Hacio’r Dyfodol

Ysbrydoli entrepreneuriaeth gymdeithasol drwy ail-ddychmygu'r syniad o hacathon

Gweler y dudalen hon yn: English

Roedd gan weithwyr chwarel canoloesol gredo. Mewn un frawddeg, roeddent yn cysylltu eu galwedigaeth ddinod â rhywbeth llawer iawn mwy: “Rhaid i ni sy’n torri cerrig fod yn dychmygu cadeirlannau”.

Rhaid i addysgwyr menter ofyn am bob un o’u gweithgareddau, “Beth ydym ni’n ei ddychmygu? Pa adeiladwaith fydd y sgiliau hyn yn ei ddatblygu? Beth yw’r telos, y nod terfynol i unigolion, i’r gymdeithas, a’n byd?”

Mae ein pobl ifanc angen dyfodol o waith ystyrlon, sy’n rhoi boddhad, sy’n greadigol, yn gydweithredol, yn gynaliadwy ac yn gymdeithasol gyfrifol. Maent angen modelau i’w hefelychu a phatrymau i’w dilyn i’w harwain yno. Maent angen llawer mwy na gwybodaeth am fentrau cymdeithasol. Mae angen eu cyfareddu gyda gweledigaeth gwell o fusnes. Mae angen iddynt ddatblygu sgiliau sy’n cynorthwyo’r weledigaeth honno. Mae angen eu hysgogi i weithredu.

Sut mae cael pobl, yn enwedig pobl ifanc, i ymgysylltu â syniadau entrepreneuriaeth gymdeithasol a’r model busnes cymdeithasol, yn y byd sydd ohoni? Fy ateb i hynny yw cymryd rhannau o’r model hacathon, a datblygu fersiwn menter gymdeithasol ohono, sy’n gweithredu mewn modd cwbl wahanol. Yr enw y rhoddais arno yw’r Hac Caredigrwydd.

Nodwedd o fyd technoleg yw digwyddiadau hacathon, neu “farathonau hacio”. Fel arfer, mae hacathon yn cynnwys datblygwyr meddalwedd, codwyr, dylunwyr, ac ‘anoracs’ eraill yn gweithio’n ddyfal gyda’i gilydd ar broblemau, syniadau ac atebion dros gyfnod o 24 neu 48 awr.

Wrth i’r cysyniad ddatblygu mae’n aml wedi cynnwys elfen gystadleuol, gydag arian pitsio a gwobr ar ddiwedd yr hac. Mae hacathon yn dir ffrwythlon ar gyfer gwaith dwys, rhwydweithio, a syniadu a datblygu cynnyrch. Erbyn hyn, mae hacathonau wedi esblygu y tu hwnt i’r byd technoleg i lwyfannau ehangach dinesig, iechyd ac addysgol.

Hac Caredigrwydd

Treuliais y flwyddyn ddiwethaf yn ail-ddychmygu ac ail-fframio’r cysyniad o hacathon er mwyn ysbrydoli, ysgogi ac ymgysylltu pobl â mentrau ac entrepreneuriaeth gymdeithasol. Rwyf wedi profi dau fodel Hac Caredigrwydd.

Byddaf yn cyfeirio at y cyntaf o’r rhain fel model “yn y gymuned”.  Defnyddiwyd hwn mewn lleoliadau allgyrsiol addysg bellach ac uwch, ac mewn digwyddiadau Hac Caredigrwydd lleol a rhanbarthol gyda demograffeg ehangach (agored i fyfyrwyr ac unrhyw un sydd am gymryd rhan er budd eu hardal leol). Mae’r model cymunedol hwn yn creu syniadau newydd am fentrau cymdeithasol ar gyfer mynd i’r afael â materion cymdeithasol penodol, gyda’r potensial i’r rhain ddod yn fusnesau.

Mae’r ail fodel Hac Caredigrwydd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar gwricwlwm lefel prifysgol. Gyda’r model yma’n benodol ymgysylltais â myfyrwyr lefel Meistr o Ysgol Fusnes Caerdydd i greu cynlluniau datblygu, strategaethau ac ymgyrchoedd newydd ar gyfer busnesau cymdeithasol, ond mae gan y model hwn gymhwysedd ar gyfer lefelau addysgol a meysydd pwnc eraill.

Yn y model cymunedol, mae’r cyfrifoldeb ar gyfranogwyr sy’n symud o broblemau cymdeithasol i atebion sy’n seiliedig ar fenter sydd â’u sail yn eu syniadau busnes eu hunain. Yn y model cwricwlwm, mae myfyrwyr marchnata a strategaeth wedi gweithio ar ddatrys problemau a syniadu byw i gefnogi busnesau cymdeithasol sy’n bodoli eisoes. Mae gan y model sail cwricwlwm ddefnydd rhyngddisgyblaethol clir.

Ehangu methodoleg hacathon

Mae’r elfen dechnolegol wedi bod yn eilbeth yn y ddau fodel hyn. Mae hyn yn rhan o ail-ddychmygu’r model hacathon fel proses a phrofiad o ddysgu a datblygu. Rhoddwyd y pwyslais mwyaf ar y modd cydweithredol a democrataidd o greu a llunio syniadau newydd. Ni all technoleg ddigidol fod yn absennol o’r dull hwn, ond nid yw digwyddiadau Hac Caredigrwydd gyfystyr â datblygu cynhyrchion digidol er llesiant cymdeithasol. Nid yw atebion tech-gyntaf o reidrwydd yn cael eu hystyried fel YR ateb i bob problem gymdeithasol.

Beth sy’n digwydd mewn Hac Caredigrwydd menter gymdeithasol?

Er bod gwahaniaethau rhwng y modelau cymunedol a’r modelau cwricwlwm, mae hanfod y profiad hacathon yn parhau. Pobl yn gweithio mewn timau, cydweithredu, cydweithio, bod yn greadigol, a datblygu syniadau fydd yn creu elw er gwell y gellir ei ail-fuddsoddi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau.

Er mwyn ysgogi’r timau wrth iddynt weithio gyda’i gilydd, rydym yn cynnal cyfres o weithdai sbrint ar fentrau cymdeithasol, mapio asedau, meddwl yn greadigol, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, cyllideb ac ariannu menter newydd, gwaith tîm, gweithio gyda rhanddeiliaid, a sgiliau pitsio.

Ar ddiwedd pob digwyddiad gwahoddir y timau i gyflwyno’u syniadau i banel o feirniaid er mwyn derbyn adborth. Mae rhai pobl yn cynnig datrysiadau technolegol, ond mae eraill yn cynnig syniadau newydd ar sut y gellir defnyddio asedau cymunedol, ac mae eraill wedi canolbwyntio ar gefnogi grwpiau difreintiedig.

Mae timau’n gyson wedi creu syniadau i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, tlodi bwyd, heriau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a chorfforol, anghydraddoldeb, llesiant, diweithdra, ac mewn dod â chymunedau at ei gilydd mewn modd cadarnhaol. Mae’r holl syniadau hyn wedi’u plygu drwy lens y model busnes cymdeithasol.

Digwyddiadau Hac Caredigrwydd mewn rhifau

Pan lansiais i Hac Caredigrwydd Wrecsam ar 5 Mawrth 2020, hwn oedd yr hacathon menter gymdeithasol cyntaf i’w gynnal yng Nghymru. Roedd yn hac 12 awr gyda 42 o bobl, yn cael ei gynnal yn yr Hwb Menter yn Wrecsam. Dilynwyd hyn, wythnos yn ddiweddarach, gyda hac 12 awr arall, y tro hwn gyda 90 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Ers hynny, rwyf wedi cynnal haciau ar-lein dros bump neu saith diwrnod (naill ai yn ystod y dydd neu dros nos i weddu i wahanol gynulleidfaoedd). Mae’r rhain wedi cynnwys digwyddiadau cymunedol, rhai’n seiliedig ar y cwricwlwm ac eraill yn allgyrsiol.

Dyma’r rhifau o’r hacathonau:

  • 5 hacathon menter gymdeithasol
  • 445 o gyfranogwyr
  • 383 o fyfyrwyr yn cymryd rhan (AB ac AU)
  • 22 o sefydliadau partner

Mae gweithio mewn partneriaethau wedi bod yn hanfodol i alluogi hyn. Mae pob digwyddiad wedi’i gynnal neu ei gefnogi gan Ganolfannau Menter, Hyrwyddwyr Menter mewn sefydliadau AB ac AU, staff Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, Syniadau Mawr Cymru, academyddion, entrepreneuriaid cymdeithasol, a’r cyllidwyr UnLtd, Sefydliad Cymunedol Cymru a Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (BCC).

Yn bwysicaf oll, mynychwyd y digwyddiadau gan gyfranogwyr o bob cefndir a phob oed ac o ledled Cymru, neu’n astudio yng Nghymru, sy’n caru eu cymunedau ac sydd am weld dechrau ar fentrau cymdeithasol newydd cadarnhaol.

“Nid cystadleuaeth mo hon”

Y gwahaniaeth mawr rhwng Hac Caredigrwydd yn y gymuned a mathau eraill o hacathonau yw nad ydynt yn gystadleuaeth. Nid oes gwobr ariannol. Nid ydym ‘chwaith yn chwilio am y syniad ‘gorau’, gan nad yw ‘gorau’ yn gategori moesol. Byddai’n dda pe gallwn ddweud bod y dull hwn yn glir i mi o’r dechrau. Cefais epiffani wrth siarad yn sesiwn agoriadol yr Hac Caredigrwydd cyntaf, lle gwyddwn fod yr elfen gystadleuol yn wirioneddol estron i ethos yr hyn yr oeddem eisiau ei gyflawni.

Yn hytrach na chwilio am syniad ‘buddugol’ ym mhob digwyddiad, roeddem am i gynifer o syniadau da ddod i’r amlwg â phosib, yn ogystal â chael cynifer o bobl â phosib yn gweithio mewn awyrgylch cydweithredol gyda’r ffocws ar wneud lles mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hyn yn trawsnewid elfen pitsio’r digwyddiad i fod yn un ddathliadol, wrth i’r gymuned o bobl sy’n dod at ei gilydd ar gyfer y Hacathon gydnabod eu potensial i wneud lles o ystod eang o syniadau.

Er nad yw Hac Caredigrwydd yn gystadleuaeth, mae’n gatalydd i bobl gyflwyno’u syniadau a chael cymorth busnes a help i gael cyllid. Dyma’n union yr ydym wedi’u gweld fel canlyniadau cynnal hacathonau mentrau cymdeithasol.

Hac Caredigrwydd y Colegau AB

Mewn deuddeg mis o dorri tir newydd, daeth y digwyddiad diweddaraf ag 85 o ddysgwyr o bum coleg ledled Cymru at ei gilydd ar gyfer Hac Caredigrwydd deuddydd ar-lein o’r 8-9 Chwefror 2021. Seliwyd y digwyddiad ar ddatblygu syniadau busnes cymdeithasol i gefnogi ein cymunedau wrth iddynt adfer o’r pandemig. Dysgodd y myfyrwyr a gymerodd ran am y ffyrdd mae mentrau cymdeithasol yn gweithio a datblygu eu syniadau am fentrau cymdeithasol eu hunain. Wrth wneud hyn, roeddent hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol.

Roedd yn ddau ddiwrnod dwys gyda chynigion yn seiliedig ar therapi ceffylau, cynnyrch cŵn, apiau iechyd meddwl, beicio, cefnogi teuluoedd nad oedd efallai’n gallu fforddio offer chwaraeon, awtistiaeth a chaffis iechyd a llesiant, cefnogi cartrefi gofal gydag iPads, caffi sy’n cefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gyflogaeth, a llawer mwy.

Mae’r myfyrdodau gan ddysgwyr yng Ngholeg Cambria yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad i’r digwyddiad:

“Roedd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am redeg busnes, roedd yn her dda ac fe wnaethon ni ei fwynhau. Meddylion ni i gyd am syniad am fenter gymdeithasol ac roeddem am i’r elw gael ei roi tuag at gyflogau ac elusen i bobl anabl, derbyniodd lawer o adborth cadarnhaol.” (Riccardo)

“Rydyn ni’n credu y dylai pobl anabl dderbyn yr un cyfleoedd mewn cyflogaeth â phawb arall. Roedd cyflwyno o flaen y beirniaid yn brofiad eithaf nerfus gan ein bod yn erbyn y cloc, ond roedden nhw’n blês efo’n syniad.” (Ben)

Rydym eisoes wedi gweld rhai o’r cyfranogwyr yn mynd at Dechrau Newydd Busines Cymru am gymorth i sefydlu fel mentrau cymdeithasol newydd.

Athroniaeth ac ethos Hac Caredigrwydd

Wrth wraidd methodoleg Hac Caredigrwydd mae pedair cred graidd:

Mae’r dull hwn yn herio entrepreneuriaeth unigolyddol ac yn cynnig dewis amgen cynhwysol yn seiliedig ar weithio fel tîm. Mae’n gydweithredol ac yn ddemocrataidd, yn credu gall syniadau da ddod gan unrhyw un a bod cyfrifoldeb am benderfyniadau a pherchnogaeth yn un wedi ei rannu. Y neges i bawb sy’n cymryd rhan yw “Eich llais, eich syniadau, eich doniau, eich angerdd, mae pob un o bwys ac yn gallu gwneud gwahaniaeth”.

Yn hytrach nag amgylchedd goddefol lle byddwch yn cael talpiau o wybodaeth am fentrau cymdeithasol, mae’r model hwn yn ymwneud â dysgu gweithredol mewn amgylchedd cyflym. Does dim diogi mewn digwyddiad Hac Caredigrwydd; mae gofyn am gyfranogi gweithredol o dan bwysau amser a’r angen i ddatblygu cynnig. Yn bedagogaidd, mae hyn yn hynod arwyddocaol.

Yn y fethodoleg hon mae cynhyrchu incwm yn genhadaeth gymdeithasol, nid yw’n nod ynddo’i hun. Rydym yn ysbrydoli math o entrepreneuriaeth sy’n cychwyn gyda chydwybod gymdeithasol ac yn plotio llwybr gyrfa gadarnhaol, diogel a buddiol i’w ddilyn, ond nid yw’n ystyried llesiant cymdeithasol ac amgylcheddol fel pethau ychwanegol neu ddewisol.

Os yw stori entrepreneuriaeth hyd yn hyn wedi bod yn un o lwyddiant rhai sy’n creu cyfoeth, gallwn gywiro’r camgymeriad hwn wrth i ni fynd yn ddyfnach i mewn i’r ganrif gan ymrwymo addysg menter i hierarchaeth well o flaenoriaethau busnes.

Rydym wedi etifeddu ffordd o feddwl am fusnes sy’n barod iawn i siarad am gystadleuaeth ac efallai’n llai parod i siarad am gydweithredu. Nid yn unig y mae angen i ni ail-werthuso pensaernïaeth dewis y ffordd hon o feddwl, ond drwy’r fethodoleg hon gallwn gyflwyno profiad cadarnhaol a hael o gydweithio, a meddylfryd cydweithredol i fusnes a newidiadau cymdeithasol.

Mae’r model Hac Caredigrwydd yn fanylyn bychan mewn darlun ehangach o ymgorffori entrepreneuriaeth a menter gymdeithasol yn ein system addysg. Ond mae’n profi i fod yn ffordd effeithiol o ymgysylltu’n greadigol â chrewyr newid y dyfodol, gyda’r model cymunedol a’r model cwricwlwm. Wrth sôn am y dull hwn, dywedodd Dr Jane Lynch, Darllenydd mewn Caffael ym Mhrifysgol Caerdydd, “Mae’r gwaith hwn yn un o’r ychydig ymgyrchoedd fydd yn achosi newid go iawn”.

Gan ddechrau ym mis Ebrill gyda hacathon menter gymdeithasol ar gyfer holl brifysgolion Cymru, bydd 2021 a thu hwnt yn gweld mwy a mwy o bobl yn cydweithredu ac ymgysylltu â mentrau cymdeithasol gyda gwir ymlyniad.

Portrait of Martin Downes

Martin Downes FRSA yw’r Swyddog Entrepreneuriaeth Gymdeithasol ar raglen Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru a chrëwr yr Hac Caredigrwydd.

Y newyddion diweddaraf