Cefnogaeth ar gael
Gall ein tîm o arbenigwyr cyfeillgar gynnig cyngor a chefnogaeth ar draws ystod eang o feysydd.
Gweler y dudalen hon yn: English
Ein harbenigedd
Ers 1982, rydym wedi bod yn helpu i gryfhau a grymuso cymunedau Cymreig trwy gefnogi twf cydweithredol a mentrau cymdeithasol, a thrwy ddarparu prosiectau sy’n darparu sgiliau a mynd i’r afael ag allgáu.
Diolch i arian hael, rydym wrth ein bodd yn gallu rhannu ein harbenigedd a’n profiad ni yn rhad ac am ddim, fel y gallwch ganolbwyntio eich ymdrechion i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau ac amgylcheddau ledled Cymru.
Sut i ddefnyddio’r adran hon:
Isod, rydym wedi rhestru ein prif feysydd arbenigedd er mwyn i chi ddod o hyd i’r help a’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i’ch cyfeirio atoch ymhellach.
Gall ein tîm o arbenigwyr gynnig cyngor un i un i’ch helpu i sicrhau bod eich busnes yn ffynnu. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gallwn gynnig y cymorth hwn i chi’n rhad ac am ddim.
Cymorth sydd ar gael:
- Pennu Gweledigaeth – Gallwn gydweithio â’ch grŵp er mwyn sicrhau bod yna weledigaeth gyffredin ar gyfer y busnes
- Strwythur – Gallwn eich cynghori ar strwythurau cyfreithiol gwahanol a’ch helpu i ddewis yr un cywir ar gyfer eich menter newydd
- Ymgorffori – Gallwn helpu i ysgrifennu eich dogfen lywodraethu ac i ymgorffori eich busnes
- Hyfforddiant i gyfarwyddwyr – Gallwn ddarparu hyfforddiant ar gyfer eich cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod ganddynt hyder yn eu rolau a’u cyfrifoldebau
- Llywodraethu ac ymgysylltu â’r bwrdd – Gallwn eich helpu i sefydlu system lywodraethu ac ymgysylltu ag aelodau posibl o’r bwrdd
- Strategaeth fuddsoddi – Gallwn eich helpu i ddatblygu strategaeth fuddsoddi a’ch cynghori ar grantiau, benthyciadau, crowd funding a chyfranddaliadau cymunedol
- Cydymffurfiaeth a risg – Gallwn eich helpu i nodi unrhyw faterion neu risgiau’n ymwneud â chydymffurfiaeth sydd gan y busnes a sut gellir eu rheoli
- Polisïau – Gallwn eich helpu i greu polisïau er mwyn sicrhau bod eich sefydliad yn cael ei gynnal yn dda
- Agor cyfrif banc – Gallwn eich helpu i agor cyfrif banc ar gyfer eich menter newydd
Rydym yn falch o fod yn rhan o deulu Busnes Cymru, a gall ein harbenigwyr roi cymorth ychwanegol i chi gyda busnes a chynllunio ariannol.
Cymorth Mentora
Gall cychwyn busnes newydd fod yn heriol, a waeth pa mor dda yr ydych wedi’ch paratoi, mae yna rai pethau y gellir eu dysgu drwy brofiad yn unig. Er mwyn eich helpu i ymdopi â’r straen o ddechrau busnes, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag arweinwyr busnesau cymdeithasol profiadol a all ddarparu gwasanaeth mentora rhwng cymheiriaid. Gall hyn fod wyneb yn wyneb neu’n rhith, beth bynnag sy’n gweddu orau i chi a’ch busnes.
Cefnogaeth ar gael:
Os ydych chi’n rhan o fenter gymdeithasol sefydledig ac yn edrych i dyfu, ehangu neu arallgyfeirio, boed hynny trwy gynyddu trosiant, yn arallgyfeirio i gynhyrchion neu wasanaethau newydd, gan ddenu cwsmeriaid newydd neu newid strwythur, gallwn eich helpu chi. Trwy ein prosiect Busnesau Cymdeithasol Cymru (SBW) gallwn eich cefnogi gyda:
- Cynllunio Gweledigaeth a Thyfiant
- Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
- Cyngor ac Ymgorffori Strwythur Cyfreithiol
- Llywodraethu
- Datblygu’r Bwrdd
- Cynllunio Busnes
- Cynllunio Ariannol
- Datblygu’r Gweithlu
- Strategaeth Gwerthu a Chynllunio Marchnata
- Cyngor Treth a TAW
- Recriwtio ac Adnoddau Dynol
- Cynnig ar y Cyd
- Cymorth TGCh
- Cyngor Technegol Penodol i’r Sector
- Cynllunio Olyniaeth
- Strwythurau Perchnogaeth Gweithwyr
- Prisiadau Busnes Annibynnol
Gellir darparu cyngor ychwanegol ar feysydd fel eiddo deallusol a chefnogaeth masnach ryngwladol hefyd trwy ein cysylltiadau â Busnes Cymru.
Os ydych chi’n datblygu cydweithrediad tai, gall ein harbenigwyr eich helpu chi â:
- Darparu mynediad i arbenigedd a chyngor am dai cydweithredol
- Darparu cyfleoedd datblygu a hyfforddi sgiliau ar gyfer aelodau o gynlluniau tai cydweithredol
- Cyflenwi cyfleoedd rhwydweithio a rhannu arferion da
- Cynhyrchu ymchwil a all lywio datblygiad cynlluniau tai cydweithredol
- Datblygu canllawiau ar gyfer cynlluniau tai cydweithredol yn y dyfodol
P’un a ydych yn grŵp sydd â syniad ar gyfer cydweithredol newydd, darparwr gwasanaeth gofal presennol, neu efallai aelod o awdurdod lleol, bwrdd iechyd neu gymdeithas dai, gallwn eich cynorthwyo trwy ein Gofal i Gydweithredu prosiect.
Cymorth ar gael:
Gallwn …
- Dod â phobl at ei gilydd i drafod syniadau a meddwl am ffyrdd o weithio’n gydweithredol
- Helpwch ddatblygu syniad a phrofi a fydd yn gweithio’n ymarferol
- Eich helpu i feddwl am sut i reoli’r gwasanaeth fel bod pawb yn cael dweud sut mae’n cael ei redeg
- Darparu hyfforddiant ar bob agwedd ar redeg gwasanaeth cydweithredol
- Eich cefnogi gyda’r holl agweddau cyfreithiol ar sefydlu’r gwasanaeth
- Helpu i ail-ddylunio gwasanaethau presennol i fod yn fwy cydweithredol er mwyn i bobl gael llais cryf a rheolaeth o’u gwasanaethau
- Rhoi arweiniad ar gynllunio busnes, strwythurau cyfreithiol a llywodraethu
- Cynorthwyo partneriaid sydd am gomisiynu gwasanaethau gan gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol
Darganfyddwch fwy am y prosiect Gofal i Gydweithredu.
Trwy ein prosiect Cymunedau Digidol Cymru, gallwn helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl a allai elwa o gael sgiliau digidol sylfaenol.
Cymorth ar gael:
- Asesiad cynhwysiant digidol – Asesiad cychwynnol o’ch sefydliad er mwyn eich helpu chi i ddatblygu a darparu gweithgareddau cynhwysiant digidol.
- Hyfforddiant digidol i staff a gwirfoddolwyr rheng flaen – Hyfforddiant i aelodau staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn effeithiol ac yn ddiogel – mwy o wybodaeth.
- Benthyg offer digidol – Benthyciadau tymor byr o offer digidol, gan gynnwys llechi, gliniaduron a Fitbits er mwyn eich galluogi chi i ddarparu gweithgareddau digidol.
- Cymorth gwirfoddolwyr digidol – Cymorth i ddatblygu rhaglen gwirfoddoli digidol, paru sefydliadau â gwirfoddolwyr digidol a hyfforddi gwirfoddolwyr presennol. Yn ogystal, mae cyfleoedd ar gael i ymgysylltu â’n rhaglen Arwyr Digidol – mwy o wybodaeth.
- Achrediad cynhwysiant digidol – Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn dangos bod eich sefydliad wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag allgáu digidol – mwy o wybodaeth.
- Partneriaethau – Mae croeso i bob sefydliad ymuno â’n rhwydwaith o bartneriaethau Mynd Ar-lein, sydd wedi cael eu datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru. Yn ogystal, rydym yn datblygu partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n awyddus i gydweithio er mwyn datblygu nodau cynhwysiant digidol.
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn helpu busnesau i ddod yn eiddo i weithwyr ers ei sefydlu yn 1982. Mae cleientiaid nodedig yn cynnwys Glofa’r Tŵr, Tregoes Waffles a Chwmni Da. Mae’r Ganolfan yn helpu perchnogion a gweithwyr busnes yng Nghymru i ddewis y model cywir ac mae ganddo dîm o gynghorwyr arbenigol profiadol i’ch tywys trwy’r manylion cyfreithiol ac ariannol a broceru’r fargen gywir.
Rydym bob amser yn cadw mewn cof y darlun ehangach – yr etifeddiaeth hirdymor yr ydych am i’r busnes ei chreu ar gyfer gweithwyr a chwsmeriaid.
P’un a ydych chi’n berchennog cwmni, yn weithiwr neu’n gynghorydd proffesiynol, rydym yn cynnig arweiniad a chyngor ar eich helpu i ddod o hyd i’r model gorau ar gyfer eich llwybr at berchnogaeth gweithwyr.
Darperir cefnogaeth perchnogaeth gweithwyr trwy ein prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.
I ddarganfod mwy am berchnogaeth gweithwyr, ewch i’n tudalennau Ystyriwch Berchnogaeth gan Weithwyr.
Cynnwys cysylltiedig
-
Ein gwaith
Rydym yn cynnal prosiectau sy’n hyrwyddo cynhwysiant, yn darparu sgiliau i bobl ac yn cryfhau cymunedau a busnesau.
-
Pecynnau cymorth a chyhoeddiadau
Mae ein papurau ymchwil blaengar, pecynnau cymorth rhyngweithiol a’n canllawiau defnyddiol wedi’u creu i’ch ysbrydoli, hysbsyu a’ch cyfeirio chi i’r cam nesaf.