Menter gymdeithasol yn anelu at ddefnyddio ‘technoleg gyrfa’ i wella rhagolygon o ran swyddi
Mae Andy Fosterjohn yn dweud wrthym sut y mae wedi cael ei ysbrydoli gan ddatrysiadau technolegol dramor i helpu i wella rhagolygon unigolion mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus.
Gweler y dudalen hon yn: English
Tarddodd syniad FutureFit AI yng Nghanada, lle daeth sylfaenwyr y cwmni ynghyd gyda gweledigaeth i roi offer digidol yn nwylo’r rheiny y mae arnynt eu hangen fwyaf, i lywio’r ansicrwydd cyfredol, a hwyluso eu trawsnewidiadau yn y farchnad lafur.
Mae gennym ap sy’n GPS ar gyfer eich gyrfa, gan ddarparu gwybodaeth amser real am y farchnad lafur leol a chynnig rhyngwyneb hyfforddiant gyrfaol, a hynny wedi’i gefnogi gan unigolyn sy’n hyfforddwr gyrfaoedd, fel bod gan bobl y mae awtomeiddio wedi effeithio arnynt, neu sydd ar fin colli eu swyddi oherwydd yr argyfwng economaidd, yr wybodaeth iawn ar yr adeg iawn i gynllunio eu gyrfa eu hunain ac i symud ymlaen at lwybrau gyrfaol lle mae yna swyddi ar gael.
Yr her ar gyfer rhyngwynebau technoleg gyrfa a hyfforddiant gyrfaol yw sicrhau bod hyder, cyfrinachedd a theimladau cleientiaid yn cael sylw, yn union fel y byddai hen gynghorydd gyrfaoedd ysgol wedi’i wneud. Hefyd, mae angen i’r cleient weld cynnydd pendant, a’n nod yw darparu hyn i gleientiaid yma yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Byddwn yn mesur yr effaith a grëir a’r buddion a welir gan gleientiaid ar dair lefel:
- Yn gyntaf, a yw’r ymyrraeth cyfarwyddyd gyrfaoedd wedi symud y cleient ymlaen?
- Yn ail, a yw’r gymuned yn elwa?
- Yn drydydd, a fydd yr economi ranbarthol yn cael ei helpu?
Gwnes i ychydig o waith ar werth economaidd cyfarwyddyd gyrfaoedd, pan oeddwn yn ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru yn y 1990au, a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y prosiect hwn, gan sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau ac yn cyrraedd ein hamcanion mesuradwy.
Roeddem yn falch iawn o fod yn un o enillwyr Gwobr Her Nesta, mewn cystadleuaeth a ariannwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n rhoi urddas ychwanegol i’r cysyniad, ac rydym ar hyn o bryd yn mireinio’r ap a’r gwasanaeth a ddarperir yn Lloegr, ond gan fy mod yn byw ym Mhontypridd rwy’n awyddus iawn i ddod â hyn i Gymru cyn gynted â phosibl.
Rwyf wedi cael cymorth gan gynllun Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru ar sawl achlysur dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hynny gyda chynllunio busnes, strategaeth, cysylltiadau a rhwydweithio.
Gyda’r cymorth sydd ar gael yn ogystal â’r cyfleoedd i rwydweithio â chymheiriaid, fy neges ar gyfer y sector busnes cymdeithasol ar hyn o bryd fyddai dal ati a chredu ynoch chi eich hun!
Mae Andy yn un o’r entrepreneuriaid cymdeithasol sydd wedi mynychu’r sesiynau cyd-gymorth cymheiriaid ‘Dechrau gyda phaned’, lle gall pobl o fentrau cymdeithasol newydd yng Nghymru gwrdd a thrafod syniadau, arfer gorau a chydweithrediadau â’i gilydd yn y dyfodol. Gallwch gofrestru ar gyfer sesiynau cyd-gymorth mis Gorffennaf yma. Welwn ni chi yno!
Mae Andy wedi cael cymorth a chyngor ymgynghoriaeth busnes gan Busnes Cymdeithasol Cymru Dechrau Newydd, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i gyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Oes gennych chi stori i #NewyddionDaCymru?
Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned neu os hoffech hyrwyddo eich gweithredoedd da, cysylltwch â ni er mwyn rhannu’r hanes.