Blog

Sut y gall ein system addysg greu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid cymdeithasol Cymru

Wrth i ni geisio adeiladu economi newydd yng Nghymru sy’n rhoi lles yn ganolog i lunio polisïau, rydym yn galw am wreiddio modelau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn yr addysg entrepreneuriaeth gaiff myfyrwyr yn ysgolion, colegau a phrifysgolion Cymru.

By Rhodri McDonagh · Chwefror 17, 2021

Gweler y dudalen hon yn: English

Yn y pen draw, nod y 10 blaenoriaeth polisi a ddatblygom cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai yw adeiladu economi seiliedig ar les, gyda gwerthoedd bod yn gydweithredol, gwydnwch a chynwysoldeb yn ganolog iddi. Yn ein blog yma, rydym wedi amlinellu’r argymhellion rydym am i Lywodraeth nesaf Cymru eu rhoi ar waith. Eisoes mae gan Gymru gymaint o enghreifftiau o bobl a mentrau cymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn, gan weithio ynghyd i wella’u cymunedau. Rydym am i’r ysbryd entrepreneuraidd hwn sy’n anelu at les cyffredin fod yn fodel busnes o ddewis i unigolion a mentrau yng Nghymru.

Ond er mwyn i fentrau cymdeithasol fod yn brif fodel busnes yng Nghymru, mae arnom angen sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gwybod amdanynt, a’r buddion y gallant eu cynnig iddyn nhw a’u cymunedau.

Ers sawl blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwreiddio entrepreneuriaeth o fewn addysg, trwy gynlluniau fel y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid a Syniadau Mawr Cymru. Ynghyd â hyn, mae ein sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn chwarae rhan fawr yn hyrwyddo buddion entrepreneuriaeth. Mae amrywiaeth eang o ymchwil sy’n dangos buddion cadarnhaol y cynlluniau hyn o ran hybu “diwylliant o fenter” a datblygu meddylfryd entrepreneuraidd ymhlith ein pobl ifanc. Hyn fu uchelgais Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli.

Er mwyn i fentrau cymdeithasol fod yn fodel busnes o ddewis i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid Cymru, credwn fod ei wreiddio yn y system addysg yn hanfodol. I lawer o fyfyrwyr, dyma fydd eu profiad cyntaf o gysyniad entrepreneuriaeth, a’r cipolwg cyntaf i’r ffordd y maent yn ystyried eu hunain yn ddarpar entrepreneuriaid.

Un o’r agweddau pwysicaf ar hyn yw rhoi modelau real o ymddygiad iddynt, y gallant uniaethu â nhw. Eisoes mae gan Gymru gymaint o entrepreneuriaid cymdeithasol ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Nhw yw’r enghraifft berffaith i fyfyrwyr weld bod menter gymdeithasol yn ddewis gyrfaol dilys, gyda’r holl fuddion a ddaw gyda hynny iddyn nhw’u hunain a’r materion sy’n agos at eu calon – ynghyd â dangos y sgiliau y bydd eu hangen a’r heriau a wynebant.

Mae nifer o enghreifftiau o addysg a hyfforddiant ansawdd uchel ar entrepreneuriaeth gymdeithasol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru yn barod a bydd dau o’m cydweithwyr yn trafod y rhain yn fanylach yn eu blogiau nhw dros yr wythnosau nesaf. Un o’r prosiectau mwyaf cyffrous mae Canolfan Cydweithredol Cymru’n ymwneud ag ef trwy ei rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru yw cyflwyno “Hac Caredigrwydd Addysg Bellach”. Fis yma yn unig, addysgwyd dros 100 o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru am ystyr a photensial mentrau cymdeithasol a chawsant eu herio i fynd i’r afael â materion yn eu cymuned. Ni ellir gwneud yn fach o werth y profiadau hyn, a chredwn yn gryf fod angen eu gwreiddio yn yr addysg entrepreneuriaeth gaiff myfyrwyr.

Dyma un ffordd yn unig rydym am weld mentrau cymdeithasol a bod yn gydweithredol yn brif fodel busnes yng Nghymru. Eleni, mae gan bob plaid wleidyddol yng Nghymru gyfle i amlinellu sut byddent yn datblygu ein heconomi, er lles ein dinasyddion a gwydnwch ein cymunedau. Rydym am weld eu bod yn ymrwymo i wreiddio mentrau cymdeithasol yn ein system addysg, o’r ysgol gynradd i Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Ynghyd â hyn, rydym am i fuddion dysgu sgiliau entrepreneuraidd a datblygu meddylfryd entrepreneuraidd, ymwybodol yn gymdeithasol, fod yn hygyrch i holl weithwyr, dinasyddion a chymunedau Cymru trwy gydol eu bywyd.

Yn ein blog nesaf, bydd y Swyddog Polisi Annibynnol, Sarah Evans, yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd eisoes yn digwydd i hybu entrepreneuriaeth gymdeithasol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, a’r camau ymarferol ar gyfer cyflwyno hyn ymhellach fyth. Rydym wedi anfon ein 10 blaenoriaeth polisi ar gyfer yr etholiadau eleni at bob plaid wleidyddol ac rydym yn croesawu unrhyw gyfle pellach i drafod gyda nhw a rhanddeiliaid eraill sut gellir gwireddu’r polisi hwn ar hyd a lled y wlad.

Dan Roberts, Swyddog Polisi ac Ymchwil

dan.roberts@wales.coop