Ymholiad: Economi Cymru a Covid-19

Yn ddiweddar, lansiodd y Pwyllgor Materion Cymreig ymchwiliad i ganlyniadau economaidd Covid-19 i Gymru, a’r cymorth sy'n ofynnol i gefnogi busnesau 'nawr ac yn y dyfodol. Mae'r Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Catherine Evans, yn crynhoi ymateb y Ganolfan.

See this page in: English

Roedd ymholiad y Pwyllgor Materion Cymreig i ganlyniadau economaidd Covid-19 i Gymru yn gofyn pa gymorth a fydd yn ofynnol i gefnogi economi Cymru yn ystod y pandemig, ac yn y cyfnod ailadeiladu dilynol. Cyflwynodd Canolfan Cydweithredol Cymru ymateb a oedd yn tynnu sylw at yr effaith economaidd ar fusnesau cymdeithasol, a’r rôl y gallant ei chwarae yn y broses o ailadeiladu Cymru.

Bu i ni bwysleisio bod nifer sylweddol o fentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ‘seiliedig ar le’. Mae’r sectorau mwyaf cyffredin yn cynnwys y celfyddydau/adloniant/hamdden; iechyd a gofal; addysg; a chanolfannau cymunedol/lleoedd cymdeithasol/gwasanaethau clybiau ieuenctid. Gyda’i gilydd, mae’r pedwar sector hyn yn cyfrif am 65% o’r holl fusnesau cymdeithasol, a byddai’r rhain yn cynnwys y rhai sy’n gweithio mewn diwydiannau tymhorol megis twristiaeth. Gofynnom am i ystyriaeth gael ei rhoi i’r canlynol:

  • Cynnal y cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd i adlewyrchu’r ffaith na fydd llawer o fusnesau tymhorol yn gallu cynhyrchu unrhyw refeniw tan y Pasg 2021;
  • Darparu dull ymadael graddol o’r cynllun ffyrlo gan y bydd busnesau tymhorol wedi colli eu tymor masnachu cyfan yn 2020, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt ddod â staff yn ôl yn rhan-amser i ddechrau;
  • Parhau i ddarparu cymorth busnes penodol i fentrau cymdeithasol er mwyn diwallu anghenion gwahanol y busnesau cymdeithasol, er enghraifft o ran cyllid a strwythur;
  • Cymorth ychwanegol ar ôl Covid-19 ar gyfer prynu gweithwyr, uno, neu greu cwmnïau a chonsortia cydweithredol.

Bu i ni nodi bod y cyllid brys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn hanfodol i gefnogi mentrau cymdeithasol i oroesi’r pandemig. Aeth y llywodraeth yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig ati yn brydlon i warchod busnesau a swyddi. Roeddem hefyd yn croesawu hyblygrwydd byrdymor Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd wedi galluogi rhaglenni i newid eu pwyslais oddi ar dwf a chreu swyddi i oroesi a diogelu swyddi. Mae’r hyblygrwydd hwn wedi caniatáu i ni ymateb i anghenion brys y sector busnes cymdeithasol, a dylai hyn barhau yn y tymor canolig a’r tymor hwy i sicrhau cymorth i ailadeiladu’r sector

O ran cronfeydd y dyfodol, nodwyd gennym fod llawer o fusnesau cymdeithasol yn dal i fod yn poeni am effaith Brexit, a cholli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, ar eu busnesau. Mae yna alw brys am eglurder ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig, a fydd yn disodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ledled y Deyrnas Unedig. Gofynnom hefyd am i gyllid tymor canolig fod mor hyblyg â phosibl i ganiatáu i fusnesau cymdeithasol bontio’r bwlch rhwng cyllid brys ac ailadeiladu ffrydiau incwm.

Wrth feddwl am gymorth ar gyfer rhannau o’r gymdeithas, nodwyd gennym y dylid annog pobl sydd newydd gael eu gwneud yn ddi-waith i ystyried modelau busnes cymdeithasol, er enghraifft mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Gall dechrau busnes newydd fod yn frawychus, ond gallai mynd ati i’w sefydlu ar y cyd â phobl eraill – gan ddefnyddio dull cydweithredol – helpu’r di-waith newydd i adeiladu busnes iach ac effeithiol sy’n seiliedig ar degwch a rhannu cyfrifoldebau. Bu i ni amlygu hefyd y gall cwmnïau cydweithredol a chydweithrediad chwarae rhan bwysig o ran meithrin cydnerthedd i helpu i leihau teimladau o unigrwydd ac o fod yn ynysig. Mae tai a gofal cymdeithasol yn sectorau lle mae hyn yn arbennig o wir.

Mae’r Ganolfan o’r farn bod adferiad yn darparu cyfle i fabwysiadu dull ‘o’r gwaelod i fyny’ o ailadeiladu economi gydnerth yng Nghymru. Teimlwn y dylid rhoi ystyriaeth i adeiladu economi sylfaenol gadarn, sy’n ymgorffori egwyddorion economi fwy gwyrdd a chylchol.

Mae’r argyfwng Covid-19 wedi dangos yn eglur bwysigrwydd cymdeithasol yr economi sylfaenol i weithrediad bywyd o ddydd i ddydd. Pan fydd y pandemig drosodd, bydd angen i ni fynd ati i gydbwyso mewn modd gwahanol, gan symud oddi wrth yr economi fasnachol a chystadleuol tuag at yr economi sylfaenol, a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau dyddiol, hanfodol sy’n sail i ansawdd bywyd a chynaliadwyedd. Bydd cefnogi’r rhan hon o’r economi yn gwella’r seilwaith ffisegol, er enghraifft cyfleustodau, yr isadeiledd gweithredu, er enghraifft bancio a chadwyni cyflenwi bwyd, a gwasanaethau megis gofal cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, mae busnesau sylfaenol wedi’u hangori yn eu cymunedau; mae’r buddsoddiad ynddynt yn aros yn y gymuned ac yn cael ei ailgylchu er budd economaidd a chymdeithasol ehangach. Bydd cryfhau’r busnesau hyn yn gwneud cymunedau lleol yn fwy cadarn a hunangynhaliol, gan olygu y byddant yn gallu ymdopi’n well ag argyfwng yn y dyfodol.

Mae angen i ni ailadeiladu ein heconomi mewn modd gwahanol ac mewn ffordd decach. Dylai mentrau cymdeithasol fod wrth wraidd yr economi newydd hon.

Economi Cymru a Covid-19: Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig

Lawrlwythwch yr ymateb llawn yma (yn Saesneg unig) (106.2KB pdf)