#NewyddionDaCymru | Menter gymdeithasol

Mae’r cynllun peilot hwn yn helpu i gysylltu busnesau lleol â sefydliadau cyhoeddus ac yn creu cryfder trwy gydweithio

Dyma Dafydd Thomas o Practice Solutions yn sôn wrthym am eu prosiect Connect4SuccessRCT a’i genhadaeth i roi hwb i economïau yn Rhondda Cynon Taf, codi safonau byw a gweithio ynghyd â gwella lles cymunedau trwy ddarparu cyfleoedd i fusnesau lleol gydweithredu – i sicrhau bod arian caffael yn aros yn lleol.

By Ben Bostock · Hydref 2, 2020

Gweler y dudalen hon yn: English

O’r dechrau, nod Connect4SuccessRCT oedd cynyddu faint o arian caffael y mae sefydliadau cyhoeddus yn ei wario ar fusnesau lleol yn Rhondda Cynon Taf er mwyn adeiladu economïau lleol gwydn, codi safonau byw a gweithio a gwella lles cymunedau.

Mae’r cynllun peilot yn cysylltu busnesau lleol â sefydliadau cyhoeddus, yn ogystal â chynnig ymgynghoriaeth arbenigol, hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio a chymorth gweinyddol.

O ble ddaeth y syniad Connect4SuccessRCT?

O lawer o bethau – gyrfa gyfan o weithio yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat.

Rhaid i ni atal arian, adnoddau a doniau rhag gadael ein cymunedau yn sgil contractau cyhoeddus mawr yn cael eu hennill gan sefydliadau mawr tu allan i’r ecosystem leol. Briwsion sydd ar ôl i bobl leol – cyfleoedd â thâl isel – tra bod eraill yn tynnu elw o’r ardal.

Mae llawer o unigolion gyda syniadau gwych ac egni yn ein cymunedau. Mae Connect4SuccessRCT yn ffordd o drefnu’r potensial hwnnw fel bod busnesau lleol yn gweithio gyda’i gilydd a heb fod yn cystadlu’n ddieisiau.

Dymunwn helpu pobl, sefydliadau a busnesau i wneud mwy o beth a wnant yn dda. Gallwn roi’r jig-so at ei gilydd gyda’n gilydd, gan dynnu ar gryfderau gwahanol dimau a llenwi’r bylchau a rhyddhau cyfleoedd posibl a newydd.

Credwn hefyd, trwy weithio gyda’n gilydd, y bydd yn cynyddu adnoddau ariannol a chydlyniant cyhoeddus y gymuned ac felly yn gwella lles.

Wrth wraidd hyn yw’r angen i ostwng anghydraddoldebau a sicrhau mwy o degwch. Dymunwn ddarparu cyfleoedd i bobl mewn ffordd sy’n deg; rhoi cyfle i bobl gael at swyddi llawn pwrpas gyda chyfleoedd i ddysgu a thyfu.

A fu rhaid i chi oresgyn unrhyw rwystrau/heriau mawr, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo?

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn her – i bawb. Roedd rhai busnesau wedi gallu addasu, mae rhai wedi cau. Bu rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid eu ffocws.

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â’r dyfodol, sydd wedi gwneud siarad â phobl yn anodd iawn pan mae cymaint o’n rhanddeiliaid yn ymladd pryderon brys iawn, er enghraifft, busnesau’n colli contractau a phawb yn colli incwm.

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn arbennig o anodd i lawer ar ymylon cymdeithas sydd wedi colli swyddi, profi incwm llai, ymdrechu i brynu bwyd a chael prescripsiynau, gyda rhai’n dioddef perthnasoedd difrïol, tlodi amser a cholli anwyliaid.

Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi addasu. Roedd yn rhaid gwneud. Rydym wedi bod yn defnyddio mwy o ymagweddau ar-lein ond cydnabyddwn hefyd nad yw pawb ar-lein ac ni all y byd rhithwir gymryd lle trafodaethau wyneb yn wyneb.

Mae hefyd wedi bod yn her ceisio cydbwyso blaenoriaethau gwahanol randdeiliaid. Nid oes unrhyw beth yn gyson, felly bydd angen trafod ac archwilio ymhellach, a fydd yn waith caled hefyd.

Nid yw’n ymwneud â dweud wrth bobl mai dyma beth ddylent ei wneud, ond rhoi’r cyfle i gerdded ochr yn ochr â’r prosiect, rhannu eu hegni a barnau mewn gofod lle gallant fuddsoddi eu hadnoddau personol a chymunedol a chael rhywbeth yn ôl.

Dyma rywbeth a ddylai gael ei gofleidio gan y gymuned leol ac, i raddau, mae’n arbrawf diogel-i-fethu. Os nad yw pobl yn ymateb, ni fydd unrhyw un yn dioddef, ond byddai’n drist iawn os na chaiff ei gofleidio ac y byddai cyfleoedd yn cael eu colli. Byddwn yn dal i ddysgu o’r broses a bod yn agored â phosibl yn symud ymlaen i addasu i lefel yr ymateb a gawn.

A yw Covid-19 wedi dylanwadu ar eich dewisiadau yn y tymor hir o ran sut rydych yn gweithredu?

Credaf ei fod wedi creu achos hyd yn oed cryfach ar gyfer symud y prosiect yn ei flaen.

Fel busnes, perthynas yw popeth. Rydym yn ceisio gweithio gyda phobl rydym yn eu hadnabod a mabwysiadu perthnasoedd newydd o ran rhywbeth rydym yn frwd am ei gylch. Mae hynny’n anodd iawn i bobl yn y sefyllfa hon am yr holl resymau y soniwyd amdanynt yn flaenorol.

Beth nesaf?

Mae’r prosiect wedi lansio’n gyhoeddus erbyn hyn, felly rydym yn annog busnesau lleol, entrepreneuriaid ac unrhyw un arall sydd â diddordeb i gofrestru ar ein gwefan.

Os oes gennych un neges ar gyfer y sector busnes cymdeithasol, beth fyddai?

Pwyslais ein prosiect yw bod yn gydweithredol yn hytrach na bod yn hynod gystadleuol. Rydym yn edrych ar sut i adeiladu ar eich cryfderau mewn ffordd a ddylai fod yn ffordd unigryw o symud ymlaen. Mae’r llyfrau rheolau’n cael eu hailysgrifennu ar hyn o bryd ac mae pawb yn dymuno dyfodol newydd i ddatblygu o boen y misoedd diwethaf – mewn cymaint o ffyrdd. Mae’n sicrhau bod y sector cyhoeddus yn amlwg yn cymryd rhan yn y newid hwnnw, gan nad yw’n mynd i ddigwydd trwy ewyllys da yn unig.