Blog | Economi sylfaenol | Menter gymdeithasol | Policy

Mae cymorth busnes arbennigol ar gyfer mentrau cymdeithasol yn hanfodol. Mae disgwyl i ni ddweud hynny, ond mae’n wir.

Mae Dan Roberts, Swyddog Polisi ac Ymchwil yn y Canolfan Cydweithredol Cymru, yn esbonio pam.

By Dan Roberts · November 6, 2020

See this page in: English

Wrth i bleidiau gwleidyddol ddrafftio eu maniffestos cyn yr etholiadau i’r Senedd flwyddyn nesaf, mae’r Canolfan Cydweithredol Cymru yn gofyn iddyn nhw i ymrwymo i ariannu gwasanaeth cymorth arbenigol i fusnesau cymdeithasol dros y pum flwyddyn nesaf.

Ar draws gwleidyddiaeth rydym yn gweld newid mewn polisi economaidd, drwy’r pleidiau yn rhoi mwy o bwyslais ar les, gwytnwch a chynaliadwyedd. Rydym yn credu bod un ffordd o roi’r gwerthoedd hyn wrth wraidd ein hadferiad o’r argyfwng hwn yw sicrhau bod mentrau cymdeithasol yn ffurfio cyfran fwy o’n heconomi yn y dyfodol. Mae mentrau cymdeithasol eisoes yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi a’n cymunedau, ond mae ganddyn nhw’r potensial i wneud mwy. Er mwyn i hynny ddigwydd mae cymorth busnes arbenigol a chyllid yn hanfodol.

Beth mae Mentrau Cymdeithasol yn ei wneud dros y genedl?

Mae’r sector mentrau cymdeithasol wedi dangos twf sylweddol. Yn 2019, roedd y sector yn werth £3.18 biliwn, cynnydd o 87% ers 2014. Roedd yn cyflogi 55,000 o bobl, cynnydd o 45% ers 2014, ac yn cynnwys 2022 o fusnesau, cynnydd o 38%. Fel pob sector o’r economi, mae Covid-19 wedi effeithio’n fawr ar fentrau cymdeithasol. Ar ben hynny, mae’r cwmnïau wedi gweddnewid eu gwasanaethau i chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi eu cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn.

Mae effaith gadarnhaol mentrau cymdeithasol yn amlwg i bawb. Maen nhw’n hanfodol i’r economi sylfaenol ac yn gweithredu ar draws ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae eu hangen fwyaf. Caiff elw ei ail-fuddsoddi yn eu cymunedau. Mae 76% o fentrau cymdeithasol yn talu’r cyflog byw i’w holl staff. O safbwynt yr argyfwng diweithdra sydd ar y gorwel, mae’r ffaith bod 17% o staff newydd mewn mentrau cymdeithasol yn arfer bod yn ddi-waith, yn sylweddol. Mae’r sector mentrau cymdeithasol hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru – menywod sy’n arwain 40% o fentrau cymdeithasol, dros ddwywaith yn uwch na busnesau bach a chanolig yn gyffredinol (17%), ac mae gan 9% o fusnesau cymdeithasol arweinydd o gefndir pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME).

Pam mae cymorth arbenigol mor bwysig?

Mae’r busnesau eu hunain wedi nodi bod cymorth fusnes arbenigol i’r mentrau hyn yn hanfodol i’w twf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, darparwyd cymorth fusnes i fentrau cymdeithasol gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, dan yr enw Busnes Cymdeithasol Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae data’r arolwg yn dangos bod cleientiaid sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaeth hwn wedi ei raddio’n uchel iawn. Mae’r gefnogaeth wedi helpu i dyfu’r busnesau, wedi creu cannoedd o swyddi o safon da, ac wedi diogelu llawer o rai eraill.

Dywedodd gwerthusiad annibynnol o Fusnes Cymdeithasol Cymru (yn Saesneg):

“there is an ongoing need for specialised support for the social business sector, recognising the multi-stakeholder environments and specific legal, constitutional and financial arrangements that have wide-reaching implications for the successful operational of social businesses”.

Y gofyniad allweddol yw bod cynghorwyr yn arbenigwyr, gyda dealltwriaeth gadarn o nodweddion penodol mentrau cymdeithasol – bod ganddynt wahanol randdeiliaid, sylfaen driphlyg, strwythrau cyfreithiol gwahanol ac opsiynau cyllido amgen. Rhaid i’r cymorth arbenigol hwn fod ar gael i fusnesau cymdeithasol ar bob cam o’r cylch busnes, o gymorth i entrepreneuriaid eginol i gwmnïau sefydledig sy’n ceisio allforio neu weithio ar draws ffiniau. Yn ogystal ag ymateb i ofynion busnesau cymdeithasol, dylai’r gwasanaeth hwn fod yn rhagweithiol, adeiladu marchnadoedd newydd a datblygu mentrau cymdeithasol mewn ymateb i anghenion y farchnad.

Casgliad

Yn ddiweddar, lansiodd y Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer y Sector Menter Gymdeithasol. Ei nod yw gwneud mentrau cymdeithasol yn fodel busnes o ddewis erbyn 2030 ac i Gymru fod y lle gorau i ddechrau a thyfu menter gymdeithasol. Mae parhad cymorth fusnes arbenigol yn hanfodol i’r amcan hwn.

Bydd penderfyniadau allweddol dros ddyfodol Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael eu cymryd y flwyddyn nesaf, ac rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymdeithasol Cymru a pharhau i ariannu cymorth busnes arbenigol am y pum mlynedd nesaf. Mae gan fentrau cymdeithasol ran sylfaenol i’w chwarae wrth helpu Cymru i ‘adeiladu’n ôl yn well’ o argyfwng Covid-19.