Blog | Economi sylfaenol | Menter gymdeithasol | Policy

Pam mae mentrau cymdeithasol yn allweddol i’r economi sylfaenol

Diffinnir yr economi sylfaenol fel un sy’n cynnwys gweithgareddau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd. Mae enghreifftiau o fusnesau economi sylfaenol yn cynnwys siopau bwyd, cyfleusterau gofal plant a chwmnïau adeiladu.

By Ceri-Anne Fidler Jones · December 16, 2019

See this page in: English

Mae busnesau cymdeithasol yn rhan bwysig o’r economi sylfaenol. Ond er bod busnesau cymdeithasol a busnesau economi sylfaenol yn rhannu llawer o nodweddion, dydyn nhw ddim yn unffurf.

Mae llawer o fusnesau cymdeithasol yn gweithredu mewn sectorau sylfaenol ond dydyn nhw ddim wedi’u cyfyngu i sectorau sylfaenol sy’n darparu hanfodion dyddiol. Er enghraifft, yng Nghymru, gellir eu darganfod yn cynhyrchu nwyddau ymolchi moethus a chwrw, yn ogystal â rhedeg stiwdios dylunio graffig a chwmnïau cynhyrchu ffilm.

Efallai mai’r tebygrwydd allweddol yw bod busnesau economi sylfaenol a busnesau cymdeithasol wedi’u lleoli mewn cymunedau lleol gyda phenderfyniadau wedi’u gwreiddio’n gadarn yn y boblogaeth leol. Nod y ddau fath o fusnes yw gwella eu cymuned, darparu swyddi a gwneud i arian lleol weithio at ddibenion lleol.

Y rheswm mae busnesau cymdeithasol yn allweddol i’r economi sylfaenol yw bod busnesau cymdeithasol, o’u cymharu â busnesau prif ffrwd, yn cynnig gwerth cymdeithasol ychwanegol. Fel busnesau sylfaenol y brif ffrwd, eu nod yw gwneud elw, ond mae’r elw hwn yn cael ei ail-fuddsoddi neu ei roi i greu newid cymdeithasol cadarnhaol. Mae buddsoddiad yn y busnesau hyn yn aros yn y gymuned ac yn cael ei ailgylchu er budd economaidd a chymdeithasol ehangach.

Yn wahanol i fusnesau sylfaenol y brif ffrwd, mae gan fusnesau cymdeithasol genhadaeth gymdeithasol a / neu amgylcheddol glir a nodir yn eu dogfennau llywodraethu. Trwy werthu nwyddau a gwasanaethau, mae busnesau cymdeithasol yn creu swyddi ac yn ail-fuddsoddi eu helw yn ôl yn eu busnes neu’r gymuned leol. Mae hyn yn caniatáu iddynt fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, gwella cyfleoedd bywyd pobl, darparu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i’r rhai sydd bellaf o’r farchnad, cefnogi cymunedau a helpu’r amgylchedd.

Maen nhw hefyd yn gyflogwyr pwysig yn eu hardaloedd lleol, gyda’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 57% o’r gweithlu busnes cymdeithasol yn byw o fewn 10 milltir i’r busnes. Mae busnesau cymdeithasol hefyd yn tueddu i fod yn well cyflogwyr na busnesau traddodiadol. Mae’r sector busnes cymdeithasol yn ymdrechu i fod yn sector gwaith teg.

Er enghraifft, mae oddeutu chwarter yr holl fusnesau cymdeithasol yn buddsoddi eu helw yn eu hamcanion cymdeithasol, ac mae mwy na thri chwarter yn talu’r Cyflog Byw i’w holl staff, o’i gymharu â 48% o fusnesau bach Cymru. Mae mwyafrif y busnesau cymdeithasol (86%) yn nodi bod eu staff, i raddau o leiaf, yn cymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau.

Mae busnesau cymdeithasol eisoes yn chwarae rhan bwysig yn agenda polisi ddatblygol o ran yr economi sylfaenol. Adlewyrchir hyn yn nifer y prosiectau busnes cymdeithasol a dderbyniodd gyllid gan Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Ond mae angen agenda benodedig o hyd ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru.

Er bod busnesau cymdeithasol yn wynebu llawer o’r un heriau ag unrhyw fusnes sylfaenol yn y brif ffrwd, maent hefyd yn wynebu heriau penodol. Mae ganddyn nhw ysgogwyr gwahanol ac mae angen iddynt gydbwyso amcanion amgylcheddol a chymdeithasol â rhai economaidd.

Gall busnesau cymdeithasol ei chael yn anoddach cael mynediad at gyllid oherwydd eu strwythurau perchnogaeth. Maen nhw’n fusnesau aml-randdeiliad sy’n annog cyfranogiad staff, y gymuned ac aelodau, sy’n galw am ddull gwahanol o redeg busnes. Am y rhesymau hyn, mae angen cyngor a chymorth busnes arbenigol arnyn nhw a systemau cyllido teilwredig. Mae angen cefnogi’r busnesau hyn mewn ffordd sy’n sympathetig i’w dulliau cyflwyno a’r effeithiau cymdeithasol.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn lansio gweledigaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn gosod y blaenoriaethau a’r camau gweithredu ar gyfer y degawd nesaf. Ein gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn gweld y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru yn tyfu’n gryfach ac yn cefnogi’r economi sylfaenol, gan greu Cymru sy’n decach i bawb.