“Busnesau cymdeithasol yn gatalydd i adfywiad cymunedol a thwf economaidd lleol”, yn ôl adroddiad newydd

Mae creu swyddi o ansawdd da, denu buddsoddiad gan y sector preifat, darparu gwasanaethau lleol hanfodol ac annog cydlyniant cymunedol ymhlith y buddion sylweddol y mae busnesau cymdeithasol* yn eu cyflwyno i’r ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig yn gymdeithasol, yn ôl y dystiolaeth mewn adroddiad newydd.

27 Oct, 17

Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn amcangyfrif bod y sector busnes cymdeithasol yn werth £2.37 biliwn i economi Cymru, a’i fod yn cynnal tua 40,800 o swyddi, ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i tua 48,000 – 58,000 o bobl.

Mae ‘Lleol, tecach, cryfach: busnesau cymdeithasol yn creu twf yng Nghymru’, a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd gan Fusnes Cymdeithasol Cymru, yn ymchwilio i botensial busnesau cymdeithasol o ran creu swyddi a threchu tlodi dan amodau economaidd anodd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ôl-ddiwydiannol, canol dinas ac arfordirol.

Mae’r adroddiad yn rhoi golwg manwl ar wyth busnes cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi ysgogi twf economaidd o fewn eu rhanbarth: Antur Nantlle Cyf (Caernarfon); Antur Stiniog (Blaenau Ffestiniog); Bay Leisure Ltd (Abertawe); Croesffyrdd Sir Gâr (Llanelli); Fern Partnership (Maerdy); P.M.R. Ltd (Hwlffordd); Theatr Mwldan (Aberteifi); Eglwys Gymunedol y Tywi (Caerfyrddin).

Image Caption: Paul Griffiths - Xcel Bowl - Eglwys Gymunedol y Tywi

Crëwyd menter gymdeithasol Antur Stiniog fel ffordd i’r gymuned gymryd rheolaeth dros ei dyfodol ei hun. Bu Blaenau Ffestiniog yn dirywio ers blynyddoedd lawer, ac roedd delwedd wael y dref yn rhwystr go iawn i sicrhau ei hadfywiad a chreu ffyniant newydd. Cafwyd buddsoddiad i adfywio trwy welliannau yn y parth cyhoeddus, a cheisiodd nifer o gynlluniau feithrin mwy o hyder a chreu cyfleoedd newydd, ond roedd angen mwy i sicrhau tro pedol yn y gymuned.

Yn 2012, agorwyd traciau beicio i lawr yr allt, a grëwyd gan Antur Stiniog, ac erbyn hyn mae rhai o’r beicwyr pennaf yn eu gweld fel rhai o’r llwybrau beicio gorau yn Ewrop. Gwelwyd Antur Stiniog yn tyfu o gyflogi dau weithiwr rhan-amser i rwng 15 ac 20 aelod o staff erbyn heddiw. Cyflawnwyd hyn trwy ail-fuddsoddi’r incwm a sicrhawyd, a denu buddsoddiad ychwanegol, i ddatblygu gweithgareddau newydd i dyfu’r busnes.

Mae llwyddiant y ganolfan beicio i lawr yr allt wedi helpu i ddatblygu’r arlwy i dwristiaid yn yr ardal, ac wedi denu buddsoddiad preifat gan Zipworld a Surf Snowdonia a’u tebyg. Mae wedi creu ffyniant newydd yng nghanol y dref, gan ddenu tua 12,000 i 15,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Dywedodd Helen McAteer, Rheolwr Y Siop: Canolfan Antur Stiniog yng nghanol y dref:

“Mae gwneud y buddsoddiad hwn, sy’n brawf o gysyniad, yn y llwybrau beicio mynydd a’r gwasanaeth cludo yn rhywbeth dewr i’w wneud ac yn hynod bwysig ar adeg pan roedd cynnig twristiaeth fasnachol yn cael trafferth ym Mlaenau Ffestiniog. Mae datblygu’r gweithgareddau busnes newydd hyn o gwmpas y dirwedd a’r hen chwarel wedi datblygu hyder pobl ac yn arwydd o obaith o ran yr hyn y gellir ei gyflawni”.

Image Caption: Antur Stiniog

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Mae’r adroddiad diweddar ‘Mapio’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru’ wedi dangos faint yn union mae’r sector wedi tyfu yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe wnaeth hefyd dynnu sylw at yr ystod o wasanaethau hanfodol y mae’r sector yn eu darparu yn ein cymunedau, o lenwi tyllau mewn darpariaeth yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, i helpu gwella cyrhaeddiad addysgol, darparu gofal cymdeithasol yng nghartrefi pobl a lleihau anghydraddoldebau, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

“Mae’r adroddiad ‘Lleol, tecach, cryfach: busnesau cymdeithasol yn creu twf yng Nghymru’, yn darparu mewnwelediad cryfach i werth y sector, gan ddarparu enghreifftiau bywyd go iawn o sut yn union mae busnesau cymdeithasol yn gweithio i ysgogi twf economaidd yn eu rhanbarthau.

“Does dim dwywaith bod mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan gynyddol bwysig ym mhob agwedd ar fywyd Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos yn gyson gyda’r sector er mwyn cefnogi ei dwf parhaus”.

Ychwanegodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, sef y corff cenedlaethol ar gyfer mentrau cymdeithasol a chydweithredol yng Nghymru:

“Yn yr amgylchedd presennol, sy’n gweld ansicrwydd o ran effeithiau Brexit a buddsoddiad anferth posibl mewn prosiectau isadeiledd graddfa fawr trwy’r Fargen Ddinesig, mae busnesau cymdeithasol yn cynnig ymagwedd ‘o’r gwaelod i fyny’, a arweinir gan y gymuned, tuag at ddatblygiad economaidd a chymunedol. Mae cyfleoedd sylweddol i gefnogi busnesau cymdeithasol ymhellach er mwyn gwneud y mwyaf o’u potensial a’u caniatáu i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy i adfywio cymunedau yng Nghymru”.

Comisiynwyd a chyhoeddwyd ‘Lleol, tecach, cryfach: busnesau cymdeithasol yn creu twf yng Nghymru’ gan Fusnes Cymdeithasol Cymru, sef prosiect gwerth £11 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o deulu Busnes Cymru ac yn cael ei weithredu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. I ddarllen yr adroddiad hwn, ynghyd â hanes wyth busnes a broffiliwyd fel rhan o’r ymchwil, ewch i https://cymru.coop/helpu-busnesau-cymdeithasol-i-dyfu/lleol-tecach-cryfach-busnesau-cymdeithasol-yn-creu-twf-yng-nghymru/