Cymunedau Digidol Cymru
Mae Cymunedau Digidol Cymru’n helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl a fyddai’n elwa o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol.
Gweler y dudalen hon yn: English
Cymunedau Digidol Cymru’n weithio ledled Cymru gydag unrhyw sefydliad sy’n cefnogi pobl a fyddai’n elwa o fynd ar-lein. Mae’n brosiect Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chyflwyno gan Ganolfan Gydweithredol Cymru.
Cymorth yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys:
Asesiad cychwynnol o’ch sefydliad er mwyn eich helpu chi i ddatblygu a darparu gweithgareddau cynhwysiant digidol.
Hyfforddiant i aelodau staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn effeithiol ac yn ddiogel.
Benthyciadau tymor byr o offer digidol, gan gynnwys llechi, gliniaduron a Fitbits er mwyn eich galluogi chi i ddarparu gweithgareddau digidol.
Cymorth i ddatblygu rhaglen gwirfoddoli digidol, paru sefydliadau â gwirfoddolwyr digidol a hyfforddi gwirfoddolwyr presennol.
Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn dangos bod eich sefydliad wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag allgáu digidol.
Mae croeso i bob sefydliad ymuno â’n rhwydwaith o bartneriaethau Mynd Ar-lein, sydd wedi cael eu datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru. Yn ogystal, rydym yn datblygu partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n awyddus i gydweithio er mwyn datblygu nodau cynhwysiant digidol.
Am ragor o wybodaeth am Gymunedau Digidol Cymru, y gefnogaeth sydd ar gael a chyrsiau hyfforddi sydd ar gael, ewch i wefan benodol DCW.