Blog | Cydweithredol | Tai

Manteision tai cydweithredol a thai o dan arweiniad y gymuned

Mae ymchwil diweddar am fanteision posibl byw mewn tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned yn dangos sut i ddatblygu ac ysgogi galw am dai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned ledled Cymru.

By Ceri-Anne Fidler Jones · February 26, 2020

See this page in: English

Fel ‘hyrwyddwr nodau’ Lles RSA, credaf fod ymchwil diweddar i fanteision posibl byw mewn tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned yn dangos sut mae datblygu a sbarduno galw ar gyfer tai o’r fath ledled Cymru.

Mae’n ymwneud â phobl leol yn cymryd rhan arweiniol a pharhaus yn y gwaith o ddatrys problemau tai lleol, gan greu tai gwirioneddol fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

Nododd trigolion sy’n byw mewn cynlluniau tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned, yn eu geiriau eu hunain, 8 o’r amrywiol fanteision maen nhw wedi’u cael o fyw yn eu cynlluniau, a oedd yn cynnwys gwell sefyllfa ariannol.

Gan asesu yn ôl math (% o atebion) – Roedd gwell sefyllfa/ariannol yn 10%

Roedden nhw hefyd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn rhan o gymuned gydlynus, a bu hyn o gymorth i fynd i’r afael ag ynysu ac unigedd. Roedden nhw hefyd yn dysgu sgiliau newydd ac yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso i helpu eu cymuned leol.

Agenda Cymunedau cydnerth – gall byw mewn cymuned a gefnogir sydd wedi’i hintegreiddio’n dda ysgafnhau’r pwysau ar wasanaethau cymorth cyhoeddus.

Gall rymuso cymunedau lleol, gan eu helpu i fod yn fwy hunanddibynnol a chydnerth. Mae annog cymunedau i fod yn fwy cynaliadwy a chydnerth, yn nodwedd allweddol mewn sawl cynllun tai dan arweiniad y gymuned.

Mae cymunedau sydd wedi’u grymuso yn gwneud penderfyniadau am eu hardaloedd, sy’n aml yn arwain at atebion ymarferol, sydd wedi’u llunio ganddyn nhw eu hunain ar gyfer problemau lleol. Mae cynlluniau dan arweiniad y gymuned yn galluogi pobl leol i aros yn eu hardal gan helpu i gynnal hyfywedd eu cymuned.

Mae’r dystiolaeth hon o anawsterau wrth sicrhau cysylltiadau hawdd o fewn cynlluniau tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned yn cryfhau’r achos dros bwynt mwy cyffredinol a wnaed gan rywun a gafodd ei gyfweld yng Nghymru, a oedd yn teimlo bod “cydlyniant a chydnerthedd yn gerrig sylfaen allweddol, ynghyd â chanlyniadau neu fanteision posibl” tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned.

Meddai: “I wneud i dai cydweithredol weithio, mae’n rhaid i chi gael grŵp sydd ag ymdeimlad cryf o gymuned. Rydych chi angen mas critigol o bobl i wneud y gwaith, pobl sydd am ysgwyddo cyfrifoldeb landlord neu reoli tai. Dydy pawb ddim eisiau’r cyfrifoldeb hwn.”

Roedd Steve Jones (Tai Cydweithredol Dragon, Llanrhaeadr-ym-Mochnant) yn ystyried y manteision fel…

  • Manteision economaidd – methu cael morgais a ddim eisiau dibynnu ar rentu preifat; y gallu i gyllido cartref 100% yn foesegol. Rhoddodd y rhyddid economaidd iddo fod yn hunangyflogedig gan fedru teithio am ran o’r flwyddyn.
  • Cydlyniant cymunedol – y cyfle i ddod â phobl at ei gilydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus i drafod cysyniadau nad ydynt o bosibl wedi eu clywed o’r blaen a chynnwys pawb.
  • Cydnerthedd cymunedol – cael eu hwyluso a’u galluogi i fod yn rhagweithiol wrth sefydlu cynllun tai cydweithredol, gan ddod o hyd i ddatrysiadau sydd o fewn ein rheolaeth ni’n hunain.

Dywedodd rhywun arall:

“Ymdeimlad o gymuned; mantais ariannol (tai cydweithredol fel rhannu ecwiti drwy daliadau rhent fel bod unrhyw un sy’n gadael yn cael ased cyfalaf i fynd gyda nhw); gallu byw mewn ardal lle maen nhw’n gweithio, ysgolion wrth law a theulu yn agos; grym a theimlo’n bwysig; mae ganddyn nhw dai o ansawdd da; annibyniaeth; diogelwch; a chymorth teulu.”

Er y data ansoddol cyfyngedig sy’n gysylltiedig â thai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned, mae pawb yn gytûn yn yr ymchwil nad yw’n arwain at ganlyniadau caled mesuradwy. Mae’r Achos Busnes dros Dai Dan Arweiniad y Gymuned yn disgrifio rhai o’r rhai allweddol fel a ganlyn:-

Gall gryfhau a helpu i gynnal economïau lleol ac mae cynlluniau tai dan arweiniad y gymuned yn aml yn defnyddio llafur lleol ac yn gallu ail-fuddsoddi yn yr economi leol er mwyn helpu i gynnal neu wella cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol. Mewn cymunedau gwledig, gall hyn olygu dod â thafarndai, swyddfeydd post a siopau dan berchnogaeth gymunedol. Mewn ardaloedd trefol, lle mae methiant yn y farchnad yn broblem, gan fagu hyder y gymdogaeth, dod â sefydlogrwydd a helpu i ddenu buddsoddiad pellach.

http://clhtoolkit.org/introduction-clh/business-case-community-led-housing

Yn olaf, mae tri math o werth y gall tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned eu creu sy’n cael eu trafod yn y dadansoddiad bras hwn o werth: gwerth cyllidol (arbedion i’r wladwriaeth), gwerth economaidd (manteision sydd â gwerth economaidd amlwg, fel gwirfoddoli, ond nad yw o reidrwydd yn arbed arian i’r wladwriaeth); a gwerth cymdeithasol (y manteision ehangach i’r unigolyn a chymdeithas yn sgil newid sydd wedi’i gyflawni, fel y mynegir ar ffurf cynnydd cyfwerth yn yr incwm y byddai ei angen ar gyfranogwr er mwyn cael yr un cynnydd mewn lles ag y mae wedi’i gael drwy’r newid hwn – yn yr achos hwn, fe wnaeth bod yn rhan o gynllun tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned helpu i gynhyrchu budd cyllidol crynswth drwy ddarparu cyfleoedd am waith, entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth, lle na fyddai unrhyw fudd fel arall.

Rwy’n edrych ymlaen at weld beth mae ‘Cymunedau’n Creu Cartrefi’ yn ei gyflawni yn y flwyddyn newydd, a fydd yn cynnwys lansio Swansea Cohousing yng Ngwanwyn 2020 a sawl cynllun tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned arall.

David Palmer yw Rheolwr Prosiect Cymunedau’n Creu Cartrefi yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru. Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol ar wefan RSA.