Rhoi llais i fusnesau cymdeithasol yn yr agenda ailadeiladu/adfer
Mae Dr Sarah Evans, Cynghorydd Polisi ac Ymchwil Annibynnol ar gyfer y sector busnes cymdeithasol, yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol yn chwarae rôl ganolog wrth ailadeiladu Cymru.
Gweler y dudalen hon yn: English
Mae effeithiau’r pandemig ar gwmnïau cydweithredol a’r sector mentrau cymdeithasol ehangach wedi amrywio’n fawr. Gobeithir y bydd llawer ohonynt wedi llwyddo i gael gafael ar Gyllid Cadernid Economaidd neu gronfa gadernid y Trydydd Sector sydd wedi bod ar gael i fusnesau yng Nghymru, a bydd rhai wedi gorfod defnyddio’r cynllun ffyrlo.
Yng Nghymru, mae nifer o asiantaethau cymorth sy’n gweithio gyda’r sector mentrau cymdeithasol. Yn ogystal â Chanolfan Cydweithredol Cymru, mae sefydliadau fel UnLtd, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynorthwyo’r sector hefyd. Ynghyd â Llywodraeth Cymru, mae’r sefydliadau hyn yn ffurfio Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol sy’n gweithredu fel llais unedig ar gyfer y sector yng Nghymru.
Drwy gydol y cyfnod ansicr hwn, mae’r asiantaethau cymorth hyn ar gyfer mentrau cymdeithasol wedi bod mewn cysylltiad agos â llawer o’u haelodau a’u cleientiaid. Maen nhw hefyd wedi adolygu effaith y pandemig ar draws y sector ac wedi cyhoeddi adroddiad, sef COVID-19 a’r effaith ar fentrau cymdeithasol yng Nghymru.
Wrth i Gymru ddechrau dod allan o gyfnod cyfyngiadau symud y pandemig, bydd busnesau cymdeithasol mewn sefyllfaoedd gwahanol. Gallai rhai fod yn agor eto ar ôl bod ar gau am fisoedd; bydd rhai wedi diwygio arferion gwaith ac wedi parhau i gynhyrchu cyflenwadau hanfodol; tra gallai eraill fod wedi addasu ac arallgyfeirio gwasanaethau i’w caniatáu i weithredu.
Nid ydym yn gwybod effaith lawn y pandemig ar gwmnïau cydweithredol a’r sector mentrau cymdeithasol, ond mae COVID-19 wedi dwysáu’r angen i newid a chynyddu cymhelliad pobl a chymunedau i ailadeiladu pethau’n wahanol. Gallai’r newid hwn mewn ymagwedd arwain at gyfleoedd i’r sector yn y dyfodol.
Wrth i Gymru symud ymlaen, rydym yn clywed termau fel ‘Ailadeiladu’n Well’ yn cael eu trafod o fewn cylchoedd gwleidyddol. Mae’r asiantaethau cymorth mentrau cymdeithasol yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan y sector lais yn yr agenda ailadeiladu/adfer.
Yn ystod y mis nesaf, bydd y Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol yn lansio Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer y sector. Nod y ddogfen yw rhoi gweledigaeth glir o botensial mentrau cymdeithasol i gyfrannu at fywydau a bywoliaeth pobl yng Nghymru a mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Mae hefyd yn amlinellu cynllun gweithredu blaengar i symud y sector ymlaen, creu modelau, datrysiadau a pherchnogaeth economaidd lleol newydd ac amgen, a sicrhau ei fod yn cyflawni ei botensial llawn yng Nghymru. Cydnabyddwn bwysigrwydd cynllun o’r fath ar yr adeg dyngedfennol hon.
Mae’r ddogfen hon yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen a byddwn yn ei defnyddio fel arf i lobïo’r Llywodraeth, yn ogystal â chyllidwyr rhanbarthol a lleol, i gydnabod yr hyn y gall y sector mentrau cymdeithasol ei gynnig wrth i ni edrych at y dyfodol.
Cyhoeddir y blog hwn yn rhan o gyfres ar gyfer Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 2020. Gadewch i ni ailadeiladu’n well gyda’n gilydd. #CadwchGydweithredu
“Wrth i Gymru symud ymlaen, rydym yn clywed termau fel ‘Ailadeiladu’n Well’ yn cael eu trafod o fewn cylchoedd gwleidyddol. Mae’r asiantaethau cymorth mentrau cymdeithasol yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan y sector lais yn yr agenda ailadeiladu/adfer.”
Rhag ofn i chi eu methu..
Darllenwch fwy o'n blogiau #KeepCooperating ar gyfer Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 2020
-
Amser i gymryd camau radical i ail-bwyso’r modelau perchenogaeth
Nisreen Mansour, Swyddog Polisi Cyngres yr Undebau Llafur i Gymru, yn edrych ar y rôl y gallai mentrau cymdeithasol ei chwarae er mwyn creu amodau cyflogaeth da a...
-
Tyfu ein hunain a bod yn berchen ar ein twf
Mae COVID-19 a Brexit yn golygu bod gofyn i ni ailfeddwl ynghylch cynhyrchu bwyd, diogelwch bwyd a chadwyni cyflenwi yng Nghymru. Mae Jon Parker yn ystyried y cyfleoedd...
-
Cynyddu perchnogaeth yn y gwaith
Nawr yw’r amser i feddwl yn fentrus ac yn arloesol ynglŷn â sut gallwn roi mwy o fusnesau yn nwylo gweithwyr, yn ôl Deb Oxley OBE o’r Gymdeithas...