Drive Taxis Caerdydd yn mynd ymhellach dros y rheiny mewn angen
Mae’r cwmni cydweithredol o Gaerdydd wedi bod yn mynd ymhellach i gefnogi staff y GIG a’r rheiny sydd mewn angen trwy gynnig gwasanaethau am bris gostyngol a theithiau siopa am ddim i bobl sydd heb rwydweithiau cymorth.
Gweler y dudalen hon yn: English
Fel nifer o fusnesau newydd a bach, mae Drive Taxis wedi wynebu heriau mawr i’w gwasanaethau, incwm a’i fodolaeth ers i gyfyngiadau symud Covid-19 ddod i rym. Ers cychwyn cyfnod cyfyngiadau symud y Llywodraeth, mae’r cwmni wedi colli 95% o’i waith o ran archebion o flaen llaw. Ar ben hynny, mae’r cwmni wedi colli hyd at 80% o’i archebion arferol hefyd. Mae’r anawsterau hyn wedi eu gwaethygu ymhellach o ganlyniad i’r nifer uchel o yrwyr sy’n hunan-ynysu. Ar un adeg, cwtogwyd eu gweithlu gan 50%.
Mae’r cwmni wedi ymateb i’r heriau hyn mewn nifer o ffyrdd cadarnhaol. Mewn ymdrech i ddarparu cefnogaeth i staff y GIG, gofalwyr a gweithwyr cymorth sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith, mae’r cwmni’n cynnig gostyngiad o 25% ar gost teithiau. Trwy’r cynnig hwn, roedd y cwmni eisiau anrhydeddu gwaith gofalwyr a staff cymorth, yn ogystal â gweithwyr y GIG.
Teyrnged Drive Taxi Caerdydd i holl staff y GIG, gofalwyr a gweithwyr cymorth:
Thank you to all #NHS staff, #carers and #supportworkers out there 🌈❤
We are always there for YOU to lean on if you need a ride to work or home after a long shift.
☎️ 02920140140 #letDRIVEtakeU #Cardiff #taxi #coop #DriverOwned #SafetyFirst #COVID19 #coronavirus pic.twitter.com/Z5bdCtP92J— DRIVE Taxis Cardiff (@letDRIVEtakeU) April 17, 2020
Os nad oedd darparu’r gostyngiadau hyn yn ddigonol, mae Drive Taxis Caerdydd wedi mynd ymhellach trwy gynnig teithiau siopa am ddim i’r rhai mwyaf anghenus. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu i’r bregus, yr henoed a’r rheiny sy’n hunanynysu ddefnyddio Drive Taxis Caerdydd i gasglu archebion ‘clicio a chasglu’. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau amser, ni all y gyrwyr giwio mewn archfarchnadoedd, ond gallant sicrhau bod archebion yn cael eu casglu a’u cludo i’r rhai mewn angen. Maent hefyd wedi bod yn casglu presgripsiynau ac eitemau hanfodol o siopau lleol.
Mae’r gwasanaeth hwn wedi bod yn achubiaeth i lawer. Yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud, gwnaeth y cwmni tua deuddeg o’r teithiau hyn. Erbyn yr ail wythnos, wrth i’r newyddion ledaenu, roedd y cwmni’n gwneud rhwng 5 a 10 o deithiau bob dydd. Hyd yma, mae Drive Taxis Caerdydd wedi gallu cefnogi pawb sydd wedi gofyn am help. Mae’n werth cofio nad yw’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn cael unrhyw gymorth ariannol allanol.
Mae aelodau Drive Taxis Caerdydd wedi bod yn dosbarthu i aelodau mwyaf anghenus y gymdeithas:
Yet another click and collect completed FREE of charge.
☎️ 02920140140#ClickAndCollect #letDRIVEtakeU #Cardiff #taxi #coop #DriverOwned #Cooperative #COVID19 #coronavirus pic.twitter.com/IBFRIciKWN
— DRIVE Taxis Cardiff (@letDRIVEtakeU) April 9, 2020
Thread 1
*UPDATE*
Shopping trips continue for the elderly, vulnerable and those self isolating Anything from your local convenience store we can collect the list from you and do the shopping FREE OF CHARGE!
If you click, then we will collect FREE OF CHARGE! pic.twitter.com/Wmw1wpuTFS— DRIVE Taxis Cardiff (@letDRIVEtakeU) April 7, 2020
Mae gwreiddiau’r stori hon yn adrodd cyfrolau am werthoedd y cwmni. Roedd Drive Taxis Caerdydd wedi neilltuo arian o’i blwyddyn gyntaf yn masnachu i fuddsoddi mewn system danfon newydd, i’w helpu i gystadlu yn y farchnad. Cytunodd aelodau’r cwmni cydweithredol yn unfrydol i ddefnyddio’r arian hwn i ariannu teithiau siopa rhad ac am ddim. Mae’r cwmni wedi pwysleisio ei fod eisiau cynnal y gwasanaeth hwn cyhyd â phosibl.
Sefydlwyd Drive Taxis Caerdydd fel cwmni cydweithredol ar 1 Mawrth 2019 i ddarparu cyflogaeth deg i grŵp o yrwyr tacsis yng Nghaerdydd ac, yn unol â’r egwyddor honno o degwch, maen nhw wedi bod yn cefnogi pobl eraill yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Yn ystod y cyfnod heriol hwn i fusnesau, mae straeon cadarnhaol am gwmnïau yn dewis helpu’r GIG a’u cymunedau yn rhoi hwb i bawb. Mae Drive Taxis Caerdydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r rheiny sydd heb rwydweithiau cymorth.
Oes gennych chi stori i #NewyddionDaCymru?
Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned neu os hoffech hyrwyddo eich gweithredoedd da, cysylltwch â ni er mwyn rhannu’r hanes.