yn hytrach na sefydliad. Gallai gweithio gyda’n gilydd arbed arian, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac arwain at raglen sy’n tarfu cyn lleied â phosibl ar bobl leol.

Dylid hefyd ystyried cynhyrchu ynni lleol (solar, gwynt, aer a system gwres o’r ddaear – hyd yn oed o byllau glo segur mewn rhai achosion) fel bod y cyflenwad ynni yn adnewyddadwy ac, os yw’n bosibl, mewn perchnogaeth leol. Mae’r argyfwng tanwydd a phrisiau nwy cynyddol yn gwneud hyn hyd yn oed yn bwysicach.

Mae rhai cymdeithasau tai eisoes yn edrych ar hyn. Bydd un cynllun yn goruchwylio’r gwaith o ôl-ffitio 650 o gartrefi yn Abertawe mewn partneriaeth â chyflenwr gwasanaeth a thechnoleg ynni adnewyddadwy. Fel rhan o’r prosiect, bydd paneli solar sydd wedi’u gosod ar y rhan fwyaf o’r cartrefi yn cael eu defnyddio i wefru batris unigol neu gymunedol a fydd yn cael eu gosod ym mhob cartref. Mae hyn yn golygu y gellir storio ynni adnewyddadwy i’w ddefnyddio wedyn gan y gymuned gyfan ac ni fydd y rhai nad yw eu cartrefi’n cael cymaint o olau haul o dan anfantais. Rhagwelir y bydd y prosiect yn golygu bod y gymuned yn cynhyrchu cymaint â 60 y cant o’i gofynion trydan, gan leihau biliau yn ogystal ag allyriadau carbon gymaint â 350 tunnell y flwyddyn.

Yn yr un modd, mae Egni Co-op yn datblygu cynlluniau ynni solar ar doeon yng Nghymru. Mae Egni Co-op yn dod â llawer o bobl ynghyd i fuddsoddi gyda’i gilydd mewn paneli solar ar doeon. Yn eu cynnig cyfranddaliadau cymunedol diweddaraf, maent wedi codi £4.5 miliwn o fuddsoddiad. Yna gosodir paneli solar ar adeiladau cymunedol, megis ysgolion a chanolfannau cymunedol. Yn ei dro, mae’r safleoedd hynny’n cael gostyngiad o 20 y cant ar eu trydan. Mae’r trydan a gynhyrchir yn gymwys i gael cymhorthdal gan y llywodraeth drwy’r Tariff Cyflenwi Trydan. Telir Egni am unrhyw bŵer dros ben sy’n cael ei allforio i’r Grid Cenedlaethol. Yna mae’r arian a godir yn llifo’n ôl i’r fenter gydweithredol, ac fe’i defnyddir i dalu llog i aelodau, yn ogystal ag i dalu am bethau fel cynnal a chadw parhaus a datblygu prosiectau yn y dyfodol. Mae Menter Gydweithredol Egni yn gweithio gydag adeiladau sydd â defnydd uchel ar y safle, yn hytrach nag eiddo domestig, ond maent yn cynnwys cartrefi gofal a chynlluniau tai gwarchod.

Datblygu partneriaethau

Gallai prosiectau rhwydwaith gwres chwarae rhan yn y gwaith o helpu i leihau allyriadau carbon a lleihau biliau pe bai partneriaethau’n cael eu datblygu gyda busnesau lleol. Mae rhwydweithiau gwres eisoes wedi’u cynllunio yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, lle bydd gwres dros ben yn cael ei gludo i adeiladau cyhoeddus yn yr ardal yn y cam cychwynnol. Cyfeirir at rwydweithiau gwres hefyd fel cynhesu rhanbarthol, bydd prosiect rhwydwaith gwres Caerdydd yn defnyddio pibellau o dan y ddaear i gludo gwres dros ben o Gyfleuster Adfer Ynni Viridor i adeiladau yn ardal Bae Caerdydd a’r cyffiniau. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd system newydd o bibellau dosbarthu yn mynd â gwres dros ben o safle gwres a phŵer cyfunedig a chyfleuster storio thermol. A ellid datblygu cynlluniau tebyg sy’n cynhesu cartrefi?

Ac yn olaf, mae angen i ni ystyried sut mae pobl leol yn cymryd rhan. Bydd y rhaglen ôl-ffitio hon yn tarfu ar denantiaid felly mae angen iddynt gael eu cynnwys er mwyn deall pam fod hyn digwydd a sut y gallent elwa. Os yw preswylwyr yn cymryd rhan, byddant yn gallu cael llais ynghylch pryd mae’r gwaith yn digwydd a sut. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws cael mynediad i eiddo. Gellir eu hysbysu hefyd am sut i ddefnyddio unrhyw dechnoleg newydd – thermostatau clyfar a rheolaethau gwresogi clyfar – i arbed cymaint â phosibl o ynni. Gallai preswylwyr hefyd fod yn rhan o’r gwaith o redeg cynlluniau cynhyrchu ynni fel mentrau cydweithredol cymunedol.

Efallai fod y rhaglen ôl-ffitio yn rhoi cyfle i wneud ychydig i leddfu’r teimladau a fynegwyd yn ystod refferendwm Brexit o gael eu gadael ar ôl. Mae anghydraddoldebau wedi gwaethygu ers hynny. Yn rhannol, roedd yr ymgyrch Brexit yn adlewyrchu pwysigrwydd asiantaeth a’r diffyg dylanwad ar lefel unigol a chymunedol. Mae’r rhaglen ôl-ffitio yn gyfle i roi ‘pŵer i’r bobl’, yn llythrennol, ac i drigolion gymryd rhywfaint o reolaeth yn ôl am yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal. Gallai’r rhaglen ôl-ffitio roi hwb enfawr i economi Cymru ar ôl Covid-19. Pe bai’n cael ei llunio fel rhaglen adnewyddu gymdeithasol ac economaidd, gallai wneud hynny mewn ffyrdd sy’n rhoi cyfle economaidd yn ogystal â chefnogaeth i gymunedau lleol.

Derek Walker yw prif weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru ac mae’r Athro Syr Adrian Webb yn gadeirydd Tai Calon ac yn gyn is-ganghellor Prifysgol Morgannwg. Mae’r erthygl hon yn fersiwn wedi’i diweddaru a argraffwyd gyntaf yng nghylchgrawn agenda Cymru a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig.

1. Maniffesto CHC ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021, ‘Cartref – Creu Cymru Well i Bawb.

Photo of Derek Walker

Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru

Photo of Professor Sir Adrian Webb
(Ffynhonnell y llun: taicalon.org)

Yr Athro Syr Adrian Webb, Cadeirydd Tai Calon

 

Cyfres blogiau Trawsnewid Cymru

Cymerwch gip ar flogiau eraill o'n cyfres Trawsnewid Cymru fel rhan o COP26.