Gŵyl ar-lein i hybu mudiad technoleg er budd yng Nghymru
Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnal gŵyl ar-lein am wythnos ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn manteision technoleg ddigidol er mwyn sicrhau lles cymdeithasol.
Gweler y dudalen hon yn: English
Fel rhan o Wythnos Arweinwyr Digidol (12-16 Hydref), bydd yr ‘Ŵyl Tech Er Budd Cymdeithasol’ yn dod ag arbenigwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a’r sector busnes cymdeithasol at ei gilydd i rannu profiadau a gwybodaeth, gan ysbrydoli eraill i ystyried potensial technoleg ddigidol i wella bywydau pobl a’r cymunedau maent yn byw ynddynt.
Heddiw (Dydd Llun 12 Hydref), bydd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AS, yn lansio’r ŵyl ar-lein yn swyddogol. Dywedodd:
“Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi tynnu sylw at y rôl bwysig y mae technoleg ddigidol yn ei chwarae yn y gwasanaethau rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw a’n gallu i gysylltu â’n gilydd. Yn ogystal â bod â’r dechnoleg ei hun, mae’n bwysig bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o’i fuddion i’n cymunedau. Rwy’n falch iawn o fod yn lansio Gŵyl Tech Er Budd Cymdeithasol sy’n rhoi cyfle cyffrous i ni i gyd edrych ar yr heriau sy’n ein hwynebu, a sut y gall technoleg helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n haws eu defnyddio.”
Dywedodd Karen Lewis, Cadeirydd Arweinwyr Digidol Cymru a Chyfarwyddwr Ymgysylltu Allanol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:
“Yn ystod argyfwng Covid-19, rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o botensial cadarnhaol technoleg er budd cymdeithasol, gydag elusennau, mentrau cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn arallgyfeirio neu’n newid y ffordd y maent yn gweithredu er mwyn goroesi a ffynnu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Ond os bydd darparu gwasanaeth digidol yn dod yn rhan o’r normal newydd ar ôl Covid-19, sut y gall sefydliadau gyd-ddylunio, adeiladu a defnyddio technoleg yn well er mwyn cyflawni eu canlyniadau busnes a’u canlyniadau cymdeithasol?
“Yr Ŵyl Tech Er Budd Cymdeithasol yw ein cyfle i ddod ag unigolion a sefydliadau sy’n frwd dros botensial technoleg at ei gilydd i wella bywydau, bywoliaethau a chymunedau pobl. O drafodaethau dan arweiniad panel sy’n ysgogi’r meddwl i brofiadau dysgu ymarferol ac uniongyrchol, bydd yn gyfle i gymryd rhan a chael eich ysbrydoli.”
Bydd un o’r digwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Ŵyl Technoleg yn ystyried sut mae technoleg Realiti Rhithwir (VR) yn trawsnewid y sector iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Bydd dau arbenigwr yn y maes hwn, sef Simon Jones a Matt Wordley, yn dangos enghreifftiau o gynhyrchion VR yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys VR mewn cartrefi gofal gyda chleifion dementia a helpu staff rheng flaen y GIG yn ystod y pandemig.
Simon Jones yw Cynghorydd Cymunedau Digidol Cymru ar gyfer Gogledd Cymru. Drwy ei waith gydag ysbytai a chartrefi gofal, mae Simon Jones wedi dangos sut y gall technoleg Realiti Rhithwir (VR) helpu pobl â dementia. Y llynedd, ffurfiodd Simon bartneriaeth o sefydliadau, gan gynnwys BBC Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, Alzheimer’s Society Wales ac arbenigwyr meddygol i gynhyrchu deunydd VR newydd sy’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Penderfynodd Matt Wordley ffurfio Rescape yn 2019 ar ôl gweld bod effaith VR yn newid gofal iechyd a llesiant cleifion yn llwyr. Eleni, mae’r cwmni wedi llwyddo i godi £480k i hyrwyddo ei ymchwil glinigol a datblygu cynnyrch, sy’n cynnwys gwerthusiad gwasanaeth diweddar o’r platfform ar gyfer lleihau pryder i staff rheng flaen y GIG – sydd bellach yn symud ymlaen tuag at gynllun peilot RCT aml-safle ledled y DU.
Bydd y prif siaradwyr eraill yn ystod yr wythnos yn cynnwys Sangeet Bhullar, Cyfarwyddwr Gweithredol WISE KIDS, Ross McCulloch, Cyfarwyddwr Third Sector Lab, Dan Sutch, Cydsylfaenydd CAST a Zoe Amar, a gafodd ei phleidleisio’n un o’r 25 arweinydd elusennol mwyaf dylanwadol gan Charity Times yn ddiweddar.
I drefnu eich lle am ddim yn Ngŵyl Tech Er Budd Cymdeithasol yr wythnos nesaf, ewch i’w gwefan.
Beth yw Technoleg er Budd?
Mae Technoleg er budd cymdeithasol yn disgrifio mudiad a chymuned o bobl sy’n frwd dros fanteisio ar botensial technoleg i gael effaith gymdeithasol gadarnhaol. Mae’n ymwneud â chael atebion technolegol i wella pethau i bobl, cymdeithas a’r blaned ac wrth wraidd hyn y mae’r ymrwymiad i roi pobl yn gyntaf.