Blog | Menter gymdeithasol | Policy

Mentrau Cymdeithasol: llywio dyfodol mwy ystyrlon yng Nghymru… ydyn ni’n gwneud gwahaniaeth, ydyn ni’n gwneud y gwahaniaeth iawn?

Jane Ryall yw Rheolwr Cymru UnLtd – The UK Foundation for Social Entrepreneurs. Yn y blog gwestai hwn ar gyfer Diwrnod Menter Gymdeithasol, mae Jane yn sôn am lunio cynllun gweithredu ystyrlon i helpu i ddatblygu sector Menter Gymdeithasol gryfach a mwy uchelgeisiol i fynd i'r afael â materion hanfodol sy'n wynebu Cymru.

By Ceri-Anne Fidler Jones · November 20, 2019

See this page in: English

Mae llawer ohonom ni sy’n gweithio yn y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn argyhoeddedig o rinweddau ein gwaith. Prin nad oes diwrnod yn mynd heibio heb i ni weld canlyniadau’r sefydliadau rydym ni’n eu cefnogi. Ac eto, yn aml rydym ni’n ei chael hi’n anodd rhagweld sut gall mentrau cymdeithasol helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau cymdeithasol mwyaf sy’n wynebu ein gwlad heddiw.

Bod yn onest

Gadewch i ni fod yn onest – gyda rhyw 2,000 o fentrau cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni’n griw amrywiol iawn – o ran maint, cwmpas, diben ac effaith. Dan arweiniad pobl ddawnus a diffuant, sydd â’r awydd a’r ysfa i newid pethau, efallai mai dim ond y rhai sydd wedi ennill eu plwyf sy’n hyderus am eu dyfodol a’u cynaliadwyedd hirdymor. Mewn ymdrech i dorri tir newydd, mae llawer yn cael trafferth canfod ffordd i mewn i’r farchnad, tyfu, ennill bywoliaeth a dangos tystiolaeth o’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud. A hwythau’n gweithio yn economïau bregus Cymru, maen nhw byth a hefyd yn gorfod profi eu bodolaeth ac ymateb i system sydd ddim yn gweithio iddyn nhw. Siawns fod y bobl a’r sefydliadau ymroddgar hyn yn haeddu gwell?

Y llynedd, daeth criw o staff o asiantaethau mentrau cymdeithasol gwahanol y wlad at ei gilydd i drafod sut gallwn ni roi cymorth mwy perthnasol ac effeithiol sy’n diwallu anghenion y bobl a’r sefydliadau rydym ni’n eu gwasanaethu yn well. Roeddem yn anhapus fod ein gwaith yn dal i gael ei ystyried fel rhywbeth ‘arbenigol’ ac yn rhwystredig ein bod ni methu â chyflwyno atebion mwy uchelgeisiol a chreadigol i’n cymunedau.

Felly, dychmygwch ddyfodol mwy uchelgeisiol ar gyfer mentrau cymdeithasol

Mae Janis, sylfaenydd gardd gymunedol, yn cynnig sesiynau gwaith a hyfforddi rheolaidd i bobl ar gyrion cymdeithas yng Nghwm Cynon. Mae’r feddygfa leol yn cyfeirio cleifion i’r ardd am therapi galwedigaethol ac iechyd meddwl gwell. Mae Janis yn gallu gwerthu cynnyrch yr ardd i’r ysgol gynradd leol. Mae plant yn defnyddio’r safle nid yn unig i ddysgu am yr amgylchedd a’r awyr agored, ond hefyd i fod yn garedig i eraill beth bynnag yw eu hoedran, cefndir a gallu. Mae yna siop ar y safle sy’n gwerthu bwyd ffres i’r gymuned, ac mae cerbyd trydan yn danfon cynnyrch ffres i’r rhai sy’n methu â dod i’w gasglu. Mae hyn yn sicrhau gwaith i berson lleol. Mae Janis a’i thîm yn helpu i sefydlu menter debyg yn y cwm nesaf. Yn y cyfamser, mae pobl garedig eraill yn ymuno â’r mudiad lleol hwn i gynnig eu sgiliau a’u hamser. Mae’r tonnau bach yn cynyddu…

Felly, sut gallwn ni helpu pobl fel Janis i ddatblygu’n gynt?

Sut mae denu ac annog pobl eraill fel Janis?

Aeth y grŵp (y Tasglu Mentrau Cymdeithasol*) ati i holi pobl, wyneb yn wyneb ac ar-lein. A dyma’r canlyniadau:

  • Rhaid i ni fod yn well am rannu negeseuon. Dim jargon, esbonio beth yn union yw menter gymdeithasol a sut mae’n gwneud gwahaniaeth ymarferol. Rhaid i ni ddylanwadu nawr – gan gynnwys ar y rhai mewn grym a’r genhedlaeth nesaf.
  • Mae angen i ni ddangos arweiniad. Ond beth yn union mae hynny’n ei olygu? Efallai fod angen i bawb yn y sector (ymgyrchwyr, cefnogwyr, buddsoddwyr) arwain o’r tu blaen. “Mae arweinydd yn gwneud y pethau iawn, nid yn gwneud pethau’n iawn”.
  • Beth am gydweithredu a dechrau cefnogi ein gilydd go iawn, rhannu syniadau, trafod problemau, gosod amcanion cyffredin, olrhain cynnydd – eto, mae hyn yn golygu pob un ohonom ni (ymarferwyr, cyllidwyr, cynghorwyr).
  • Mae mentrau cymdeithasol angen rhagor o arian, ond ble, sut a phryd? Mae busnesau cymdeithasol newydd angen arian hanfodol i ddechrau arni, ond wedyn mae’n rhaid iddynt ddysgu sefyll ar eu traed eu hunain, meddan nhw. Does dim modd gwneud hyn dros nos. Maen nhw angen cymorth ar y ffordd, i feithrin sgiliau, magu hyder a dod yn annibynnol. Yn union fel plentyn.
  • Gydag adnoddau prin, mae’n rhaid i ni gefnogi’r bobl a’r sefydliadau hynny sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf, y rhai sy’n herio’r status quo ac sy’n gallu addasu’r system gydag atebion newydd. Mae hyn yn golygu darparu rhagor o arian, rhwydweithiau ystyrlon a chymorth arbenigol.
  • Sut mae cynnig ein cymorth mewn ffordd sy’n gweithio i’n mentrau cymdeithasol? Trwy ryddhau ein gafael, buddsoddi mewn pobl a rhoi’r adenydd iddyn nhw hedfan. Trwy chwalu’r rhwystrau i gael gafael ar y cymorth cywir, osgoi ailadrodd a rhoi mentrau cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn.

Felly, beth nesaf? Nid grŵp caeedig yw “ein grŵp ni”. Yn hytrach, rydyn ni’n cymryd yr awenau wrth droi’r syniadau hyn yn gynllun gweithredu go iawn, yn barod ar gyfer 2020. Felly, dewch gyda ni ar daith i helpu i wneud “gwahaniaeth go iawn”.

*Mae’r Tasglu Mentrau Cymdeithasol yn cynnwys Antur Waunfawr, Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, DTA Wales, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd, Canolfan Cydweithredol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru.