Mentrau cymdeithasol – blaenoriaethu pobl a’r blaned dros elw

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn galw Newid Hinsawdd yn argyfwng ein hoes. Cyhoeddodd Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019. Mae cyfle gwirioneddol yn y cyfnod hwn o gythrwfl iechyd, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol dwys i ddatblygu atebion radical newydd a chyflwyno newidiadau mawr sy'n ailadeiladu ein heconomi a'n cymdeithas mewn ffordd sy'n gweithio i’r bobl a’r blaned.

Gweler y dudalen hon yn: English

Mae mentrau cymdeithasol yn rhoi gwerth ar yr amgylchedd yn ogystal â phobl ac elw, a gallant arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gall ein sector ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn blaenoriaethu pobl a’r blaned dros elw. Cred y Grwpiau Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol y dylid hyrwyddo mentrau cymdeithasol fel y model busnes o ddewis ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio, ac sydd eisiau gweithio, yn y maes hwn. Dylai fod rôl feiddgar ac uchelgeisiol i fentrau cymdeithasol o ran cyflawni economi werdd a thrawsnewid gwyrdd cyfiawn. Credwn y gallai Llywodraeth Cymru fynd ymhellach i harneisio potensial y sector i gyflawni nodau’r agenda hon.

Mae llawer o fentrau cymdeithasol yn gweithredu mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, sero wastraff, bwyd, bioamrywiaeth a rheoli tir. Mae amcanion amgylcheddol a bwriad i wella’r ardal leol wrth wraidd nodau cymdeithasol rhai ohonynt. Mae llawer o fentrau cymdeithasol wedi ymgorffori egwyddorion economi gylchol yn yr amcanion amgylcheddol hyn. Maent mewn sefyllfa ddelfrydol felly i chwarae rhan allweddol wrth helpu i gynnig hyfforddiant a datblygu sgiliau mewn cymunedau lleol fel rhan o’r broses o symud i economi werdd a theg. Mae cyfle hefyd i adeiladu cymunedau ac economïau lleol mwy gwydn, drwy ehangu mentrau cymdeithasol, busnesau ac asedau cymunedol a lleol, a sicrhau bod creu swyddi o ansawdd cynaliadwy wrth wraidd yr adferiad gwyrdd. Mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn gofyn am newid radical yn ein ffordd o feddwl am ein heconomi a’n busnesau. Mae ein modelau economaidd cyfredol yn blaenoriaethu twf a thwf cynnyrch domestig gros ar unrhyw gost. Mae gan hyn effaith niweidiol ar yr hinsawdd, bioamrywiaeth a lles. Mae mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn barod i herio modelau economaidd y gorffennol ac ailadeiladu economi sy’n decach, fwy cynhwysol a chynaliadwy. Mae mentrau cymdeithasol ar flaen y gad wrth gyflawni trosglwyddiad cyfiawn a gwyrdd ac wedi datblygu atebion arloesol i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Maent yn datblygu’r economi leol mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar bobl, gan ymateb i angen cymunedol a lle mae cyfranogi a grymuso yn rhan annatod. Ond, er mwyn cyflawni’r pethau hyn yn llawn, mae angen cymorth busnes arbenigol ar fentrau cymdeithasol yng Nghymru i ailadeiladu a thyfu. Mae angen gwasanaethau cyngor busnes arbenigol ar fentrau cymdeithasol i ddiwallu eu hanghenion unigryw. Er eu bod yn wynebu llawer o’r un heriau ag unrhyw fusnes prif ffrwd, maent hefyd yn wynebu heriau unigryw. Mae gan fentrau cymdeithasol ysgogwyr gwahanol ac maent yn darparu atebion cyfannol, gan integreiddio eu hamcanion amgylcheddol a chymdeithasol â rhai economaidd. Mae ganddynt strwythurau llywodraethu penodol ac maent yn atebol i sawl rhanddeiliad. Maent yn cael gafael ar gyllid mewn ffyrdd gwahanol ac o leoedd gwahanol, er enghraifft gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, darparwyr buddsoddiad cymdeithasol a chynlluniau cyfranddaliadau cymunedol. Mae angen cefnogi’r busnesau hyn mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’u dull o ddarparu a’u heffaith gymdeithasol.

Dr Ceri-Anne Fidler yw Swyddog Polisi’r Sector Mentrau Cymdeithasol ac mae’n cefnogi’r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol.

Cyfres blogiau Trawsnewid Cymru