Cynhwysiant digidol | Gofal cymdeithasol

Mae yna berygl bod chwyldro digidol y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru yn eithrio’r rhai mwyaf agored i niwed, yn ôl adroddiad newydd

Wrth i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru fynd ar drywydd eu hagenda trawsnewid digidol, mae yna berygl gwirioneddol y bydd y dinasyddion hynny y mae arnynt angen gwasanaethau iechyd yn cael eu gadael ar ôl, a hynny oherwydd diffyg mynediad a sgiliau digidol, yn ôl adroddiad newydd.

By WalesAdmin · November 7, 2018

See this page in: English

Mae’r adroddiad, Digital Inclusion in Health and Care in Wales, yn datgan nad yw 26% o bobl sydd â salwch, anabledd neu wendid hirdymor cyfyngol yn defnyddio’r rhyngrwyd ar hyn o bryd, o gymharu â 10% o’r rheiny sydd heb gyflwr o’r fath. Yn fwyaf pwysig, nid yw 25% o ddynion a 32% o fenywod rhwng 65 a 74 oed yng Nghymru ar-lein, o gymharu â thri y cant o bobl rhwng 16 a 49 oed.

Lansiwyd yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac Ymddiriedolaeth Carnegie UK, yn y gynhadledd Iechyd a Gofal Digidol heddiw (ddydd Mercher 7 Tachwedd), a hynny ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, werth £3 miliwn o fuddsoddiad i fynd i’r afael ag allgáu digidol ym maes iechyd a gofal.

Mae’r adroddiad yn nodi llawer o enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â chynhwysiant digidol mewn lleoliadau iechyd a gofal yng Nghymru, yn enwedig trwy Cymunedau Digidol Cymru, sef rhaglen cynhwysiant digidol bwrpasol sy’n cael ei darparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Un o’r mentrau a gynhelir gan y prosiect yw Arwyr Digidol, lle mae pobl ifanc yn bod yn gyfeillion i bobl hŷn ac yn eu cyflwyno i dechnoleg ddigidol, gan arwain, yn aml, at ganlyniadau ysbrydoledig a thrawsnewidiol.*

Er bod nifer o Fyrddau Iechyd yng Nghymru yn gwneud gwaith hanfodol i fynd i’r afael ag allgáu digidol trwy hyfforddi staff a darparu cymorth gyda gwasanaethau teleiechyd a phyrth cleifion ar-lein**, mae’r adroddiad yn amlygu’r ffaith nad yw mwyafrif y Byrddau Iechyd yng Nghymru yn dal i wneud unrhyw gyfeiriad at gynhwysiant digidol yn eu strategaethau digidol na’u Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.

Dywedodd Bob Gann, awdur yr adroddiad a chyn-gyfarwyddwr Widening Digital Participation, sef rhaglen cynhwysiant digidol genedlaethol y GIG yn Lloegr:

“Mae negeseuon yr adroddiad yn glir. Mae angen i ni sicrhau bod cynhwysiant digidol yn uwch ar yr agenda, a’n bod yn mynd ati i’w ymgorffori yn rhan o brif ffrwd gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae angen i ni allu mesur effaith cynhwysiant digidol trwy ganlyniadau sy’n berthnasol i’r GIG a gofal cymdeithasol – gan gynnwys mwy o hunanofal a defnydd priodol o wasanaethau.

“Ac wrth i ni ailystyried rhai o’r ffyrdd yr ydym yn ymdrin â chynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal, byddwn yn fwyaf llwyddiannus os byddwn yn gweithio gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau i gyd-gynhyrchu atebion sy’n bwysig iddyn nhw, ac sy’n hygyrch ac wedi’u dylunio’n dda.”

I weld yr adroddiad llawn – Digital Inclusion in Health and Care in Wales – a’i lawrlwytho, ewch i www.cymru.coop/adroddiad-cynhwysiant-digidol-2018

Amlygu astudiaethau achos ysbrydoli yn yr adroddiad:

Mae Woffington House yn gartref gofal arloesol ar gyfer pobl hŷn yn Nhredegar. Mae’r cartref gofal wedi meithrin partneriaeth ag ysgolion cynradd lleol, ac mae plant o’r ysgolion cynradd hynny yn ymweld â’r trigolion yn rheolaidd. Mae plant o Ysgol Gynradd Georgetown wedi bod yn Arwyr Digidol, gan fod yn gyfeillion i’r trigolion a dangos iddynt sut i ddefnyddio technoleg, a hynny gan ddefnyddio tabledi sydd wedi cael eu benthyca gan Cymunedau Digidol Cymru. Mae’r preswylwyr yn arbennig yn mwynhau ymweld â lleoedd yr arferent fynd iddynt, ar-lein.

Mae Ken (nid ei enw go iawn) yn byw yn Woffington House ers dros ddwy flynedd. Nid oes ganddo deulu ac nid oes neb yn ymweld ag ef. Mae’n dioddef o bryder ac iselder ysgafn, ac yn byw â dementia. Arferai frathu ei bigyrnau a tharo fframiau’r drysau oherwydd ei rwystredigaeth, a byddai’n cael Lorazepam ar bresgripsiwn yn ôl yr angen. Trwy ddefnyddio iPad a gwisgo sbectol Rhith-wirionedd, mae Ken wedi gallu ailymweld ag Aberystwyth yn 1965, yn ogystal â mynd ar reidiau ffigar-êt. Mae Ken hefyd wrth ei fodd yn chwilio am ganeuon ar YouTube. Mae iechyd a lles Ken wedi gwella’n ddramatig, ac mae dyddiau’r meddyginiaethau gwrthseicotig wedi hen ddiflannu.

Mae Ken hefyd wedi bod yn ymchwilio i rasio colomennod gyda’r plant. Bydd y plant ‘nawr yn dod i’r cartref ac yn estyn y gweithgarwch ymhellach trwy ollwng colomennod rasio o faes parcio’r cartref gofal. Mae hobi Ken wedi cael ei wireddu o ganlyniad i’r cynllun Arwyr Digidol.

Mae profiad Ken yn nodweddiadol yn y cartref gofal, lle mae’r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig “yn ôl y galw” wedi lleihau 100%. Mae nifer yr achosion o gwympo wedi lleihau yn sylweddol hefyd, ac mae nifer y galwadau am ambiwlans (sy’n costio £300 y tro i’r GIG) wedi lleihau 28%. At hynny, mae morâl y staff wedi gwella – ac mae plant o’r ysgolion cynradd yn dweud eu bod am weithio ym maes gofal pan fyddant yn hŷn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn un o’r ychydig Fyrddau Iechyd sydd wedi bod ar flaen y gad o ran mentrau digidol ar gyfer dinasyddion yng Nghymru, a dyma’r Bwrdd Iechyd cyntaf i gynnig Wi-Fi cyhoeddus am ddim mewn ysbyty, yn ogystal ag ym mhob ysbyty iechyd acíwt a chymunedol ledled y Bwrdd Iechyd. Dyma’r Bwrdd Iechyd cyntaf hefyd i gynnig cofnod ar-lein a reolir gan y claf i gleifion, sef Patient Knows Best (PKB), ac mae wrthi’n gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru ar hyn o bryd i gefnogi cleifion i ddefnyddio PKB a rhaglenni ar-lein eraill, a hynny trwy eu cyfeirio at lyfrgelloedd neu adnoddau cymunedol eraill lle y gallant gael mynediad at gyfrifiadur a chymorth i sefydlu e-bost, ac ati.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae cleifion dros 85 oed (un claf dros 100 oed) yn gweld eu meddyg trwy glinigau telefeddygaeth yn eu hysbyty cymunedol lleol. Mae hyn wedi lleihau pellteroedd teithio i lawer o gleifion o 30 milltir i 2-5 milltir. Dywedodd Dr Olwen Williams:

“Roedd cyd-gynhyrchu yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant wrth sefydlu’r gwasanaeth telefeddygaeth, a hynny am fod ennyn diddordeb yn y gwasanaeth a’i ddarparu yn dibynnu yn gyfan gwbl ar sicrhau bod grwpiau clinigol a chleifion yn cefnogi model gwasanaeth sy’n diwallu anghenion y mwyafrif. Gellir hwyluso’r broses o ymgysylltu â defnyddwyr o’r cychwyn trwy weithio gydag asiantaethau, megis Citizens Online, sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant digidol, chwalu mythau a phryderon, a darparu hyfforddiant a chymorth.”

Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan gleifion, gyda thros 83% yn datgan y byddent yn argymell y clinigau i deuluoedd a ffrindiau. Mae cleifion wedi arbed 64 munud o amser teithio (40 milltir) ar gyfartaledd wrth deithio i’r clinigau ac oddi yno.