Mae mynd ar drywydd GYG ar Fargeinion Dinesig yn dangos faint sydd ar ôl gennym i’w wneud o hyd er mwyn creu economi wirioneddol gynhwysol i Gymru, yn ôl adroddiad newydd

Mae angen gwneud newidiadau mawr i ddull Cymru o ymdrin â pholisïau ar ddatblygu economaidd os bydd pawb am gael budd o fwy o ffyniant, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.

23 May, 18

Yn hytrach na mynd ar drywydd GYG, dylid canolbwyntio ar hybu cydraddoldeb wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â datblygu economaidd.

Mae adroddiad ‘Creating an inclusive economy in Wales’ yn nodi’r camau sydd angen eu cymryd er mwyn creu economi gynhwysol sy’n canolbwyntio ar fwy o gydraddoldeb fel rhan o’r broses o sicrhau ffyniant. Mae economi gynhwysol sy’n rhoi llais i bobl ar benderfyniadau economaidd yn sicrhau y caiff eu hanghenion eu hystyried ac yn gwneud lles i fwy o bobl.

Mae’r adroddiad, a luniwyd ar y cyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a Sefydliad Bevan, yn nodi pedair agwedd ar wahân, ond sy’n gysylltiedig, ar economi gynhwysol sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n sbarduno llwyddiant economaidd. Y rhain yw:

  1. Busnesau amrywiol a chydnerth er mwyn creu cyfoeth a darparu nwyddau a gwasanaethau.
  2. Gwaith boddhaol i bawb er mwyn creu incwm i fyw arno.
  3. Gwybodaeth a sgiliau er mwyn sicrhau y gall pobl ennill bywoliaeth a datblygu.
  4. Llais ar benderfyniadau economaidd er mwyn sicrhau y caiff anghenion pobl eu hystyried.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o’r prif enghreifftiau a drafodir yn yr adran ‘Listen to people’, gan mai dim ond pedwar o 46 lle sydd wedi’u neilltuo ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr a sefydliadau trydydd sector ar draws y pwyllgorau gwahanol. Mae hyn yn cyferbynnu â 28 ar gyfer cyrff sector cyhoeddus a 13 ar gyfer busnesau neu gynrychiolwyr busnesau.

Dywedodd Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan ac awdur yr adroddiad:

“Mae tystiolaeth gynyddol bod gan y lleoedd mwyaf cydnerth ledled Ewrop rwydweithiau cadarn rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a chymdeithasol. Ond, caiff y rhan fwyaf o benderfyniadau ar ddatblygu economaidd, megis Bargeinion Dinesig presennol Cymru, eu gwneud gan arweinwyr y sector cyhoeddus a busnesau mawr sy’n wahanol iawn i gymdeithas sifil ac maent yn canolbwyntio ar amcanion economaidd sy’n fwy traddodiadol megis hybu GYG.

“Er enghraifft, sut allwn ni sicrhau bod lleoedd megis cymoedd de Cymru a grwpiau o bobl megis pobl anabl neu gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn cael budd o dwf? Mae ein hadroddiad yn edrych ar gynigion ymarferol a allai helpu i sicrhau economi gynhwysol i Gymru, ei rhanbarthau economaidd a’i chymunedau amrywiol. Mae’n esbonio sut beth fyddai economi gynhwysol ac yn gosod agenda ar gyfer gweithredu y gall cyfranogwyr economaidd o bob math ei mabwysiadu.”

‘Mae adroddiad‘Creating an inclusive economy in Wales’ yn adeiladu ar brofiadau ac arferion gorau cyrff datblygu economaidd mewn mannau eraill yn y DU er mwyn creu glasbrint pwrpasol i Gymru. Mae Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, wedi sicrhau bod y maes polisi hwn wrth wraidd strategaeth pum mlynedd newydd y sefydliad, a dywedodd y canlynol:

“Mae creu economi gynhwysol yn golygu llawer mwy na rhoi llais i ddinasyddion ar fargeinion Dinesig. Yn hytrach, mae’n golygu newid y ffordd rydym yn cysylltu â phobl ac yn gwneud busnes â’n gilydd. Mae’n golygu bod mwy o gydraddoldeb yn rhan hanfodol o’r broses o sicrhau ffyniant. Mewn gwirionedd, mae’n fodel economaidd newydd.

“Roedd y bleidlais i adael yr UE yn arwydd amlwg nad yw’r system economaidd bresennol yn gweithio i bawb. Mae cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru yn ei chynllun gweithredu economaidd diweddaraf o’r angen i ddosbarthu cyfleoedd a hybu llesiant yn gam cyntaf i’w groesawu. Fodd bynnag, mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau y caiff yr ymrwymiad ei wireddu.

“Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru a Sefydliad Bevan yn chwarae rhan weithredol er mwyn gwireddu’r weledigaeth ‘ffyniant i bawb’. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau, awdurdodau lleol, Bargeinion Dinesig, undebau llafur a nifer o gyfranogwyr economaidd eraill hefyd yn chwarae eu rhan.”

Canolfan Cydweithredol Cymru yw corff cenedlaethol Cymru ar gyfer cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol, mentrau cymdeithasol a busnesau a berchenogir gan gyflogeion. Mae’n cymhwyso ei gwerthoedd cydweithredol at y gwaith o atgyfnerthu cymunedau a gwasanaethau yn ogystal â chefnogi’r busnesau hyn.

Sefydliad Bevan yw melin drafod fwyaf dylanwadol Cymru, sy’n datblygu atebion i broblemau mwyaf heriol Cymru. Mae ei gynigion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, ac mae’n cyfrannu’n fawr at ddadleuon, polisïau ac arferion cyhoeddus.

Er mwyn lawrlwytho a gweld yr adroddiad llawn, ewch i https://cymru.coop/polisi-ac-ymchwil-blaengar/