Mae rhywbeth cadarnhaol yn digwydd mewn gofal cymdeithasol ac mae Cymru ar flaen y gad, meddai’r corff cyhoeddus ar gyfer mentrau cydweithredol

Bellach, nid yw’r cyhoedd yng Nghymru eisiau bod yn dderbynwyr goddefol ond yn chwaraewyr gweithredol wrth gynllunio a chyflwyno eu gwasanaethau gofal a lles, yn ôl corff cenedlaethol Cymru dros gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.

25 Jan, 18

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru ddwy ran o dair o’r ffordd trwy gyflwyno prosiect tair blynedd o hyd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru o’r enw ‘Cydweithredu i Ofalu’ ac mae eisoes wedi helpu nifer o bobl a chymunedau sy’n rhannu’r un anghenion a diddordebau er mwyn iddynt ddechrau ffurfio eu mentrau gofal cydweithredol eu hunain.

Mae’r prosiect wedi cynorthwyo cartref gofal Arthur Jenkins, Hafod Care, ym Mlaenafon, i greu cyfleoedd lles ystyrlon i’w trigolion gyda’r plant yn y gymuned leol. Trefnodd y tîm Cydweithredu i Ofalu, sesiwn rhwng yr ysgol gynradd leol, trigolion cartref gofal ac Amgueddfa Genedlaethol y Pwll Mawr er mwyn rhannu syniadau ynglŷn â sut yr hoffen nhw greu menter gydweithredol rhwng cenedlaethau, sydd o les i bawb.

Penderfynodd y trigolion a’r plant ysgol ar enw i’w menter gydweithredol, sef, ‘Rhannu a Gofalu’ ac maent eisoes wedi cymryd rhan gyda’i gilydd mewn dau ddigwyddiad. Mae Rhannu a Gofalu yn helpu’r trigolion hŷn i fynegi eu llais a’u dewis o weithgareddau sy’n codi eu hysbryd, yn enwedig trwy eu hymrwymiad parhaus a gwerthfawr yn y gymuned leol.

Eglura Charlotte Witney, Rheolwr Datblygu Busnes yn Hafod Care:

“Mynegodd ein trigolion a’n plant o’r ysgol gynradd leol ddiddordeb mewn cynnal gweithgareddau ar y cyd yn ein cymuned leol gan weithio i chwalu unrhyw rwystrau canfyddedig o ran cenhedlaeth. Mae’r gweithgareddau wedi darparu rhyngweithio cadarnhaol i’r ddwy genhedlaeth, yn benodol ar gyfer trigolion nad yw eu teuluoedd yn byw yn yr ardal ac ar gyfer y plant sydd wedi colli eu neiniau a’u teidiau.”

Meddai Hilary Roberts, athrawes yn ysgol gynradd XXX ym Mlaenafon:

“Uno cenedlaethau er mwyn iddynt ddeall ei gilydd oedd ein prif fwriad pan dderbynion ni’r cyfle i uno â thrigolion Cartref Gofal Arthur Jenkins. Rydym wedi mwynhau cymryd rhan mewn nifer o brosiectau cymunedol ac rydym yn hynod falch o fod yn rhan o gynllun mor werth chweil. Rydw i wedi gweld sut y gall yr ansicrwydd y gellir ei deimlo gan y ddau grŵp tuag at ei gilydd ddiflannu’n gyflym fel bod dealltwriaeth a pharch yn dod yn ei le.

“Byddwn yn annog ysgolion eraill i gymryd y cyfle i ddod yn rhan o fenter rhwng cenedlaethau o fewn eu cymuned eu hunain gan fy mod wedi gweld gymaint o enghreifftiau o’r effaith gadarnhaol y mae wedi ei chael ar yr holl aelodau.”

Meddai Donna Coyle, Rheolwr Prosiect Cydweithredu i Ofalu yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

“Mae cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Llesiant (Cymru) Llywodraeth Cymru wedi newid pethau yn fawr iawn o fewn gofal cymdeithasol i Gymru ac er lles i weithgareddau cydweithredol cymdeithasol yr ydym wedi gallu eu cyflwyno trwy’r prosiect Cydweithredu i Ofalu dros y 18 mis diwethaf. Mae’r ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a darparwyr gwasanaeth gofal i edrych ar y ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno gwasanaethau, sy’n gosod y dinesydd a’r gymuned wrth wraidd penderfyniadau am wasanaethau.

“Daeth un o ddarparwyr gofal mwyaf Cymru, Cartrefi Cymru, yn fenter gydweithredol aml-randdeiliad y llynedd, ac mae nifer cynyddol o bobl ledled Cymru yn uno i greu eu mentrau cydweithredol gofal a lles eu hunain. Maent yn cynnig datrysiadau go iawn i’r her o gael gwasanaethau gofal fforddiadwy ac effeithiol yng Nghymru.”

Tyfu gofal cydweithredol a mudiad llesiant yng Nghymru

Gyda throsiant o £21 miliwn a 1,250 o weithwyr, mae Menter Gydweithredol Cartrefi Cymru bellach yn eiddo i’w aelodau, sef – y bobl y maen eu cefnogi, teulu a chefnogwyr o’r gymuned leol a’i gweithwyr. Mae gan randdeiliaid y fenter gydweithredol y cyfle i ddod yn aelodau sy’n pleidleisio, a all sefyll am y bwrdd a chanddynt lais democrataidd mewn penderfyniadau.

Mae Menter Gydweithredol Cartrefi Cymru wedi creu ffocws newydd sy’n uno’r bobl y maent yn eu cefnogi, eu teuluoedd a gweithwyr er mwyn cryfhau eu cymunedau trwy fforymau lleol, lle caiff penderfyniadau eu gwneud gan seldau, yn ddemocrataidd ac fel pobl gyfartal.

Mae’r strwythur cydweithredol a ddatblygwyd gyda chymorth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, yn cynnig ffordd o weithredu cyfranogiad pobl i lywodraethiant y sefydliad. Gall y model hwn sicrhau ei aelodau ei fod wedi ymrwymo i’r safonau uchaf o ofal cymdeithasol ac arferion cyflogaeth, a bod ganddo sianelau effeithiol yn eu lle i’w dal yn gyfrifol gan ei randdeiliaid.

Meddai Adrian Roper, Prif Weithredwr Menter Gydweithredol Cartrefi Cymru:

“Mae hi dal yn ddyddiau cynnar, ond mae’r manteision o fod yn fenter gydweithredol eisoes yn cynnwys adborth gwell ynglŷn â sut y gallwn wella’r hyn yr ydym yn ei wneud, cynnydd sylweddol mewn gweithgareddau sy’n gwneud ein cymunedau’n well i bawb – heb greu rhagor o gost i unrhyw un – a llawer o gyfraniadau newydd gan gyflenwyr lleol ac aelodau o’r gymuned.”

I’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn creu menter gofal a lles, mae’r prosiect Cydweithredu i Ofalu wedi creu pecyn cymorth gam wrth gam rhyngweithiol i bobl gael mynediad iddo a’i ddefnyddio. Ewch i www.care.wales.coop a rhagor o wybodaeth neu ffonio Canolfan Cydweithredol Cymru ar 0300 111 5050 a gofyn am ‘Cydweithredu i Ofalu.’