#NewyddionDaCymru | Menter gymdeithasol

Nod llwyfan cymdeithasol o greu lle diogel i weithwyr proffesiynol sy’n teimlo’n ynysig allu cysylltu a rhannu profiadau

Anita Cartwright sy'n esbonio pam y gwnaeth adael ei swydd yn y diwydiant ffasiwn a'i ffordd o fyw blinedig i ddechrau 'The Village' sy'n cynnig lle i ymarferwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, allu cael cymorth cymheiriaid, mentoriaid, cydweithredwyr, a dod o hyd i gyflenwyr.

By Ben Bostock · July 2, 2020

See this page in: English

Sut y dechreuodd y syniad ar gyfer ‘The Village’?

Yn anffodus, mae nifer o bobl yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, yn enwedig wrth i ni addasu i’r normal newydd ar ôl COVID. Bydd ‘The Village’ yn meithrin gwydnwch yn erbyn yr heriau hyn, drwy lwyfan newydd, mwy caredig. Mae’n cynnig cymuned o gymorth gan gymheiriaid i’r rheini sy’n ceisio gwneud bywoliaeth fel gweithwyr llawrydd neu fel perchnogion busnesau bach, a’r rheini sy’n awyddus i roi cynnig arni. Mae nifer o bobl yn gorfod ailasesu o ganlyniad i ansicrwydd ynglŷn â swyddi hefyd. Rydym yn cynnig cymuned gefnogol iddynt wrth iddynt fentro i’r byd hunangyflogedig. Fy mreuddwyd yw i ‘The Village’ ryddhau’r potensial sydd gan bob un ohonom. Mae gan bob un ohonom ni sgiliau unigryw sy’n haeddu’r cyfle i gael eu harddangos. Os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, gallwn fod yn gryfach, a dod o hyd i ffyrdd o symud ymlaen gyda chefnogaeth, cydweithredu a chymuned.

Pam fy mod am wneud hyn? Wel, rwyf wedi wynebu rhai blynyddoedd anodd, a dysgais lawer o’r help a gefais gan ambell unigolyn caredig. Saith mlynedd yn ôl, roeddwn yn gweithio o fore gwyn tan nos yn y diwydiant ffasiwn, ond eto, roeddwn yn gwario’r arian roeddwn yn ei ennill yn ceisio ymdopi â ffordd o fyw blinedig – roeddwn yn llosgi’r gannwyll yn ei deupen, a minnau heb droi’n 30 oed eto. Felly, gadewais Lundain a dod yn ôl i Gymru, i’r ardal lle cefais fy magu, i ddatblygu busnes ar-lein gyda fy ngŵr. Fodd bynnag, mae dechrau bywyd, busnes, a theulu yn ardal wledig Bannau Brycheiniog wedi bod yn anodd iawn.

Roedd ein cleientiaid wedi’u lleoli dramor, ac nid oedd gennym ‘gydweithwyr’ ac felly roeddem yn teimlo’n unig iawn ar y dechrau. Yna, wynebais nifer o anawsterau mawr yn y fy mywyd, a arweiniodd at fethu â gadael y tŷ am wyth mis, gyda beichiogrwydd anodd iawn. Roeddwn yn hynod ddiolchgar i’r bobl a wnaeth fy nghefnogi yn ystod y cyfnod hwn, o ffrindiau a chymdogion newydd lle rydym yn byw yng Nghrucywel, i’r grwpiau cymorth ar-lein i bobl sy’n dioddef o’r cyflwr a gefais (Hyperemesis Gravidarum). Dydw i wir ddim yn siŵr sut y byddwn wedi ymdopi hebddynt. Bydd ‘The Village’ felly yn sicrhau bod pobl yn cael help llaw pan fydd ei angen arnynt. Roeddwn eisoes yn gweithio ar ffordd o gynnig cymorth gan gymheiriaid i’r rheini sy’n byw y tu allan i’r dinasoedd mawr, neu’r rheini, fel fi, nad ydynt yn rhan o rwydweithiau traddodiadol. Yna, daeth COVID-19 i’r amlwg ac roeddwn yn gwybod ei bod yn amser gweithredu.

Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i iechyd meddwl nifer o bobl ac, yn anffodus, megis dechrau gweld y canlyniadau economaidd yr ydym ni. Mae wedi bod yn hyfryd gweld sut mae cymunedau wedi helpu eu perchnogion busnesau bach, o dalu o flaen llaw am gael torri eu gwallt , i brynu eu bwyd yn lleol. Mae’r holl fusnesau a chynhyrchwyr bach hyn sy’n ein cynnal – yr economi sylfaenol – mor bwysig i’n llesiant, ond maent yn wynebu’r risg fwyaf yn sgil y dirwasgiad sydd ar ddod. Felly mae ‘The Village’ yn cynnig lle diogel i’r gweithwyr llawrydd a pherchnogion busnesau bach hyn i ddod ynghyd – boed hynny er mwyn rhannu arferion gorau neu ddod o hyd i fentoriaid, cyflenwyr a chydweithredwyr. Gyda’n gilydd, gallwn fod yn llawer cryfach nag ar ein pen ein hunain, a helpu ein gilydd i ddod drwyddi.

Allwch chi roi crynodeb i ni o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni?

Rydym wedi defnyddio’r cyfyngiadau symud i gynllunio; gweithio allan beth yn union rydym am ei gynnig, cyfrifo costau’r cynllun busnes, a chael llawer o gyngor. Mae hyn wedi golygu treulio llawer o amser ar alwadau fideo yn cael cymorth cymheiriaid gan amrywiaeth eang o arbenigwyr yn eu maes; o ddatblygwyr polisi i ddatblygwyr meddalwedd, i’r rheini sydd wedi dechrau eu busnesau a’u cymunedau llwyddiannus eu hunain. Mae gennym gynlluniau mawr, ond y prif gyngor rydym wedi’i gael yw i gymryd un cam ar y tro a gadael i’r gymuned ddewis yr hyn rydym yn ei gynnig ac ym mha drefn y dylid gwneud pethau.

Er mwyn dechrau arni, rydym wedi lansio grŵp Facebook ‘The Village Community’ ac rydym yn falch bod dros 50 o weithwyr llawrydd a pherchnogion busnesau bach wedi cofrestru yn ystod y deuddydd cyntaf, gyda’r rhan fwyaf ohonynt o’r ardal leol, sef De Powys, Sir Fynwy a Blaenau Gwent, a rhai ardaloedd pellach fel Bryste, Swydd Amwythig, Dwyrain Sussex, a Ffrainc, hyd yn oed. Ar y diwrnod cyntaf, roeddwn wrth fy modd bod aelod newydd o’r grŵp wedi cysylltu â mi i ddiolch i mi am ddechrau’r gymuned. Dywedodd nad oedd ganddo lawer o hyder ar ôl bod allan o’r byd proffesiynol am gyfnod, ond aeth ymlaen i restru llu o sgiliau yr oedd yn meddu arnynt. Beth sy’n wych yw bod ganddo brofiad mewn diwydiant arbenigol iawn, ac un y mae aelod arall o’r grŵp yn ceisio ymuno ag ef. Rwyf wedi cyflwyno’r ddau i’w gilydd, ac maent am gyfarfod cyn gynted â phosibl – pwy a ŵyr beth y gallai’r sgwrs honno ei sbarduno? Rydym hefyd wedi rhoi dau arddwr brwdfrydig mewn cysylltiad â’i gilydd i weithio ar brosiect, wedi cysylltu grŵp o gynhyrchwyr bwyd gwledig â chadwyn gyflenwi bosibl yng Nghaerdydd, ac wedi trefnu hyfforddiant rheoli straen am ddim i gymheiriaid, a hyfforddiant ar sut i gyhoeddi. Mae bod yn rhan fach o greu dyfodol newydd i bobl yn werth chweil. Rhoddodd yr hyder i mi ein bod ar y trywydd cywir, gan fod rhan allweddol o’n huchelgeisiau ehangach yn cynnwys cysylltu pobl a all lenwi bylchau ei gilydd o ran sgiliau â’i gilydd

A oedd angen i chi oresgyn unrhyw rwystrau / heriau mawr?

Nid yw’n syndod mai’r her fwyaf yw cael gafael ar gyllid. Rydym yn gobeithio yn yr hirdymor y bydd y gymuned yn cynnal ei hun gan bobl sy’n talu i mewn yr hyn y gallant ei fforddio. Yna, byddwn yn rhannu ein helw gyda’r gymuned ar ffurf micrograntiau, i oresgyn y rhwystrau i fentrau, fel hyfforddiant, ardystaid, a deunyddiau crai. Fodd bynnag, bydd yn costio degau o filoedd o bunnoedd i adeiladu ein llwyfan pwrpasol. Rydym yn gwneud ceisiadau am grantiau ond, yn y cyfamser, rydym yn cydweithredu ag eraill er mwyn cynnig cymaint â phosibl cyn gwneud y buddsoddiad mawr hwn.

"Nawr yw'r awr! Mae'r byd yn newid a bydd busnesau cymdeithasol yn allweddol i sicrhau y bydd ffyniant economaidd yn y dyfodol yn golygu safonau byw gwell a byd mwy cynaliadwy a charedig. Rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol rydym am ei weld, gyda'n gilydd."

Anita Cartwright, The Village

Beth sydd nesaf?

Mae gennym uchelgeisiau mawr. Y prif uchelgais yw cael ein llwyfan ein hunain gan ein bod am gynnig rhywbeth amgen i’r cyfryngau cymdeithasol presennol, a gaiff ei lunio yn seiliedig ar y cysyniad o gyfalafiaeth gwyliadwriaeth h.y. lle mae’n ymddangos bod cwmni fel petai’n cynnig ei wasanaethau am ddim, ond yna mae’n olrhain y ffordd y mae defnyddwyr yn rhyngweithio er mwyn gwthio hysbysebion arnynt. Nid ydym am fynd i lawr y trywydd hwnnw. Rydym yn credu y dylid haeddu dylanwad, yn hytrach na’i brynu. Nid ydym yn credu ychwaith mewn waliau tâl, gan fod hyn yn rhoi’r rheini sy’n dechrau arni dan anfantais, ac yn cadw’r dylanwad ym mhocedi’r rhieni sydd â digon o arian.

Hoffech chi dynnu sylw arbennig at unrhyw aelodau o staff / y gymuned?

Rwyf wedi bod mor ddiolchgar am y gefnogaeth y mae’r prosiect hwn wedi’i chael gan y bobl sydd wedi rhoi o’u hamser am ddim i rannu eu harbenigedd a chyflwyno eraill i gydweithredwyr posibl. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i Peter Mills, sydd wedi ymuno fel Cyfarwyddwr Effaith. Mae wedi gweithio gyda rhai elusennau rhyngwladol mawr, ac mae’n sicrhau ein bod yn deall ein hamcanion cymdeithasol, ac yn olrhain y ffordd rydym yn eu bodloni. Mae’n werth sôn am y gymuned o fusnesau annibynnol yng Nghrucywel hefyd, am fod yn ysbrydoliaeth ac am ei pharodrwydd i ymuno â’r gymuned a’i chefnogi yn ystod ei dyddiau cynnar.

Sut mae Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn eich cefnogi?

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn wych wrth ateb nifer o gwestiynau ar realiti rhedeg busnes cymdeithasol, o sefydlu’r cwmni i’r gwaith llywodraethu parhaus. Diolch i Fusnes Cymdeithasol Cymru, byddwn wedi cofrestru fel Cwmni Budd Cymdeithasol yn swyddogol yn fuan.

Allwch chi ddisgrifio pwysigrwydd cydweithredu rhwng y gymuned leol a busnesau cymdeithasol?

Cydweithredu yw’r allwedd i’r hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn credu y gall rhwydwaith o unigolion angerddol gyflawni unrhyw beth. Rydym yn llawer cryfach fel cymuned nag ar ein pen ein hunain. Bydd hyn yn bwysicach fyth yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd heriol ac ansicr sydd i ddod.

Pe byddai gennych un neges ar gyfer y sector busnesau cymdeithasol ar hyn o bryd, beth fyddai honno?

Nawr yw’r awr! Mae’r byd yn newid a bydd busnesau cymdeithasol yn allweddol i sicrhau y bydd ffyniant economaidd yn y dyfodol yn golygu safonau byw gwell a byd mwy cynaliadwy a charedig. Rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol rydym am ei weld, gyda’n gilydd.

 


 

Os oes gennych syniad am fusnes cymdeithasol ac yr hoffech ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan Ddechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru, neilltuwch le ar un o’n gweminarau rhanbarthol ‘Dechreuwch Rywbeth Da’ neu cysylltwch â’r tîm Dechrau Newydd i weld sut gallant helpu.

‘The Village’ wedi cael cymorth a chyngor ymgynghoriaeth busnes gan Busnes Cymdeithasol Cymru Dechrau Newydd, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i gyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Oes gennych chi stori i #NewyddionDaCymru?

Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned neu os hoffech hyrwyddo eich gweithredoedd da, cysylltwch â ni er mwyn rhannu’r hanes.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.