Preswylwyr Hayes Point yn ffurfio cwmni cydweithredol i brynu rhydd-ddaliad yr adeilad i wella cartrefi

Daethant at ei gilydd ac gwmni hawl i reoli, gan ennill yr hawl i reoli Hayes Point.

See this page in: English

Nid yw’n anodd gweld pam y dewisodd preswylwyr Hayes Point yn Sili fyw mewn ardal mor hardd.
Maent fater o eiliadau o’r môr, wedi eu hamgylchynu ag erwau o dir, ac yn byw mewn rhandai sydd wedi’u datblygu o adeilad a gafodd ei ddynodi ar un adeg yn “enghraifft ragorol o’r bensaernïaeth rhwng y rhyfeloedd”.

Ysbyty Sili, a godwyd yn 1936, oedd Hayes Point yn wreiddiol, lle câi cleifion twbercwlosis eu trin. Yn dilyn hynny, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd yr adeilad ei ddefnyddio gan fyddin yr Unol Daleithiau, ac yna bu’n ysbyty seiciatryddol nes cael ei gau yn 2001.

Prynwyd yr adeilad rhestredig Gradd II gan Gilliard Homes yn 2007, ac aeth y datblygwr ati i’w droi yn 236 o randai moethus. Ond yna daeth y dirwasgiad, pan nad oedd mwy na hanner y rhandai wedi eu gwerthu, a gostyngwyd eu prisiau’n sylweddol iawn.

Teimlai’r preswylwyr nad oedd y gwaith o reoli’r safle a chynnal a chadw’r tir cystal â’r disgwyl. Daethant at ei gilydd ac, er gwaethaf llawer o rwystrau cyfreithiol cymhleth, sefydlwyd, yn y pen draw, gwmni hawl i reoli, gan ennill yr hawl i reoli Hayes Point.

"Rydym yn gymuned lewyrchus sy'n byw mewn lle hardd, ac rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir..."

Peter Milford, cyfarwyddwr Rhydd-ddeiliadaeth ar y Cyd Hayes Point

Mae Hayes Point yn cael cymorth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i gofrestru fel model cydweithredol er mwyn ei alluogi i brynu’r rhydd-ddeiliadaeth fel bod y cyfrifoldeb rheoli yn cael ei drosglwyddo o’r cwmni hawl i reoli presennol i’r lesddeiliaid. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn cefnogi ac yn hyrwyddo twf tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned oddi ar 2012 ac, ym mis Ebrill eleni, lansiodd ei raglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, sy’n anelu at ysgogi’r galw am dai dan arweiniad y gymuned ledled Cymru.

Mae dros 30 o gynlluniau eisoes ar waith ar hyd a lled Cymru, a gall cymunedau gael eu creu i ddibenion a gweledigaethau ar y cyd gwahanol. Mae rhai cynlluniau wedi cael eu creu i ddarparu tai mwy fforddiadwy ar gyfer preswylwyr, tra bo eraill wedi cael eu datblygu ar gyfer pobl a oedd am gael gwell ffordd ecogyfeillgar o fyw.

Un esiampl yn unig o fywyd cydweithredol dan arweiniad y gymuned yw Hayes Point, lle mae’r grŵp, sy’n cynnwys cyfuniad o breswylwyr o bob cefndir, gan gynnwys peiriannydd, cyfreithiwr wedi ymddeol a gweithiwr yn y GIG, yn gweithio i wneud y fan lle maent yn byw yn well lle.

Dywedodd Peter Milford, cyfarwyddwr Rhydd-ddeiliadaeth ar y Cyd Hayes Point:

“Mae pob un o’r 236 o randai wedi cael eu meddiannu, naill ai gan lesddeiliad neu fel eiddo rhent, ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl, o deuluoedd ifanc i rai sydd wedi ymddeol.

“Sefydlwyd y grŵp Hawl i Reoli yn 2014, yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol. Yn 2015, cafodd y rhydd-ddeiliadaeth ei gwerthu i Avon Ground Rent Ltd, a geisiodd wedyn ddiddymu’r Grŵp Hawl i Reoli a sefydlu ei gwmni rheoli ei hun yn ei le. Ar ôl anghydfod cyfreithiol drud a hir, gwnaed cytundeb yn y diwedd i Hawl i Reoli Hayes Point reoli’r safle fel asiant y rhydd-ddeiliadaeth, a hynny am gyfnod o dair blynedd.

“Y nod cyffredin yw prynu’r rhydd-ddeiliadaeth gan fynd ati ar y cyd i wella’r fan lle rydym yn byw. Pan gafodd y datblygiad ei adeiladu, cawsom addewid o ardal chwarae a chanolfan gymunedol, ond does yr un o’r rhain wedi dwyn ffrwyth eto. Mae gennym ofod cymunedol bach sy’n dal tua 20 o bobl, ond mae arnom angen un llawer mwy ar y safle ar gyfer 500 a rhagor o bobl. Mae’n safle mawr. Mae gennym sawl erw ar lan y môr yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Ers ennill y cytundeb, mae Hawl i Reoli Hayes Point wedi gweithio’n galed i glirio’r llwyth o waith cynnal a chadw a oedd wedi cronni.

“Rydym yn gymuned lewyrchus sy’n byw mewn lle hardd, ac rydym yn symud i’r cyfeiriad cywir, ond nid yw hyn oll ddim wedi bod heb ei anawsterau. Ni allwn mewn gwirionedd wneud y cyfan y mae angen i ni ei wneud nes y byddwn yn gallu prynu’r rhydd-ddeiliadaeth, a hynny yw ein nod terfynol. Mae gennym leoedd parcio yma, ond yn y pen draw, bydd ar bobl angen lleoedd parcio gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan, a bydd yn ofynnol i ni edrych ar eitemau megis paneli solar. Mae’r rhain i gyd yn ystyriaethau hirdymor.

Eisiau sefydlu cynllun tai tebyg? Cysylltwch â ni.

co-op.housing@wales.coop

Cynnwys cysylltiedig